Search Legislation

Rheoliadau Cynhyrchion sy'n Dod o Anifeiliaid (Mewnforion Trydydd Gwledydd) (Cymru) 2007

Newidiadau dros amser i: RHAN 1

 Help about opening options

Alternative versions:

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Mae newidiadau yn dal heb eu gwneud i Rheoliadau Cynhyrchion sy'n Dod o Anifeiliaid (Mewnforion Trydydd Gwledydd) (Cymru) 2007. Mae unrhyw newidiadau sydd wedi cael eu gwneud yn barod gan y tîm yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt gydag anodiadau. Help about Changes to Legislation

Close

Changes to Legislation

Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Cofnodir newidiadau ac effeithiau gan ein tîm golygyddol mewn rhestrau sydd i'w gweld yn yr adran 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth'. Os nad yw'r effeithiau hynny wedi'u cymhwyso eto i destun y ddeddfwriaeth gan y tîm golygyddol maent hefyd wedi'u rhestru ochr yn ochr â'r ddeddfwriaeth yn y darpariaethau yr effeithir arnynt. Defnyddiwch y ddolen 'mwy' i agor y newidiadau a'r effeithiau sy'n berthnasol i'r ddarpariaeth rydych yn edrych arni.

View outstanding changes

Changes and effects yet to be applied to Part 1:

Changes and effects yet to be applied to the whole Instrument associated Parts and Chapters:

RHAN 1LL+CCyflwyniad

Enwi, cymhwyso a chychwynLL+C

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynhyrchion sy'n Dod o Anifeiliaid (Mewnforion Trydydd Gwledydd) (Cymru) 2007.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru ac yn dod i rym ar 14 Chwefror 2007.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 1 mewn grym ar 14.2.2007, gweler rhl. 1(2)

DehongliLL+C

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “amodau mewnforio” (“import conditions”) mewn perthynas â chynnyrch, yw—

(a)

yr amodau a osodwyd ar gyfer mewnforio'r cynnyrch hwnnw mewn unrhyw Gyfarwyddeb, Penderfyniad neu Reoliad a restrir yn Atodlen 1, gan gynnwys—

(i)

gofynion penodol a osodwyd ar gyfer mewnforio'r cynnyrch hwnnw i Aelod-wladwriaeth benodol neu ardal benodol o Aelod-wladwriaeth; ac

(ii)

amodau a osodwyd ar gyfer mewnforio'r cynnyrch hwnnw at ddibenion penodol;

(b)

yr amodau a osodwyd ar gyfer mewnforio'r cynnyrch hwnnw mewn unrhyw Benderfyniad a restrir yn Atodlen 2;

(c)

yr amodau ynglŷn â'r wlad y mae'r cynnyrch yn dod ohoni yn wreiddiol fel y'u gosodwyd mewn unrhyw restr o drydydd gwledydd neu rannau o drydydd gwledydd y caniateir mewnforio cynhyrchion penodedig ohonynt a honno'n restr a dynnwyd o dan baragraff 1 o Erthygl 11 o Reoliad (EC) Rhif 854/2004; ac

(ch)

yr amodau ynglyn â sefydliad tarddiad y cynnyrch fel y'u gosodwyd mewn unrhyw restr o sefydliadau y caniateir mewnforio cynhyrchion penodedig ohonynt a honno'n rhestr a dynnwyd o dan baragraff 1 o Erthygl 12 o Reoliad (EC) Rhif 854/2004 (sy'n gosod rheolau penodol ar gyfer trefnu rheolaethau swyddogol ar gynhyrchion sy'n dod o anifeiliaid ac a fwriedir ar gyfer eu bwyta gan bobl(1);

ystyr “arolygydd pysgod swyddogol” (“official fish inspector”) yw swyddog iechyd amgylcheddol a benodwyd yn arolygydd pysgod swyddogol gan awdurdod lleol o dan reoliad 6(2)(b);

ystyr “yr Asiantaeth” (“the Agency”) yw'r Asiantaeth Safonau Bwyd;

ystyr “awdurdod lleol” (“local authority”)—

(a)

pan fo awdurdod iechyd porthladd, yw'r awdurdod iechyd porthladd hwnnw;

