RHAN 5LL+CCynhyrchion y Bwriedir eu Mewnforio

Dal gafael ar ddogfennau wrth safleoedd arolygu ar y ffinLL+C

34.  Pan fo gwiriad dogfennol wedi'i gyflawni wrth safle arolygu ar y ffin ar gynnyrch sydd wedi'i fwriadu(p'un ai'n uniongyrchol neu yn y pen draw) ar gyfer ei fewnforio, rhaid i'r person a gyflwynodd y dogfennau gofynnol ynglyn â'r cynnyrch hwnnw o dan reoliad 18 ildio'r rheini i'r milfeddyg swyddogol wrth y safle arolygu hwnnw ar y ffin.

Tystiolaeth am ardystio gwiriadau milfeddygol a thalu amdanyntLL+C

35.  Pan fo Rhan 2 o'r ddogfen fynediad filfeddygol gyffredin wedi'i dyroddi a'i bod yn ardystio bod llwyth yn ffit i'w fewnforio, rhaid i'r person sy'n gyfrifol am y llwyth sicrhau bod y Comisiynwyr wedi cael tystiolaeth sy'n eu boddhau am y canlynol—

(a)bod Rhan 2 o'r ddogfen honno wedi'i dyroddi; a

(b)bod yr holl ffioedd sy'n daladwy yn unol â Rhan 9 o'r Rheoliadau hyn am wiriadau milfeddygol a gyflawnwyd ar y llwyth, gan gynnwys samplu, ac am unrhyw brawf a wnaed ar unrhyw samplau a gymerwyd neu ddadansoddiad a wnaed o'r samplau hynny—

(i)wedi'i wneud; neu

(ii)bod taliad amdanynt wedi'i sicrhau drwy flaendal neu warant sy'n boddhau'r person y mae'r ffioedd yn daladwy iddo o dan reoliad 54(2).

Gwybodaeth Cychwyn

I2Rhl. 35 mewn grym ar 14.2.2007, gweler rhl. 1(2)

Cynhyrchion nad ydynt wedi'u bwriadu ar gyfer y Deyrnas UnedigLL+C

36.—(1Pan fo—

(a)hysbysiad o ddod â chynnyrch i mewn wedi'i roi o dan reoliad 17; a

(b)yr hysbysiad hwnnw yn pennu Aelod-wladwriaeth ac eithrio'r Deyrnas Unedig yn gyrchwlad; ac

(c)yr amgylchiadau a grybwyllir ym mharagraff (2) yn gymwys,

ni chaiff neb, heb esgus rhesymol, rhwystro na gohirio'r broses o gludo'r cynnyrch hwnnw i'r Aelod-wladwriaeth honno.

(2Yr amgylchiadau y cyfeiriwyd atynt ym mharagraff (1)(c) yw bod Rhan 2 o'r ddogfen fynediad filfeddygol gyffredin wedi'i dyroddi ar gyfer y cynnyrch hwnnw, ac yn awdurdodi ei fewnforio—

(a)i'r Aelod-wladwriaeth honno neu i ardal benodol ohoni yn unol â gofynion penodol; neu

(b)at ddibenion penodol yn unol ag amodau,

a bod y gofynion neu'r amodau hynny wedi'u gosod ar gyfer cynhyrchion sy'n cael eu mewnforio i'r Aelod-wladwriaeth neu'r ardal benodol honno, neu ar gyfer cynhyrchion sy'n cael eu mewnforio at y dibenion penodol hynny, mewn unrhyw Gyfarwyddeb, Penderfyniad neu Reoliad a restrir yn Atodlen 1.

Gwybodaeth Cychwyn

I3Rhl. 36 mewn grym ar 14.2.2007, gweler rhl. 1(2)

Cynhyrchion a gludir o dan oruchwyliaethLL+C

37.—(1Mae'r rheoliad hwn yn gymwys i gynhyrchion y bwriedir eu mewnforio ac y mae'n ofynnol iddynt, o dan unrhyw Gyfarwyddeb, Penderfyniad neu Reoliad a restrir yn Atodlen 1, gael eu cludo o dan oruchwyliaeth milfeddyg o'r safle arolygu ar y ffin lle daethpwyd â hwy gyntaf i'r tiriogaethau perthnasol i'w sefydliad cyrchfan.

