RHAN 5Cynhyrchion y Bwriedir eu Mewnforio
Dal gafael ar ddogfennau wrth safleoedd arolygu ar y ffinI134
Pan fo gwiriad dogfennol wedi'i gyflawni wrth safle arolygu ar y ffin ar gynnyrch sydd wedi'i fwriadu(p'un ai'n uniongyrchol neu yn y pen draw) ar gyfer ei fewnforio, rhaid i'r person a gyflwynodd y dogfennau gofynnol ynglyn â'r cynnyrch hwnnw o dan reoliad 18 ildio'r rheini i'r milfeddyg swyddogol wrth y safle arolygu hwnnw ar y ffin.
Tystiolaeth am ardystio gwiriadau milfeddygol a thalu amdanyntI235
Pan fo Rhan 2 o'r ddogfen fynediad filfeddygol gyffredin wedi'i dyroddi a'i bod yn ardystio bod llwyth yn ffit i'w fewnforio, rhaid i'r person sy'n gyfrifol am y llwyth sicrhau bod y Comisiynwyr wedi cael tystiolaeth sy'n eu boddhau am y canlynol—
a
bod Rhan 2 o'r ddogfen honno wedi'i dyroddi; a
b
bod yr holl ffioedd sy'n daladwy yn unol â Rhan 9 o'r Rheoliadau hyn am wiriadau milfeddygol a gyflawnwyd ar y llwyth, gan gynnwys samplu, ac am unrhyw brawf a wnaed ar unrhyw samplau a gymerwyd neu ddadansoddiad a wnaed o'r samplau hynny—
i
wedi'i wneud; neu
ii
bod taliad amdanynt wedi'i sicrhau drwy flaendal neu warant sy'n boddhau'r person y mae'r ffioedd yn daladwy iddo o dan reoliad 54(2).
Cynhyrchion nad ydynt wedi'u bwriadu ar gyfer y Deyrnas UnedigI336
1
Pan fo—
a
hysbysiad o ddod â chynnyrch i mewn wedi'i roi o dan reoliad 17; a
b
yr hysbysiad hwnnw yn pennu Aelod-wladwriaeth ac eithrio'r Deyrnas Unedig yn gyrchwlad; ac
c
yr amgylchiadau a grybwyllir ym mharagraff (2) yn gymwys,
ni chaiff neb, heb esgus rhesymol, rhwystro na gohirio'r broses o gludo'r cynnyrch hwnnw i'r Aelod-wladwriaeth honno.
2
Yr amgylchiadau y cyfeiriwyd atynt ym mharagraff (1)(c) yw bod Rhan 2 o'r ddogfen fynediad filfeddygol gyffredin wedi'i dyroddi ar gyfer y cynnyrch hwnnw, ac yn awdurdodi ei fewnforio—
a
i'r Aelod-wladwriaeth honno neu i ardal benodol ohoni yn unol â gofynion penodol; neu
b
at ddibenion penodol yn unol ag amodau,
a bod y gofynion neu'r amodau hynny wedi'u gosod ar gyfer cynhyrchion sy'n cael eu mewnforio i'r Aelod-wladwriaeth neu'r ardal benodol honno, neu ar gyfer cynhyrchion sy'n cael eu mewnforio at y dibenion penodol hynny, mewn unrhyw Gyfarwyddeb, Penderfyniad neu Reoliad a restrir yn Atodlen 1.
Cynhyrchion a gludir o dan oruchwyliaethI437
1
Mae'r rheoliad hwn yn gymwys i gynhyrchion y bwriedir eu mewnforio ac y mae'n ofynnol iddynt, o dan unrhyw Gyfarwyddeb, Penderfyniad neu Reoliad a restrir yn Atodlen 1, gael eu cludo o dan oruchwyliaeth milfeddyg o'r safle arolygu ar y ffin lle daethpwyd â hwy gyntaf i'r tiriogaethau perthnasol i'w sefydliad cyrchfan.
2
Ni chaiff neb symud cynnyrch y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddo o safle arolygu ar y ffin oni bai ei fod wedi'i gynnwys mewn cynhwysydd sy'n ddiogel rhag gollyngiadau neu gyfrwng cludo sydd wedi'i selio gan swyddog Cyllid a Thollau neu gan y milfeddyg swyddogol wrth y safle arolygu hwnnw ar y ffin.
