RHAN 6LL+CCynhyrchion Tramwy

Safleoedd arolygu ar y ffin ar gyfer dod i mewn ac ymadaelLL+C

39.  Yn y Rhan hon—

ystyr “safle arolygu ar y ffin ar gyfer dod i mewn” (“border inspection post of entry”) yw'r safle arolygu ar y ffin lle y mae cynnyrch tramwy yn dod i mewn i diriogaeth dollau'r Gymuned; ac ystyr

“safle arolygu ar y ffin ar gyfer ymadael” (“border inspection post of exit”) yw'r safle arolygu ar y ffin y bwriedir i gynnyrch tramwy ymadael â thiriogaeth dollau'r Gymuned drwyddo, fel a bennir yn y ddogfen fynediad filfeddygol gyffredin sy'n ymwneud â'r cynnyrch hwnnw.

Awdurdodi tramwy ymlaen llawLL+C

40.  Ni chaiff neb gyflwyno cynnyrch tramwy i Gymru o drydedd wlad oni bai bod y milfeddyg swyddogol wrth y safle arolygu ar y ffin ar gyfer dod i mewn wedi awdurdodi'n ysgrifenedig ymlaen llaw dramwyad y cynnyrch hwnnw.

Gwybodaeth Cychwyn

I2Rhl. 40 mewn grym ar 14.2.2007, gweler rhl. 1(2)

Gwiriad ffisegol o gynhyrchion tramwyLL+C

41.  Dim ond os yw'r milfeddyg swyddogol o'r farn bod cynnyrch tramwy yn peri risg i iechyd anifeiliaid neu i iechyd y cyhoedd neu'n amau'n rhesymol fod rhyw afreoleidd-dra arall, fel y'i diffinnir yn rheoliad 21(10), mewn perthynas â'r cynnyrch tramwy, y mae angen i unrhyw berson y mae'n ofynnol o dan reoliad 18 iddo roi cynnyrch tramwy i'r milfeddyg swyddogol wrth y safle arolygu ar y ffin ar gyfer dod i mewn, neu sicrhau ei fod yn cael ei roi iddo, ganiatáu i'r milfeddyg swyddogol neu gynorthwyydd a benodwyd yn unol â rheoliad 6(1)(b) neu 6(2)(c) gyflawni gwiriad ffisegol ar y cynnyrch tramwy.

Gwybodaeth Cychwyn

I3Rhl. 41 mewn grym ar 14.2.2007, gweler rhl. 1(2)

Symud cynhyrchion tramwyLL+C

42.—(1Ni chaiff neb symud cynnyrch tramwy o'r safle arolygu ar y ffin ar gyfer dod i mewn na pheri iddo gael ei symud oni bai bod y person sy'n gyfrifol dros y cynnyrch wedi rhoi ymrwymiad ysgrifenedig i'r milfeddyg swyddogol yno y bydd yn dilyn ac yn cyflawni gofynion rheoliad 43.

(2Pan fydd cynnyrch tramwy yn cael ei gludo, ar unrhyw adeg ar ôl ei symud o safle arolygu ar y ffin ar gyfer dod i mewn, drwy Gymru ar hyd ffordd, rheilffordd, dyfrffordd neu drwy'r awyr—

(a)rhaid i'r person sy'n gyfrifol dros y cynnyrch tramwy ac unrhyw gludydd sydd â gofal drosto am y tro sicrhau ei fod yn cael ei gludo mewn cerbyd neu gynhwysydd sydd wedi'i selio gan y Comisiynwyr neu gan yr awdurdodau milfeddygol sy'n gyfrifol am y safle arolygu ar y ffin ar gyfer dod i mewn, bod ei ddogfennau gofynnol, unrhyw gyfieithiadau sy'n ofynnol o dan reoliad 18(4) a'i ddogfen fynediad filfeddygol gyffredin yn mynd gydag ef i'r safle arolygu ar y ffin ar gyfer ymadael, a hynny o dan oruchwyliaeth y Comisiynwyr yn unol â'r weithdrefn tramwy allanol y cyfeirir ati yn Erthyglau 91 i 97 o'r Cod Tollau;

(b)ni chaiff neb—

(i)torri'r seliau ar y cerbyd neu'r cynhwysydd y mae'r cynnyrch tramwy yn cael ei gludo ynddo;

(ii)dadlwytho'r cynnyrch tramwy;