(b)

pan na fo unrhyw awdurdod iechyd porthladd, yw cyngor y sir neu'r fwrdeistref sirol yn ôl y digwydd;

mae “cludydd sydd â gofal am y tro” (“carrier who has charge for the time being”) dros gynnyrch, llwyth neu ranlwyth yn cynnwys gyrrwr unrhyw gerbyd, peilot unrhyw awyren a meistr unrhyw lestr (ond nid gyrrwr unrhyw drên) sy'n cludo'r cynnyrch, y llwyth neu'r rhanlwyth hwnnw;

ystyr “y Cod Tollau” (“the Customs Code”) yw Rheoliad y Cyngor (EEC) Rhif 2913/92 (sy'n sefydlu'r Cod Tollau Cymunedol)(2);

ystyr “y Comisiynwyr” (“the Commissioners” ) yw Comisiynwyr Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi;

ystyr “Cyfarwyddeb 97/78/EC” (“Directive 97/78/EC”) yw Cyfarwyddeb y Cyngor 97/78/EC (sy'n gosod yr egwyddorion sy'n llywodraethu'r dull o drefnu gwiriadau milfeddygol ar gynhyrchion sy'n dod i'r Gymuned o drydydd gwledydd)(3);

ystyr “cynhyrchion pysgodfeydd” (“fishery products”) yw pob anifail dŵr môr a dŵr croyw sy'n wyllt neu sydd wedi'i ffermio, p'un a yw'n fyw ai peidio, a holl ffurfiau, rhannau a chynhyrchion bwytadwy yr anifeiliaid hynny, gan gynnwys—

(a)

anifeiliaid dyframaeth a chynhyrchion dyframaeth fel y diffinnir “aquaculture animals” ac “aquaculture products” yn Erthygl 2 o Gyfarwyddeb y Cyngor 91/67/EEC (ynglŷn ag amodau iechyd anifeiliaid sy'n llywodraethu'r broses o roi anifeiliaid dyframaeth a chynhyrchion dyframaeth ar y farchnad)(4);

(b)

molysgiaid dwygragennog sy'n bwyta drwy hidlo; ac

(c)

ecinodermiaid, tiwnigogion a gastropodau morol sydd wedi'u bwriadu ar gyfer eu bwyta gan bobl,

ond nid yw'n cynnwys mamaliaid dyfrol, ymlusgiaid a llyffantod, a rhannau o'r anifeiliaid hynny;

ystyr “cynnyrch” (“product”) yw—

(a)

unrhyw gynnyrch sy'n dod o anifeiliaid ac a restrir yn yr Atodiad i Benderfyniad y Comisiwn 2002/349/EC (sy'n pennu'r rhestr o gynhyrchion sydd i'w harchwilio wrth safleoedd arolygu ar y ffin o dan Gyfarwyddeb y Cyngor 97/78/EC)(5);

(b)

unrhyw borfa, meillion, liwsérn neu ffawlys a sychwyd naill ai'n naturiol neu'n artiffisial, ac unrhyw gynnyrch a geir drwy sychu unrhyw borfa, meillion, liwsérn neu ffawlys felly; ac

(c)

unrhyw ŷd gwyrdd sydd wedi'i sychu naill ai'n naturiol neu'n artiffisial ac unrhyw gynnyrch (ac eithrio grawn) a geir drwy sychu unrhyw ŷd gwyrdd,

ond nid yw'n cynnwys cynhyrchion bwyd cyfansawdd fel y'u pennir yn Erthygl 3 o Benderfyniad y Comisiwn 2002/349/EC;

ystyr “cynnyrch a drawslwythwyd” (“transhipped product”) yw cynnyrch Erthygl 9 sydd wedi'i drawslwytho neu wedi'i ddadlwytho yn y ffordd a ddisgrifir (mewn perthynas â llwythi) yn Erthygl 9(1) o Gyfarwyddeb 97/78/EC wrth y safle arolygu ar y ffin ar gyfer ei gyflwyno;

ystyr “cynnyrch a ddychwelwyd” (“returned product”) yw cynnyrch a allforiwyd yn wreiddiol o diriogaeth dollau'r Gymuned ac a gaiff ei ddychwelyd yno am ei fod wedi'i wrthod gan drydedd wlad;

ystyr “cynnyrch Erthygl 9” (“Article 9 product”) yw cynnyrch o drydedd wlad y deuir ag ef gyntaf i'r tiriogaethau perthnasol wrth un safle arolygu ar y ffin ond y bwriedir ei fewnforio drwy un arall, fel y'i disgrifir (mewn perthynas â llwythi) yn Erthygl 9(1) o Gyfarwyddeb 97/78/EC, p'un a yw'r cynnyrch wedi'i drawslwytho neu wedi'i ddadlwytho wrth y safle arolygu cyntaf ar y ffin ai peidio;

ystyr “cynnyrch nad yw'n cydymffurfio” (“non-conforming product”) yw cynnyrch nad yw'n cydymffurfio â'r amodau mewnforio;

ystyr “cynnyrch tramwy” (“transit product”) yw cynnyrch sy'n tarddu o drydedd wlad ac, yn ôl yr wybodaeth a anfonwyd ymlaen llaw ac y cyfeirir ati yn Erthygl 3(3) o Gyfarwyddeb 97/78/EC, a fydd yn destun tramwy;