3
Rhaid i'r person sy'n gyfrifol am gynnyrch y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddo ac unrhyw gludydd y mae o dan ei ofal am y tro sicrhau bod y cynnyrch yn cael ei gludo'n ddi-oed i'w sefydliad cyrchfan, a bod y ddogfen fynediad filfeddygol gyffredin yn mynd gydag ef hyd nes iddo gyrraedd ei sefydliad cyrchfan.
4
Pan fo Rhan 2 o'r ddogfen fynediad filfeddygol gyffredin wedi awdurdodi mewnforio cynnyrch y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddo at ddibenion penodol a ddisgrifiwyd yn rheoliad 36(2)(b) rhaid i'r person sy'n gyfrifol am y cynnyrch ac unrhyw gludydd sydd â gofal drosto am y tro sicrhau ei fod yn aros o dan oruchwyliaeth y Comisiynwyr yn unol â'r weithdrefn T5 y darperir ar ei chyfer yn Erthyglau 471 i 495 o Reoliad y Comisiwn (EEC) Rhif 2454/93 (sy'n gosod darpariaethau ar gyfer gweithredu Rheoliad y Cyngor (EEC) Rhif 2913/92 yn sefydlu'r Cod Tollau Cymunedol)24 hyd nes iddo gyrraedd ei sefydliad cyrchfan.
5
Rhaid i weithredydd sefydliad cyrchfan roi hysbysiad ysgrifenedig ar unwaith i'r milfeddyg, sy'n gyfrifol ar ran y Cynulliad Cenedlaethol neu'r Asiantaeth am y sefydliad cyrchfan, fod unrhyw gynnyrch y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddo wedi cyrraedd yno.
6
Rhaid i weithredydd sefydliad cyrchfan sicrhau bod cynnyrch y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddo yn cael, yn y sefydliad cyrchfan, y driniaeth a ragnodir ar ei gyfer gan y Gyfarwyddeb berthnasol, y Penderfyniad perthnasol neu'r Rheoliad perthnasol a restrir yn Atodlen 1.
Trawslwytho cynhyrchion y bwriedir eu mewnforioI538
1
Mae'r rheoliad hwn yn gymwys i gynhyrchion a drawslwythwyd pan fo'r safle arolygu ar y ffin ar gyfer cyflwyno yng Nghymru.
2
Cyn gynted ag y bo cynnyrch y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddo yn cyrraedd y safle arolygu ar y ffin ar gyfer cyflwyno, rhaid i'r person sy'n gyfrifol dros y cynnyrch hysbysu'r milfeddyg swyddogol yno yn ysgrifenedig, neu ar ffurf gyfrifiadurol neu ffurf electronig arall, o union leoliad y cynnyrch, o'r amser yr amcangyfrifir y byddai'n cael ei drawslwytho neu ei ddadlwytho, ac o'r safle arolygu ar y ffin ar gyfer cyrchfan.
3
Pan fo cynnyrch, yn ôl yr hysbysiad a roddwyd yn unol â pharagraff (2) i'w drawslwytho, a hwnnw'n gynnyrch y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddo—
a
o un awyren i un arall, naill ai'n uniongyrchol neu ar ôl iddo gael ei ddadlwytho mewn man o dan reolaeth y dollfa wrth y safle arolygu ar y ffin ar gyfer cyflwyno am lai na deuddeng awr; neu
b
o un llestr fordwyol i un arall, naill ai'n uniongyrchol neu ar ôl ei ddadlwytho mewn man o dan reolaeth y dollfa wrth y safle arolygu ar y ffin ar gyfer cyflwyno am lai na saith niwrnod,
mae'r amodau a osodir ym mharagraff (4) yn gymwys.
