RHAN 4Gwaredu a Chladdu Cyflenwadau Arlwyo nas Defnyddiwyd a Deunyddiau Eraill sydd ar Gyfrwng Cludo
Gwaredu cyflenwadau arlwyo nas ddefnyddiwyd
29.—(1) Ni fydd Rhan 3 yn gymwys i gynhyrchion y deuir â hwy i Gymru o gyfrwng cludo sy'n gweithredu'n rhyngwladol a'r rheini'n gynhyrchion a oedd wedi'u bwriadu i'w bwyta gan griw neu deithwyr y cyfrwng cludo hwnnw.
(2) Rhaid i unrhyw berson y mae cynnyrch y cyfeiriwyd ato ym mharagraff (1) yn ei feddiant neu o dan ei reolaeth gydymffurfio ag Erthygl 4(2) a (3) o Reoliad (EC) Rhif 1774/2002.
(3) Pan fo eitemau megis deunyddiau pecynnu, neu gytleri neu blatiau tafladwy—
(a)wedi bod mewn cyffyrddiad â chynnyrch y cyfeiriwyd ato ym mharagraff (1); a
(b)yn cael eu dadlwytho o'r cyfrwng cludo er mwyn eu gwaredu,
rhaid i'r person y cyfeiriwyd ato ym mharagraff (2) sicrhau yr ymdrinnir â'r eitemau hynny yn yr un ffordd â'r cynhyrchion eu hunain.
Cymeradwyo safleoedd tirlenwi
30.—(1) Caiff unrhyw berson sy'n gwaredu deunydd yn unol â rheoliad 29 drwy ei gladdu ar safle tirlenwi wneud hynny ar safle tirlenwi a gymeradwyir o dan y rheoliad hwn yn unig.
(2) Dim ond os yw wedi'i fodloni ar y canlynol y caiff y Cynulliad Cenedlaethol gymeradwyo safle tirlenwi at ddibenion gwaredu deunydd o dan reoliad 29—
(a)y byddai'r deunydd yn cael ei gladdu heb oedi gormodol er mwyn atal adar gwyllt rhag mynd ato;
(b)bod y gweithredydd wedi cymryd camau digonol i atal carnolion rhag mynd i'r rhan o'r safle tirlenwi sydd heb ei hadfer ac i'r rhan o'r safle tirlenwi sy'n cael ei gweithio ar y pryd; ac
(c)y byddai'r gweithredydd yn cydymffurfio ag unrhyw amodau sy'n gysylltiedig â'r gymeradwyaeth.
(3) Rhaid i'r gymeradwyaeth fod yn ysgrifenedig, caniateir ei gwneud yn ddarostyngedig i amodau a'i diwygio neu ei hatal drwy hysbysiad ysgrifenedig yn unol â rheoliad 32.
(4) Os bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn gwrthod rhoi cymeradwyaeth, neu'n rhoi cymeradwyaeth yn ddarostyngedig i amod, rhaid iddo wneud y canlynol drwy gyflwyno hysbysiad ysgrifenedig i'r ceisydd-—
(a)rhoi'r rhesymau dros wneud hynny; a
(b)esbonio hawl y ceisydd i gyflwyno sylwadau ysgrifenedig i'r Cynulliad Cenedlaethol ac i ymddangos gerbron person annibynnol a benodwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol a chael gwrandawiad gan y person hwnnw yn unol â rheoliad 33.
Gweithredwyr safleoedd tirlenwi
31.—(1) Rhaid i weithredydd safle tirlenwi a gymeradwywyd yn unol â rheoliad 30-—
(a)cynnal a gweithredu'r fangre yn unol â'r gofynion yn rheoliad 30(2)(a) a (b) ac unrhyw amodau sy'n gysylltiedig â'r gymeradwyaeth;
(b)sicrhau bod unrhyw berson a gyflogir gan y gweithredydd, ac unrhyw berson y caniateir iddo fynd i mewn i'r fangre, yn cydymffurfio â'r gofynion a'r amodau hynny;
(c)cydymffurfio â'r gofynion ynghylch cadw cofnodion a gynhwysir yn Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 1774/2002; ac
(ch)cadw cofnodion cyfatebol ar gyfer deunydd y cyfeiriwyd ato yn rheoliad 29(3).
(2) Caiff y cofnodion y mae'n ofynnol eu cadw o dan y rheoliad hwn fod ar ffurf ysgrifenedig neu electronig a rhaid eu cadw am ddwy flynedd o leiaf.