ystyr “Cynulliad Cenedlaethol” (“National Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ;

ystyr “dogfen berthnasol” (“relevant document”) yw unrhyw ddogfen ofynnol ac unrhyw dystysgrif fasnachol neu ddogfen fasnachol neu unrhyw dystysgrif arall neu ddogfen arall sy'n ymwneud â chynnyrch, gan gynnwys maniffest unrhyw lestr fordwyol neu awyren;

ystyr “dogfen fynediad filfeddygol gyffredin”(“common veterinary entry document”) yw dogfen ar y ffurf a geir yn Atodiad III i Reoliad (EC) Rhif 136/2004 (sy'n gosod gweithdrefnau ar gyfer gwiriadau milfeddygol wrth safleoedd arolygu Cymunedol ar y ffin a hynny ar gynhyrchion a fewnforir o drydydd gwledydd)(6);

ystyr “dogfen ofynnol” (“required document”) yw unrhyw dystysgrif filfeddygol wreiddiol, dogfen filfeddygol wreiddiol neu ddogfen wreiddiol arall sy'n ofynnol mewn perthynas â chynnyrch yn rhinwedd unrhyw Gyfarwyddeb, Penderfyniad neu Reoliad a restrir yn Atodlen 1;

ystyr “gweithredydd” (“operator”)—

(a)

mewn perthynas â safle arolygu ar y ffin, yw'r person sy'n darparu mangre a chyfleusterau eraill ar gyfer cyflawni gwiriadau milfeddygol wrth y safle arolygu hwnnw ar y ffin; a

(b)

mewn perthynas â sefydliad tarddiad Cymunedol neu sefydliad cyrchfan, yw'r person sy'n ei feddiannu at ddibenion ei fusnes;

ystyr “gwiriad adnabod” (“identity check”) yw gwiriad drwy arolygiad gweledol i sicrhau bod y tystysgrifau milfeddygol neu'r dogfennau milfeddygol neu ddogfennau eraill sy'n mynd gyda llwyth yn cyfateb i'r cynhyrchion sy'n ffurfio'r llwyth, a hwnnw'n wiriad a gyflawnir yn unol ag Erthygl 4(4)(a) o Gyfarwyddeb 97/78/EC;

ystyr “gwiriad dogfennol” (“documentary check”) yw'r archwiliad o'r tystysgrifau milfeddygol neu'r dogfennau milfeddygol neu ddogfennau eraill sy'n mynd gyda llwyth, ac sy'n cael ei gyflawni yn unol ag Erthygl 4(3) o Gyfarwyddeb 97/78/EC ac Atodiad I i Reoliad (EC) Rhif 136/2004;

ystyr “gwiriad ffisegol” (“physical check”) yw gwiriad ar gynnyrch (a all gynnwys gwiriadau o'r deunydd pacio a'r tymheredd a hefyd samplu a phrofi mewn labordy) sy'n cael ei gyflawni yn unol ag Erthygl 4(4)(b) o Gyfarwyddeb 97/78/EC ac Atodiad III iddi, ac, yn achos profi mewn labordy, Atodiad II i Reoliad (EC) Rhif 136/2004;

ystyr “gwiriad milfeddygol” (“veterinary check”) yw unrhyw wiriad y darperir ar ei gyfer yng Nghyfarwyddeb 97/78/EC gan gynnwys gwiriad dogfennol, gwiriad adnabod neu wiriad ffisegol;

ystyr “llwyth” (“consignment”) yw swm o gynhyrchion o'r un math a gwmpesir gan yr un dystysgrif filfeddygol neu ddogfen filfeddygol, neu ddogfen arall y darparwyd ar ei chyfer drwy ddeddfwriaeth filfeddygol, a'r rheini'n gynhyrchion sy'n cael eu cludo â'r un cyfrwng cludo ac sy'n dod o'r un drydedd wlad neu'r un rhan o drydedd wlad;

mae “mangre” (“premises”) yn cynnwys unrhyw adeiladwaith, gosodiad, cynhwysydd neu gyfrwng cludo;

ystyr “mewnforio”, pan fo'n cyfateb i'r enw “import” yn y fersiwn Saesneg o'r Rheoliadau hyn, yw rhyddhau ar gyfer cylchredeg yn rhydd o fewn ystyr “release for free circulation” yn Erthygl 79 o'r Cod Tollau;

ystyr “milfeddyg swyddogol” (“official veterinary surgeon”) yw milfeddyg a benodir gan y Cynulliad Cenedlaethol o dan reoliad 6(1)(a) neu gan awdurdod lleol o dan reoliad 6(2)(a);