4
Dyma'r amodau y cyfeirir atynt ym mharagraff (3)—
a
pan fo rheoliad 18 yn ei gwneud yn ofynnol i berson roi'r cynnyrch a'i ddogfennau gofynnol i'r milfeddyg swyddogol wrth y safle arolygu ar y ffin ar gyfer cyflwyno, neu sicrhau eu bod yn cael eu rhoi iddo; a
b
os yw'r milfeddyg swyddogol o'r farn bod y cynnyrch yn peri risg i iechyd anifeiliaid neu i iechyd y cyhoedd,
rhaid i'r person a grybwyllir yn is-baragraff (a) ganiatáu i'r milfeddyg swyddogol, neu i gynorthwyydd a benodwyd o dan reoliad 6(1)(b) neu 6(2)(c) gyflawni gwiriad dogfennol ar y dogfennau gofynnol.
5
Mae paragraff (6) yn gymwys pan fwriedir—
a
dadlwytho cynnyrch y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddo o awyren; a
b
ail lwytho'r cynnyrch hwnnw ar awyren o fewn cyfnod o ddim llai na deuddeng awr ac o ddim mwy na 48 awr o'r amser pan gafodd ei ddadlwytho.
6
Rhaid i'r person sy'n gyfrifol dros y cynnyrch sicrhau—
a
ei fod yn cael ei storio o dan oruchwyliaeth y milfeddyg swyddogol yn y safle arolygu ar y ffin ar gyfer cyflwyno mewn lle yno sydd o dan reolaeth y dollfa; a
b
ei fod wedyn yn cael ei ail-lwytho ar awyren i'w gludo ymlaen i'r safle arolygu ar y ffin ar gyfer ei gyrchfan.
7
Mae paragraff (8) yn gymwys pan fwriedir—
a
dadlwytho cynnyrch y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddo o lestr fordwyol; a
b
ail lwytho'r cynnyrch hwnnw ar long fordwyol o fewn cyfnod o ddim llai na saith niwrnod ac o ddim mwy nac ugain niwrnod o'r amser pan gafodd ei ddadlwytho.
8
Rhaid i'r person sy'n gyfrifol dros y cynnyrch sicrhau—
a
ei fod yn cael ei storio o dan oruchwyliaeth y milfeddyg swyddogol yn y safle arolygu ar y ffin ar gyfer cyflwyno mewn lle yno sydd o dan reolaeth y dollfa; a
b
ei fod wedyn yn cael ei ail-lwytho ar lestr fordwyol i'w gludo ymlaen i'r safle arolygu ar y ffin ar gyfer ei gyrchfan.
9
Rhaid i unrhyw berson y mae rheoliad 18 yn ei gwneud yn ofynnol iddo gyflwyno cynnyrch y mae paragraffau (5) a (6) neu baragraffau (7) ac (8) yn gymwys iddo, ynghyd â'i ddogfennau gofynnol, i'r milfeddyg swyddogol wrth y safle arolygu ar y ffin ar gyfer cyflwyno ganiatáu i'r milfeddyg swyddogol yno, neu gynorthwyydd a benodwyd yn unol â rheoliad 6(1)(b) neu 6(2)(c), gyflawni gwiriad dogfennol ar y dogfennau gofynnol ac hefyd, os yw'r milfeddyg swyddogol o'r farn bod y cynnyrch yn peri risg i iechyd anifeiliaid neu i iechyd y cyhoedd, wiriad adnabod ar y cynnyrch hwnnw yn erbyn y dogfennau gofynnol a gwiriad ffisegol o'r cynnyrch.
10
Pan fwriedir—
a
dadlwytho cynnyrch y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddo a storio'r cynnyrch hwnnw am fwy na 48 awr ar ôl ei ddadlwytho; neu
b
dadlwytho cynnyrch y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddo o lestr fordwyol a storio'r cynnyrch hwnnw am fwy nag ugain niwrnod ar ôl ei ddadlwytho,
rhaid i unrhyw berson y mae rheoliad 18 yn ei gwneud yn ofynnol iddo roi'r cynnyrch a'i ddogfennau gofynnol i'r milfeddyg swyddogol wrth y safle arolygu ar y ffin ar gyfer cyflwyno, ganiatáu i'r milfeddyg swyddogol yno, neu gynorthwyydd a benodwyd yn unol â rheoliad 6(1)(b) neu 6(2)(c), gyflawni, ym mhob achos, wiriad adnabod o'r cynnyrch yn erbyn y dogfennau gofynnol a gwiriad ffisegol o'r cynnyrch.