(iii)hollti'r llwyth na'r rhanlwyth sy'n cynnwys y cynnyrch tramwy; na

(iv)peri i'r cynnyrch tramwy gael ei drafod mewn unrhyw fodd; ac

(c)rhaid i'r person sy'n gyfrifol dros y cynnyrch tramwy ac unrhyw gludydd sydd â gofal drosto am y tro sicrhau ei fod yn ymadael â thiriogaeth dollau'r Gymuned wrth y safle arolygu ar y ffin ar gyfer ymadael heb fod yn hwy na 30 o ddiwrnodau ar ôl ei symud o'r safle arolygu ar y ffin ar gyfer dod i mewn (heb gynnwys dyddiad ei symud).

(3Ni chaiff neb gyflwyno cynnyrch tramwy i barth rhydd, warws rydd na warws dollau yng Nghymru.

Gwybodaeth Cychwyn

I4Rhl. 42 mewn grym ar 14.2.2007, gweler rhl. 1(2)

Gwaredu cynhyrchion tramwy a ddychwelwydLL+C

43.—(1Os bydd cynnyrch tramwy yn cael ei ddychwelyd i Gymru ar ôl ymadael â thiriogaeth dollau'r Gymuned, rhaid i'r person sy'n gyfrifol dros y cynnyrch tramwy naill ai—

(a)anfon ymlaen y cynnyrch tramwy o'r safle arolygu ar y ffin y mae'n cael ei ddychwelyd i drydedd wlad drwyddo drwy'r dull cludo a ddefnyddiwyd i'w ddychwelyd a hynny o fewn trigain o ddiwrnodau iddo gael ei ddychwelyd (heb gynnwys y dyddiad y cafodd ei ddychwelyd); neu

(b)os yw'r amgylchiadau a ddisgrifir ym mharagraff (2) yn gymwys, gwaredu'r cynnyrch fel pe bai'n ddeunydd Categori 1 o dan Reoliad (EC) Rhif 1774/2002 yn y cyfleusterau a ddarparwyd at y diben hwnnw ac sydd agosaf at y safle arolygu ar y ffin y dychwelir y cynnyrch iddo.

(2Rhaid gwaredu'r cynnyrch tramwy yn unol â pharagraff (1)(b)—

(c)pan fydd anfon y cynnyrch ymlaen wedi'i ragwahardd ar sail iechyd anifeiliaid neu iechyd y cyhoedd oherwydd canlyniadau gwiriad ffisegol, neu oherwydd unrhyw ofyniad iechyd anifeiliaid neu iechyd y cyhoedd sydd wedi'i osod mewn offeryn Cymunedol sydd mewn grym ar y dyddiad y gwneir y Rheoliadau hyn, neu pan fydd yn amhosibl gwneud fel arall;

(d)pan fydd y cyfnod o drigain o ddiwrnodau y cyfeirir ato ym mharagraff (a) wedi dod i ben; neu

(e)pan fydd y person sy'n gyfrifol dros y cynnyrch tramwy yn cytuno ar unwaith i'w waredu.

(3Rhaid i unrhyw berson, y mae ganddo yn ei feddiant neu o dan ei reolaeth y dogfennau gofynnol neu'r ddogfen fynediad filfeddygol gyffredin sy'n ymwneud â chynnyrch tramwy y mae paragraff (1) yn gymwys iddo, eu cyflwyno i'w hannilysu i'r milfeddyg swyddogol wrth y safle arolygu ar y ffin y mae'r cynnyrch wedi'i ddychwelyd iddo.

(4Rhaid i'r person sy'n gyfrifol dros gynnyrch tramwy y mae paragraff (1) yn gymwys iddo ei storio nes iddo gael ei anfon ymlaen neu ei ddinistrio o dan oruchwyliaeth y milfeddyg swyddogol wrth y safle arolygu ar y ffin y mae'r cynnyrch wedi'i ddychwelyd iddo a hynny yn y man ac o dan yr amodau a gyfarwyddir gan y milfeddyg swyddogol.

(5Rhaid i'r person sy'n gyfrifol dros gynnyrch tramwy y mae paragraff (1) yn gymwys iddo dalu costau storio, cludo, anfon ymlaen a gwaredu'r cynnyrch hwnnw.

Gwybodaeth Cychwyn

I5Rhl. 43 mewn grym ar 14.2.2007, gweler rhl. 1(2)