ystyr “Penderfyniad 2001/881/EC” (“Decision 2001/881/EC”) yw Penderfyniad y Comisiwn 2001/881/EC (sy'n tynnu rhestr o safleoedd arolygu ar y ffin y cytunwyd arnynt ar gyfer gwiriadau milfeddygol ar anifeiliaid a chynhyrchion anifeiliaid o drydydd gwledydd ac yn diweddaru'r rheolau manwl ynghylch y gwiriadau sydd i'w cyflawni gan arbenigwyr y Comisiwn)(7);

ystyr “perchennog” (“owner”), mewn perthynas â chynnyrch, llwyth neu ranlwyth, yw'r person y mae'r eiddo yn y cynnyrch, y llwyth neu'r rhanlwyth wedi'i freinio ynddo am y tro;

dehonglir “person sy'n gyfrifol dros” (“person responsible for”), mewn perthynas â chynnyrch, llwyth neu ranlwyth, yn unol â rheoliad 3;

ystyr “person y mae'n ymddangos ei fod â gofal” (“person appearing to have charge”), mewn perthynas â chynnyrch, llwyth neu ranlwyth, yw unrhyw berson, gan gynnwys cludydd, y mae'n ymddangos bod y cynnyrch, y llwyth neu'r rhanlwyth hwnnw yn ei feddiant, o dan ei warchodaeth neu o dan ei reolaeth;

ystyr “rhanlwyth” (“part consignment”) yw llwyth sydd wedi'i dorri'n rhannau yn unol ag Erthygl 5 o Reoliad (EC) Rhif 136/2004;

ystyr “Rheoliad (EC) Rhif 136/2004” (“Regulation (EC) No.136/2004”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 136/2004 (sy'n gosod gweithdrefnau ar gyfer gwiriadau milfeddygol wrth safleoedd arolygu Cymunedol ar y ffin a hynny ar gynhyrchion a fewnforir o drydydd gwledydd)(8);

ystyr “Rheoliad (EC) Rhif 1774/2002” (“Regulation (EC) No.1774/2002”) yw Rheoliad (EC) Rhif 1774/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor (sy'n gosod rheolau iechyd ynghylch sgil-gynhyrchion anifeiliaid na fwriedir i bobl eu bwyta neu eu hyfed)(9);

ystyr “safle arolygu ar y ffin” (“border inspection post”) yw—

(a)

safle arolygu ar y ffin sydd wedi'i gynnwys yn y rhestr a gynhwysir yn yr Atodiad i Benderfyniad 2001/881/EC; neu

(b)

safle arolygu ar y ffin yng Ngweriniaeth Gwlad yr Iâ neu Deyrnas Norwy sydd wedi'i gynnwys yn y rhestr a gynhwysir yn yr Atodiad i Benderfyniad Rhif 86/02/COL Awdurdod Gwyliadwriaeth Cymdeithas Masnach Rydd Ewrop (EFTA)(10);

ystyr “safle arolygu ar y ffin ar gyfer cyflwyno” (“border inspection post of introduction”) yw safle arolygu ar y ffin lle y deuir â chynnyrch Erthygl 9 gyntaf i'r tiriogaethau perthnasol;

ystyr “safle arolygu ar y ffin ar gyfer cyrchfan” (“border inspection post of destination”) yw safle arolygu ar y ffin y bwriedir mewnforio cynnyrch Erthygl 9 drwyddo;

ystyr “sefydliad cyrchfan” (“destination establishment”), mewn perthynas â chynnyrch, yw'r sefydliad a nodir yn y cofnod ynglyn â chyfeiriad danfon (“delivery address”) yn Rhan 1 o'r ddogfen fynediad filfeddygol gyffredin;

ystyr “sefydliad tarddiad Cymunedol” (“Community establishment of origin”) yw'r fangre sydd wedi'i lleoli mewn Aelod-wladwriaeth lle y cymerodd cynnyrch a ddychwelwyd y ffurf yr oedd arno pan gafodd ei allforio'n wreiddiol o'r tiriogaethau perthnasol;

ystyr “storfa longau” (“ships' store”) yw mangre gaeedig y cyfeirir ati yn Erthygl 13(1)(c), neu warws a gymeradwywyd yn arbennig ac y cyfeirir ati yn Erthygl 13(2)(a), o Gyfarwyddeb 97/78/EC;

ystyr “swyddog awdurdodedig” (“authorised officer”) yw person a awdurdodwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol, awdurdod lleol neu'r Asiantaeth, naill ai'n gyffredinol neu'n arbennig, i weithredu mewn materion sy'n codi o dan y Rheoliadau hyn, p'un a yw'n swyddog i'r Cynulliad Cenedlaethol neu i awdurdod lleol neu i'r Asiantaeth ai peidio;

ystyr “y swyddogaethau rheoliadol” (“the regulatory functions”) yw'r swyddogaethau a neilltuir gan y Rheoliadau hyn i swyddogion awdurdodedig, milfeddygon swyddogol, arolygwyr pysgod swyddogol a chynorthwywyr a benodir o dan reoliad 6;