(2Ni chaiff neb symud cynnyrch y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddo o safle arolygu ar y ffin oni bai ei fod wedi'i gynnwys mewn cynhwysydd sy'n ddiogel rhag gollyngiadau neu gyfrwng cludo sydd wedi'i selio gan swyddog Cyllid a Thollau neu gan y milfeddyg swyddogol wrth y safle arolygu hwnnw ar y ffin.

(3Rhaid i'r person sy'n gyfrifol am gynnyrch y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddo ac unrhyw gludydd y mae o dan ei ofal am y tro sicrhau bod y cynnyrch yn cael ei gludo'n ddi-oed i'w sefydliad cyrchfan, a bod y ddogfen fynediad filfeddygol gyffredin yn mynd gydag ef hyd nes iddo gyrraedd ei sefydliad cyrchfan.

(4Pan fo Rhan 2 o'r ddogfen fynediad filfeddygol gyffredin wedi awdurdodi mewnforio cynnyrch y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddo at ddibenion penodol a ddisgrifiwyd yn rheoliad 36(2)(b) rhaid i'r person sy'n gyfrifol am y cynnyrch ac unrhyw gludydd sydd â gofal drosto am y tro sicrhau ei fod yn aros o dan oruchwyliaeth y Comisiynwyr yn unol â'r weithdrefn T5 y darperir ar ei chyfer yn Erthyglau 471 i 495 o Reoliad y Comisiwn (EEC) Rhif 2454/93 (sy'n gosod darpariaethau ar gyfer gweithredu Rheoliad y Cyngor (EEC) Rhif 2913/92 yn sefydlu'r Cod Tollau Cymunedol)(1) hyd nes iddo gyrraedd ei sefydliad cyrchfan.

(5Rhaid i weithredydd sefydliad cyrchfan roi hysbysiad ysgrifenedig ar unwaith i'r milfeddyg, sy'n gyfrifol ar ran y Cynulliad Cenedlaethol neu'r Asiantaeth am y sefydliad cyrchfan, fod unrhyw gynnyrch y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddo wedi cyrraedd yno.

(6Rhaid i weithredydd sefydliad cyrchfan sicrhau bod cynnyrch y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddo yn cael, yn y sefydliad cyrchfan, y driniaeth a ragnodir ar ei gyfer gan y Gyfarwyddeb berthnasol, y Penderfyniad perthnasol neu'r Rheoliad perthnasol a restrir yn Atodlen 1.

Gwybodaeth Cychwyn

I4Rhl. 37 mewn grym ar 14.2.2007, gweler rhl. 1(2)

Trawslwytho cynhyrchion y bwriedir eu mewnforioLL+C

38.—(1Mae'r rheoliad hwn yn gymwys i gynhyrchion a drawslwythwyd pan fo'r safle arolygu ar y ffin ar gyfer cyflwyno yng Nghymru.

(2Cyn gynted ag y bo cynnyrch y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddo yn cyrraedd y safle arolygu ar y ffin ar gyfer cyflwyno, rhaid i'r person sy'n gyfrifol dros y cynnyrch hysbysu'r milfeddyg swyddogol yno yn ysgrifenedig, neu ar ffurf gyfrifiadurol neu ffurf electronig arall, o union leoliad y cynnyrch, o'r amser yr amcangyfrifir y byddai'n cael ei drawslwytho neu ei ddadlwytho, ac o'r safle arolygu ar y ffin ar gyfer cyrchfan.

(3Pan fo cynnyrch, yn ôl yr hysbysiad a roddwyd yn unol â pharagraff (2) i'w drawslwytho, a hwnnw'n gynnyrch y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddo—

(a)o un awyren i un arall, naill ai'n uniongyrchol neu ar ôl iddo gael ei ddadlwytho mewn man o dan reolaeth y dollfa wrth y safle arolygu ar y ffin ar gyfer cyflwyno am lai na deuddeng awr; neu

(b)o un llestr fordwyol i un arall, naill ai'n uniongyrchol neu ar ôl ei ddadlwytho mewn man o dan reolaeth y dollfa wrth y safle arolygu ar y ffin ar gyfer cyflwyno am lai na saith niwrnod,

mae'r amodau a osodir ym mharagraff (4) yn gymwys.