Diwygio, atal a dirymu cymeradwyaethau
32.—(1) Pan fo'r Cynulliad Cenedlaethol wedi'i fodloni nad yw unrhyw un o amodau'r gymeradwyaeth bellach yn cael ei chyflawni, neu na chydymffurfir â'r gofynion yn rheoliad 30(2)(a) a (b), neu ei bod yn angenrheidiol gwneud hynny am resymau iechyd y cyhoedd neu iechyd anifeiliaid, caiff, drwy hysbysiad ysgrifenedig a gyflwynir i'r gweithredydd, atal y gymeradwyaeth.
(2) Os yw'r Cynulliad Cenedlaethol wedi'i fodloni y dylid diwygio unrhyw un o amodau'r gymeradwyaeth am resymau iechyd y cyhoedd neu iechyd anifeiliaid, caiff ddiwygio'r gymeradwyaeth drwy hysbysiad ysgrifenedig a gyflwynir i'r gweithredydd.
(3) O ran ataliad o dan baragraff (1) neu ddiwygiad o dan baragraff (2)-—
(a)bydd yn effeithiol ar unwaith os yw'r Cynulliad Cenedlaethol wedi'i fodloni ei bod yn angenrheidiol iddo wneud hynny er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd neu iechyd anifeiliaid; a
(b)ni fydd yn effeithiol fel arall am o leiaf un ar hugain o ddiwrnodau ar ôl cyflwyno'r hysbysiad.
(4) Rhaid i'r hysbysiad ym mharagraff 32(1) neu (2)-—
(a)rhoi'r rhesymau dros yr ataliad neu'r diwygiad; a
(b)esbonio hawl gweithredydd y fangre i gyflwyno sylwadau ysgrifenedig i'r Cynulliad Cenedlaethol a chael gwrandawiad gan berson annibynnol a benodwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol yn unol â rheoliad 33.
(5) Pan fo apêl o dan reoliad 33 ni fydd diwygiad neu ataliad yn effeithiol tan benderfyniad terfynol y Cynulliad Cenedlaethol yn unol â'r rheoliad hwnnw oni fydd y Cynulliad Cenedlaethol yn credu ei bod yn angenrheidiol er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd neu iechyd anifeiliaid i'r diwygiad neu'r ataliad ddod yn effeithiol yn gynt.
(6) Pan fo'r Cynulliad Cenedlaethol wedi atal cymeradwyaeth, ac -—
(a)nad oes unrhyw apêl wedi'i dwyn yn unol â rheoliad 33; neu
(b)bod y Cynulliad Cenedlaethol yn cadarnhau'r ataliad yn dilyn apêl o'r fath,
caiff ddirymu'r gymeradwyaeth drwy hysbysiad ysgrifenedig ar yr amod ei fod wedi'i fodloni, o ystyried holl amgylchiadau'r achos, na fyddai'r fangre yn cael ei gweithredu yn unol â gofynion rheoliad 30(2)(a) neu (b) neu amodau'r gymeradwyaeth, os oes rhai.
Apelau
33.—(1) Caiff person y cyflwynwyd hysbysiad iddo o dan baragraff (4) o reoliad 30 neu baragraff (1) neu (2) o reoliad 32 o fewn un ar hugain o ddiwrnodau gan gychwyn ar y diwrnod y cyflwynwyd yr hysbysiad-—
(a)darparu sylwadau ysgrifenedig i'r Cynulliad Cenedlaethol; a
(b)rhoi hysbysiad ysgrifenedig ei fod yn dymuno ymddangos gerbron person annibynnol a benodwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol a chael gwrandawiad gan y person hwnnw.
(2) Pan fo apelydd yn rhoi hysbysiad o'i ddymuniad i ymddangos gerbron person annibynnol a benodwyd at y diben hwnnw a chael gwrandawiad ganddo-—
(a)rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol benodi person annibynnol i wrando ar y sylwadau a phennu terfyn amser erbyn pryd y mae'n rhaid cyflwyno'r sylwadau i'r person annibynnol hwnnw;
(b)rhaid i'r person a benodir felly beidio â bod, ac eithrio gyda chydsyniad yr apelydd, yn swyddog neu'n was i'r Cynulliad Cenedlaethol;
(c)os yw'r apelydd yn gofyn am hynny, rhaid i'r gwrandawiad fod yn gyhoeddus;
(ch)rhaid i'r person annibynnol gyflwyno adroddiad i'r Cynulliad Cenedlaethol; a
(d)os bydd yr apelydd yn gofyn amdano, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol ddarparu copi iddo o adroddiad y person annibynnol.
(3) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol roi i'r apelydd hysbysiad ysgrifenedig o'i benderfyniad terfynol a'r rhesymau drosto.