mae i “tiriogaeth dollau'r Gymuned” yr un ystyr â “the customs territory of the Community” yn Erthygl 3 o'r Cod Tollau;

ystyr “y tiriogaethau perthnasol” (“the relevant territories”) yw ardal sydd wedi'i ffurfio o diriogaethau'r Aelod-wladwriaethau, fel y'u rhestrir yn Atodiad I i Gyfarwyddeb 97/78/EC, tiriogaeth Gweriniaeth Gwlad yr Iâ, Tiriogaeth Teyrnas Norwy (ac eithrio Svalbard), Tywysogaeth Andorra, Ynysoedd Ffaröe a Gweriniaeth San Marino;

ystyr “tramwy” (“transit”) yw tramwy o un drydedd wlad i un arall, gan fynd drwy un neu ragor o Aelod-wladwriaethau, o dan y weithdrefn dramwy allanol y cyfeirir ati yn Erthyglau 91 i 97 o'r Cod Tollau;

ystyr “trydedd wlad” (“third country”) yw gwlad nad yw'n un o'r tiriogaethau perthnasol;

ystyr “warws dollau” (“customs warehouse”) yw warws sy'n bodloni amodau Erthyglau 98 i 113 o'r Cod Tollau, a lle y mae nwyddau yn cael eu storio yn ddarostyngedig i'r weithdrefn y cyfeirir ati yn yr Erthyglau hynny ynglŷn â chadw mewn warysau tollau; ac

mae i “warws rydd” yr ystyr sydd i “free warehouse” ac mae i “parth rhydd” yr ystyr sydd i “free zone” yn Nheitl IV, Pennod 3, Adran 1 o'r Cod Tollau.

(2Mae cynhyrchion y deuir â hwy i Gymru o Weriniaeth Gwlad yr Iâ, ac eithrio cynhyrchion pysgodfeydd, i'w hystyried at ddibenion y Rheoliadau hyn yn rhai y deuir â hwy i mewn o drydedd wlad.

(3Yn ddarostyngedig i baragraff (4), at ddibenion y Rheoliadau hyn, mae person yn dod â chynnyrch i mewn i diriogaeth neu ardal—

(a)os yw'n dod ag ef i'r diriogaeth neu'r ardal honno ac os y person hwnnw yw perchennog y cynnyrch;

(b)os yw'n dod ag ef i'r diriogaeth neu'r ardal honno ac os y person hwnnw yw'r cludydd; neu

(c)os yw cludydd yn dod ag ef i'r diriogaeth neu'r ardal honno yn unol â chyfarwyddiadau'r person hwnnw.

(4Nid yw cynnyrch sydd ar gyfrwng cludo sy'n gweithredu'n rhyngwladol, a hwnnw'n gynnyrch y bwriedir i griw neu deithwyr y cyfrwng cludo hwnnw ei fwyta neu ei yfed, yn gynnyrch y daethpwyd ag ef i mewn i diriogaeth neu ardal—

(a)os nad yw'r cynnyrch wedi'i ddadlwytho; neu

(b)os yw'n cael ei drosglwyddo'n uniongyrchol o un cyfrwng cludo sy'n gweithredu'n rhyngwladol i un arall yn yr un porthladd neu faes awyr ac o dan oruchwyliaeth, o fewn yr ystyr yn Erthygl 4(13) o'r Cod Tollau, gan y Comisiynwyr.

(5Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at offeryn Cymunedol yn gyfeiriad at yr offeryn hwnnw fel y'i diwygiwyd o bryd i'w gilydd.

Gwybodaeth Cychwyn

I2Rhl. 2 mewn grym ar 14.2.2007, gweler rhl. 1(2)

Y person sy'n gyfrifol am lwythLL+C

3.—(1Yn y Rheoliadau hyn, dehonglir cyfeiriad at “person sy'n gyfrifol am”, mewn perthynas â chynnyrch, llwyth neu ranlwyth yn unol â'r paragraffau canlynol.

(2Hyd nes—

(a)y bydd y cynnyrch, y llwyth neu'r rhanlwyth yn cyrraedd safle arolygu ar y ffin yng Nghymru am y tro cyntaf; neu

(b)yn achos cynnyrch Erthygl 9, neu lwyth neu ranlwyth o gynhyrchion Erthygl 9, y bydd yn cyrraedd safle arolygu ar y ffin ar gyfer cyrchfan yng Nghymru,

y person a bennir ym mharagraff (3) yw'r person sy'n gyfrifol am y cynnyrch, y llwyth neu'r rhanlwyth.