(4Dyma'r amodau y cyfeirir atynt ym mharagraff (3)—

(a)pan fo rheoliad 18 yn ei gwneud yn ofynnol i berson roi'r cynnyrch a'i ddogfennau gofynnol i'r milfeddyg swyddogol wrth y safle arolygu ar y ffin ar gyfer cyflwyno, neu sicrhau eu bod yn cael eu rhoi iddo; a

(b)os yw'r milfeddyg swyddogol o'r farn bod y cynnyrch yn peri risg i iechyd anifeiliaid neu i iechyd y cyhoedd,

rhaid i'r person a grybwyllir yn is-baragraff (a) ganiatáu i'r milfeddyg swyddogol, neu i gynorthwyydd a benodwyd o dan reoliad 6(1)(b) neu 6(2)(c) gyflawni gwiriad dogfennol ar y dogfennau gofynnol.

(5Mae paragraff (6) yn gymwys pan fwriedir—

(a)dadlwytho cynnyrch y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddo o awyren; a

(b) ail lwytho'r cynnyrch hwnnw ar awyren o fewn cyfnod o ddim llai na deuddeng awr ac o ddim mwy na 48 awr o'r amser pan gafodd ei ddadlwytho.

(6Rhaid i'r person sy'n gyfrifol dros y cynnyrch sicrhau—

(a)ei fod yn cael ei storio o dan oruchwyliaeth y milfeddyg swyddogol yn y safle arolygu ar y ffin ar gyfer cyflwyno mewn lle yno sydd o dan reolaeth y dollfa; a

(b)ei fod wedyn yn cael ei ail-lwytho ar awyren i'w gludo ymlaen i'r safle arolygu ar y ffin ar gyfer ei gyrchfan.

(7Mae paragraff (8) yn gymwys pan fwriedir—

(a)dadlwytho cynnyrch y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddo o lestr fordwyol; a

(b)ail lwytho'r cynnyrch hwnnw ar long fordwyol o fewn cyfnod o ddim llai na saith niwrnod ac o ddim mwy nac ugain niwrnod o'r amser pan gafodd ei ddadlwytho.

(8Rhaid i'r person sy'n gyfrifol dros y cynnyrch sicrhau—

(a)ei fod yn cael ei storio o dan oruchwyliaeth y milfeddyg swyddogol yn y safle arolygu ar y ffin ar gyfer cyflwyno mewn lle yno sydd o dan reolaeth y dollfa; a

(b)ei fod wedyn yn cael ei ail-lwytho ar lestr fordwyol i'w gludo ymlaen i'r safle arolygu ar y ffin ar gyfer ei gyrchfan.

(9Rhaid i unrhyw berson y mae rheoliad 18 yn ei gwneud yn ofynnol iddo gyflwyno cynnyrch y mae paragraffau (5) a (6) neu baragraffau (7) ac (8) yn gymwys iddo, ynghyd â'i ddogfennau gofynnol, i'r milfeddyg swyddogol wrth y safle arolygu ar y ffin ar gyfer cyflwyno ganiatáu i'r milfeddyg swyddogol yno, neu gynorthwyydd a benodwyd yn unol â rheoliad 6(1)(b) neu 6(2)(c), gyflawni gwiriad dogfennol ar y dogfennau gofynnol ac hefyd, os yw'r milfeddyg swyddogol o'r farn bod y cynnyrch yn peri risg i iechyd anifeiliaid neu i iechyd y cyhoedd, wiriad adnabod ar y cynnyrch hwnnw yn erbyn y dogfennau gofynnol a gwiriad ffisegol o'r cynnyrch.

(10Pan fwriedir—

(a)dadlwytho cynnyrch y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddo a storio'r cynnyrch hwnnw am fwy na 48 awr ar ôl ei ddadlwytho; neu

(b)dadlwytho cynnyrch y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddo o lestr fordwyol a storio'r cynnyrch hwnnw am fwy nag ugain niwrnod ar ôl ei ddadlwytho,

rhaid i unrhyw berson y mae rheoliad 18 yn ei gwneud yn ofynnol iddo roi'r cynnyrch a'i ddogfennau gofynnol i'r milfeddyg swyddogol wrth y safle arolygu ar y ffin ar gyfer cyflwyno, ganiatáu i'r milfeddyg swyddogol yno, neu gynorthwyydd a benodwyd yn unol â rheoliad 6(1)(b) neu 6(2)(c), gyflawni, ym mhob achos, wiriad adnabod o'r cynnyrch yn erbyn y dogfennau gofynnol a gwiriad ffisegol o'r cynnyrch.

Gwybodaeth Cychwyn

I5Rhl. 38 mewn grym ar 14.2.2007, gweler rhl. 1(2)

(1)

OJ Rhif L253, 11.10.93, t. 1, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 402/2006 (OJ Rhif L070, 09.03.2006, t. 35).