(3Y person y cyfeirir ato ym mharagraff (2) yw —

(a)y person y cyfeirir ato yn Erthygl 38(1) o'r Cod Tollau sy'n dod â'r cynnyrch, y llwyth neu'r rhanlwyth i mewn i diriogaeth dollau'r Gymuned;

(b)person y cyfeirir ato yn Erthygl 38(2) o'r Cod Tollau sy'n ysgwyddo'r cyfrifoldeb dros gludo'r cynnyrch, y llwyth neu'r rhanlwyth ar ôl iddo gael ei ddwyn i mewn neu ar ôl iddi gael ei dwyn i mewn i diriogaeth dollau'r Gymuned; neu

(c)person y gweithredodd y personau y cyfeiriwyd atynt yn is-baragraffau (a) neu (b) yn ei enw.

(4O'r amser—

(a)y mae'r cynnyrch, y llwyth neu'r rhanlwyth yn cyrraedd safle arolygu ar y ffin yng Nghymru am y tro cyntaf hyd nes iddo adael y safle arolygu hwnnw ar y ffin; neu

(b)yn achos cynnyrch Erthygl 9, neu lwyth neu ranlwyth o gynhyrchion Erthygl 9, y mae'n cyrraedd safle arolygu ar y ffin ar gyfer cyrchfan yng Nghymru hyd nes y bydd yn gadael y safle arolygu hwnnw ar y ffin ar gyfer cyrchfan,

y person a bennir ym mharagraff (5) yw'r person sy'n gyfrifol am y cynnyrch, y llwyth neu'r rhanlwyth.

(5Y person y cyfeirir ato ym mharagraff (4) —

(a)yw'r person y gweithredodd y personau y cyfeiriwyd atynt ym mharagraff (3)(a) neu (b) yn ei enw;

(b)os yw'r cynnyrch, y llwyth neu'r rhanlwyth yn cael ei storio dros dro, fel y cyfeirir at “temporary storage” yn Erthygl 50 o'r Cod Tollau, yw'r person y cyfeirir ato yn Erthygl 51(2) o'r Cod Tollau sy'n ei ddal mewn man storio dros dro; neu

(c)os yw—

(i)person y cyfeiriwyd ato yn is-baragraff (a) neu (b) wedi penodi cynrychiolydd yn ei ymwneud â'r awdurdodau tollau, o fewn ystyr “customs authorities” yn Erthygl 5 o'r Cod Tollau, a

(ii)cyfrifoldeb yn cael ei roi i'r cynrychiolydd neu fod y cynrychiolydd yn ysgwyddo cyfrifoldeb dros sicrhau bod y cynnyrch, y llwyth neu'r rhanlwyth yn destun gwiriadau milfeddygol,

yw'r cynrychiolydd hwnnw.

(6Ar ôl—

(a)i'r cynnyrch, y llwyth neu'r rhanlwyth adael safle arolygu ar y ffin y cyfeiriwyd ato ym mharagraff (4)(a); neu

(b)iddo adael, yn achos cynnyrch Erthygl 9, neu lwyth neu ranlwyth o gynhyrchion Erthygl 9, y safle arolygu ar y ffin ar gyfer cyrchfan,

y person a bennir ym mharagraff (7) yw'r person sy'n gyfrifol am y cynnyrch, y llwyth neu'r rhanlwyth.

(7Y person y cyfeiriwyd ato ym mharagraff (6) yw —

(a)y person a wnaeth ddatganiad tollau, o fewn ystyr “customs declaration” yn Erthygl 64 o'r Cod Tollau, sy'n ymdrin â'r cynnyrch, y llwyth neu'r rhanlwyth; neu

(b)os nad oes unrhyw ddatganiad tollau o'r fath wedi'i wneud eto, y person sy'n alluog i'w wneud.

Gwybodaeth Cychwyn

I3Rhl. 3 mewn grym ar 14.2.2007, gweler rhl. 1(2)

Esemptiad ar gyfer cynhyrchion awdurdodedig a mewnforion personolLL+C

4.—(1Nid yw Rhannau 3 i 9 yn gymwys i gynhyrchion y daethpwyd â hwy i Gymru o drydedd wlad gydag awdurdodiad blaenorol y Cynulliad Cenedlaethol fel samplau masnachu, i'w harddangos, neu ar gyfer astudiaethau neu ddadansoddiadau penodol.

(2O ran awdurdodiad gan y Cynulliad Cenedlaethol—

(a)rhaid iddo fod yn ysgrifenedig;

(b)yn achos cynhyrchion y deuir â hwy i mewn—

(i)fel samplau masnachu neu i'w harddangos, rhaid ei wneud yn ddarostyngedig i amod bod rhaid peidio â'u marchnata; a

(ii)yn achos astudiaethau penodol neu ddadansoddiadau penodol, rhaid ei wneud yn ddarostyngedig i amod bod rhaid peidio â'u cyflenwi i bobl eu bwyta neu eu hyfed;

(c)caniateir ei wneud yn ddarostyngedig i unrhyw amodau eraill (os o gwbl) y mae'n credu eu bod yn angenrheidiol i ddiogelu iechyd y cyhoedd neu iechyd anifeiliaid; ac

(ch)caniateir ei ddiwygio, ei atal neu ei ddirymu, mewn ysgrifen, ar unrhyw adeg.

(3Ni chaiff neb—

(a)defnyddio cynnyrch y mae'r esemptiad ym mharagraff (1) yn gymwys iddo at unrhyw ddiben nad yw wedi'i awdurdodi ar ei gyfer, na thorri unrhyw amod y cyfeiriwyd ato ym mharagraff (2)(b); na

(b)torri unrhyw amod arall yn awdurdodiad y Cynulliad Cenedlaethol mewn perthynas â chynnyrch o'r fath.

(4Yn achos cynhyrchion y deuir â hwy i Gymru i'w harddangos neu ar gyfer astudiaethau ac unrhyw nifer o gynhyrchion y deuir â hwy i mewn ar gyfer dadansoddiadau ac sy'n weddill ar ôl y dadansoddiadau hynny, rhaid i'r person a ddaeth â hwy i mewn wneud y canlynol cyn gynted â phosibl pan fydd yr arddangosfa, yr astudiaethau neu'r dadansoddiadau wedi gorffen, a'i wneud yn unol ag unrhyw amodau a bennir yn awdurdodiad y Cynulliad Cenedlaethol—

(a)eu hanfon ymlaen i drydedd wlad; neu

(b)eu gwaredu'n unol â Rheoliad (EC) Rhif 1774/2002 a Rheoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid (Cymru) 2006(11).

(5Pan fo swyddog awdurdodedig yn credu bod darpariaeth ym mharagraff (3)(a) neu (4) wedi'i thorri mewn perthynas â chynnyrch, rhaid iddo, drwy hysbysiad ysgrifenedig a gyflwynir i'r person y mae'n ymddangos ei fod â gofal dros y cynnyrch hwnnw, ei gymryd o dan ei ofal a gwneud y naill neu'r llall o'r canlynol—

(a)ei anfon ymlaen i gyrchfan y cytunwyd arni gyda'r person a ddaeth â'r cynnyrch i Gymru, sef cyrchfan sydd wedi'i lleoli mewn trydedd wlad, o fewn cyfnod o drigain o ddiwrnodau gan ddechrau ar y diwrnod ar ôl cyflwyno'r hysbysiad; neu

(b)ei waredu fel pe bai'n ddeunydd Categori 1 o dan Reoliad (EC) Rhif 1774/2002 yn y cyfleusterau a ddarparwyd at y dibenion hynny ac sydd agosaf at y man lle y mae'r swyddog awdurdodedig yn ei gymryd o dan ei ofal.

(6Pan fo swyddog awdurdodedig yn credu bod paragraff (3)(b) wedi'i dorri mewn perthynas â chynnyrch, caiff gymryd y cynnyrch hwnnw o dan ei ofal drwy hysbysiad ysgrifenedig a gyflwynir i'r person y mae'n ymddangos ei fod â gofal dros y cynnyrch, a chymryd y naill neu'r llall o'r camau a bennwyd ym mharagraff (5)(a) a (b).

(7Nid yw Rhan 3, ac eithrio rheoliad 25, na Rhannau 4 i 9 yn gymwys i'r canlynol-—

(a)llaeth powdr babanod, bwyd babanod, neu fwydydd arbennig y mae eu hangen am resymau meddygol ac sy'n cynnwys cig, cynhyrchion cig, llaeth, neu gynhyrchion llaeth o drydedd wlad—

(i)os ydynt ym magiau personol teithiwr ac wedi'u bwriadu iddo ef ei hun eu bwyta, eu hyfed neu eu defnyddio;

(ii)os nad oes mwy ohonynt nag y byddai'n rhesymol i unigolyn eu bwyta neu eu hyfed;

(iii)os nad oes angen eu cadw mewn oergell cyn eu hagor;

(iv)os ydynt yn gynhyrchion brand patent sydd wedi'u pecynnu i'w gwerthu'n uniongyrchol i'r defnyddiwr olaf; a

(v)os yw'r deunydd y maent wedi'u pacio ynddo yn gyfan, oni bai eu bod yn cael eu defnyddio ar y pryd;

(b)cig, cynhyrchion cig, llaeth neu gynhyrchion llaeth o Ynysoedd Ffaröe, Kalaallit Nunaat (Greenland), Gweriniaeth Gwlad yr Iâ, Liechtenstein, neu'r Swistir—

(i)os ydynt ym magiau personol teithiwr, neu os cânt eu hanfon drwy'r post neu eu cludo gan gludydd (ac eithrio fel rhan o'r broses fasnachu neu fel sampl fasnachu) a'u bod wedi'u cyfeirio at unigolyn preifat yng Nghymru;

(ii)os ydynt wedi'u bwriadu i'r teithiwr ei hun neu, yn ôl y digwydd, y sawl y cyfeirir hwy ato, eu bwyta neu eu hyfed; a

(iii)os nad yw cyfanswm eu pwysau ym magiau personol unrhyw deithiwr neu mewn unrhyw lwyth a anfonir drwy'r post neu a gludir gan gludydd at unigolyn preifat yn fwy na 5 cilogram; neu

(c)os yw'r cynhyrchion ym magiau personol teithiwr a'u bod wedi'u bwriadu iddo ef eu bwyta neu eu hyfed, neu os ydynt yn cael eu hanfon drwy'r post neu eu cludo gan gludydd (ac eithrio fel rhan o broses fasnachu neu fel sampl fasnachu) a'u bod wedi'u cyfeirio at unigolyn preifat yng Nghymru, a'u bod wedi'u bwriadu iddo ef eu bwyta neu eu hyfed, ac—

(i)os nad cig, cynhyrchion cig, llaeth neu gynhyrchion llaeth ydynt;

(ii)os nad ydynt yn pwyso mwy nag un cilogram;

(iii)os ydynt yn dod o drydedd wlad neu o ran o drydedd wlad y caniateir eu mewnforio ohoni yn unol â rhestr a lunnir drwy offeryn yn Atodlen 1; a

(iv)os nad ydynt yn dod o drydedd wlad neu o ran o drydedd wlad y gwaherddir eu mewnforio oddi yno gan unrhyw offeryn yn Atodlen 1.

(8Yn y rheoliad hwn ystyr “cig” (“meat”), “cynhyrchion cig” (“meat products”), “llaeth” (“milk”) a “cynhyrchion llaeth” (“milk products”) yw cynhyrchion o'r mathau hynny a restrir yn adrannau 01 — 04 o dan y pennawd I.2, Teitl I yn yr Atodiad i Benderfyniad y Comisiwn 2002/349/EC.

Gwybodaeth Cychwyn

I4Rhl. 4 mewn grym ar 14.2.2007, gweler rhl. 1(2)

(1)

OJ Rhif L139, 30.04.2004, t. 206, fel y'i diwygiwyd gan Gorigendwm i Reoliad (EC) Rhif 854/2004 (OJ Rhif L226, 25.06.2004, t. 83).

(2)

OJ Rhif L302, 19.10.92, t. 1, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 648/2005 (OJ Rhif L117, 4.5.2005, t. 13).

(3)

OJ Rhif L24, 30.1.98, t. 9, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad (EC) Rhif 882/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor (gweler Corigendwm OJ Rhif L191, 28.5.2004, t. 1).

(4)

OJ Rhif L46, 19.2.91, t. 1, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 806/2003 (OJ Rhif L122, 16.5.2003, t. 1).

(5)

OJ Rhif L121, 8.5.2002, t. 6, fel y'i darllenir gyda Rheoliadau'r Comisiwn (EC) 136/2004 (OJ Rhif L21, 28.1.2004, t. 11) ac (EC) Rhif 745/2004 (OJ Rhif L122, 26.4.2004, t. 1).

(6)

OJ Rhif L136, 22.01.2004, t. 11.

(7)

OJ Rhif L326, 11.12.2001, t.44, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Benderfyniad y Comisiwn 2006/414/EC (OJ Rhif L164, 16.6.2006, t. 27).

(8)

OJ Rhif L21, 28.1.2004, t. 11.

(9)

OJ Rhif L273, 10.10.2002, t. 1, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 208/2006 (OJ Rhif L36, 8.2.2006, t. 25) ac fel y'i darllenir gyda Rheoliadau'r Comisiwn Rhif 811/2003, 812/2003 ac 813/2003 (OJ Rhif L117, 13.5.2003, t. 14, t.19 a t.22), Penderfyniadau'r Comisiwn 2003/320/EC, 2003/321/EC, 2003/326/EC a 2003/327/EC (OJ Rhif L117, 13.5.2003, t. 24, t. 30, t. 42 a t. 44) a Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 780/2004 (OJ Rhif L123, 27.4.2004, t. 64).

(10)

OJ Rhif L69, 13.3.2003, t. 31.

Back to top

Options/Help

Print Options

You have chosen to open The Whole Instrument

The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

You have chosen to open The Whole Instrument as a PDF

The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download.

Would you like to continue?

You have chosen to open the Whole Instrument

The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

You have chosen to open Schedules only

The Schedules you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

See additional information alongside the content

Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.

Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

Timeline of Changes

This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.

Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources