- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
Mae newidiadau yn dal heb eu gwneud i Rheoliadau Cynhyrchion sy'n Dod o Anifeiliaid (Mewnforion Trydydd Gwledydd) (Cymru) 2007. Mae unrhyw newidiadau sydd wedi cael eu gwneud yn barod gan y tîm yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt gydag anodiadau.
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Cofnodir newidiadau ac effeithiau gan ein tîm golygyddol mewn rhestrau sydd i'w gweld yn yr adran 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth'. Os nad yw'r effeithiau hynny wedi'u cymhwyso eto i destun y ddeddfwriaeth gan y tîm golygyddol maent hefyd wedi'u rhestru ochr yn ochr â'r ddeddfwriaeth yn y darpariaethau yr effeithir arnynt. Defnyddiwch y ddolen 'mwy' i agor y newidiadau a'r effeithiau sy'n berthnasol i'r ddarpariaeth rydych yn edrych arni.
39. Yn y Rhan hon—
ystyr “safle arolygu ar y ffin ar gyfer dod i mewn” (“border inspection post of entry”) yw'r safle arolygu ar y ffin lle y mae cynnyrch tramwy yn dod i mewn i diriogaeth dollau'r Gymuned; ac ystyr
“safle arolygu ar y ffin ar gyfer ymadael” (“border inspection post of exit”) yw'r safle arolygu ar y ffin y bwriedir i gynnyrch tramwy ymadael â thiriogaeth dollau'r Gymuned drwyddo, fel a bennir yn y ddogfen fynediad filfeddygol gyffredin sy'n ymwneud â'r cynnyrch hwnnw.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 39 mewn grym ar 14.2.2007, gweler rhl. 1(2)
40. Ni chaiff neb gyflwyno cynnyrch tramwy i Gymru o drydedd wlad oni bai bod y milfeddyg swyddogol wrth y safle arolygu ar y ffin ar gyfer dod i mewn wedi awdurdodi'n ysgrifenedig ymlaen llaw dramwyad y cynnyrch hwnnw.
Gwybodaeth Cychwyn
I2Rhl. 40 mewn grym ar 14.2.2007, gweler rhl. 1(2)
41. Dim ond os yw'r milfeddyg swyddogol o'r farn bod cynnyrch tramwy yn peri risg i iechyd anifeiliaid neu i iechyd y cyhoedd neu'n amau'n rhesymol fod rhyw afreoleidd-dra arall, fel y'i diffinnir yn rheoliad 21(10), mewn perthynas â'r cynnyrch tramwy, y mae angen i unrhyw berson y mae'n ofynnol o dan reoliad 18 iddo roi cynnyrch tramwy i'r milfeddyg swyddogol wrth y safle arolygu ar y ffin ar gyfer dod i mewn, neu sicrhau ei fod yn cael ei roi iddo, ganiatáu i'r milfeddyg swyddogol neu gynorthwyydd a benodwyd yn unol â rheoliad 6(1)(b) neu 6(2)(c) gyflawni gwiriad ffisegol ar y cynnyrch tramwy.
Gwybodaeth Cychwyn
I3Rhl. 41 mewn grym ar 14.2.2007, gweler rhl. 1(2)
42.—(1) Ni chaiff neb symud cynnyrch tramwy o'r safle arolygu ar y ffin ar gyfer dod i mewn na pheri iddo gael ei symud oni bai bod y person sy'n gyfrifol dros y cynnyrch wedi rhoi ymrwymiad ysgrifenedig i'r milfeddyg swyddogol yno y bydd yn dilyn ac yn cyflawni gofynion rheoliad 43.
(2) Pan fydd cynnyrch tramwy yn cael ei gludo, ar unrhyw adeg ar ôl ei symud o safle arolygu ar y ffin ar gyfer dod i mewn, drwy Gymru ar hyd ffordd, rheilffordd, dyfrffordd neu drwy'r awyr—
(a)rhaid i'r person sy'n gyfrifol dros y cynnyrch tramwy ac unrhyw gludydd sydd â gofal drosto am y tro sicrhau ei fod yn cael ei gludo mewn cerbyd neu gynhwysydd sydd wedi'i selio gan y Comisiynwyr neu gan yr awdurdodau milfeddygol sy'n gyfrifol am y safle arolygu ar y ffin ar gyfer dod i mewn, bod ei ddogfennau gofynnol, unrhyw gyfieithiadau sy'n ofynnol o dan reoliad 18(4) a'i ddogfen fynediad filfeddygol gyffredin yn mynd gydag ef i'r safle arolygu ar y ffin ar gyfer ymadael, a hynny o dan oruchwyliaeth y Comisiynwyr yn unol â'r weithdrefn tramwy allanol y cyfeirir ati yn Erthyglau 91 i 97 o'r Cod Tollau;
(b)ni chaiff neb—
(i)torri'r seliau ar y cerbyd neu'r cynhwysydd y mae'r cynnyrch tramwy yn cael ei gludo ynddo;
(ii)dadlwytho'r cynnyrch tramwy;
(iii)hollti'r llwyth na'r rhanlwyth sy'n cynnwys y cynnyrch tramwy; na
(iv)peri i'r cynnyrch tramwy gael ei drafod mewn unrhyw fodd; ac
(c)rhaid i'r person sy'n gyfrifol dros y cynnyrch tramwy ac unrhyw gludydd sydd â gofal drosto am y tro sicrhau ei fod yn ymadael â thiriogaeth dollau'r Gymuned wrth y safle arolygu ar y ffin ar gyfer ymadael heb fod yn hwy na 30 o ddiwrnodau ar ôl ei symud o'r safle arolygu ar y ffin ar gyfer dod i mewn (heb gynnwys dyddiad ei symud).
(3) Ni chaiff neb gyflwyno cynnyrch tramwy i barth rhydd, warws rydd na warws dollau yng Nghymru.
Gwybodaeth Cychwyn
I4Rhl. 42 mewn grym ar 14.2.2007, gweler rhl. 1(2)
43.—(1) Os bydd cynnyrch tramwy yn cael ei ddychwelyd i Gymru ar ôl ymadael â thiriogaeth dollau'r Gymuned, rhaid i'r person sy'n gyfrifol dros y cynnyrch tramwy naill ai—
(a)anfon ymlaen y cynnyrch tramwy o'r safle arolygu ar y ffin y mae'n cael ei ddychwelyd i drydedd wlad drwyddo drwy'r dull cludo a ddefnyddiwyd i'w ddychwelyd a hynny o fewn trigain o ddiwrnodau iddo gael ei ddychwelyd (heb gynnwys y dyddiad y cafodd ei ddychwelyd); neu
(b)os yw'r amgylchiadau a ddisgrifir ym mharagraff (2) yn gymwys, gwaredu'r cynnyrch fel pe bai'n ddeunydd Categori 1 o dan Reoliad (EC) Rhif 1774/2002 yn y cyfleusterau a ddarparwyd at y diben hwnnw ac sydd agosaf at y safle arolygu ar y ffin y dychwelir y cynnyrch iddo.
(2) Rhaid gwaredu'r cynnyrch tramwy yn unol â pharagraff (1)(b)—
(c)pan fydd anfon y cynnyrch ymlaen wedi'i ragwahardd ar sail iechyd anifeiliaid neu iechyd y cyhoedd oherwydd canlyniadau gwiriad ffisegol, neu oherwydd unrhyw ofyniad iechyd anifeiliaid neu iechyd y cyhoedd sydd wedi'i osod mewn offeryn Cymunedol sydd mewn grym ar y dyddiad y gwneir y Rheoliadau hyn, neu pan fydd yn amhosibl gwneud fel arall;
(d)pan fydd y cyfnod o drigain o ddiwrnodau y cyfeirir ato ym mharagraff (a) wedi dod i ben; neu
(e)pan fydd y person sy'n gyfrifol dros y cynnyrch tramwy yn cytuno ar unwaith i'w waredu.
(3) Rhaid i unrhyw berson, y mae ganddo yn ei feddiant neu o dan ei reolaeth y dogfennau gofynnol neu'r ddogfen fynediad filfeddygol gyffredin sy'n ymwneud â chynnyrch tramwy y mae paragraff (1) yn gymwys iddo, eu cyflwyno i'w hannilysu i'r milfeddyg swyddogol wrth y safle arolygu ar y ffin y mae'r cynnyrch wedi'i ddychwelyd iddo.
(4) Rhaid i'r person sy'n gyfrifol dros gynnyrch tramwy y mae paragraff (1) yn gymwys iddo ei storio nes iddo gael ei anfon ymlaen neu ei ddinistrio o dan oruchwyliaeth y milfeddyg swyddogol wrth y safle arolygu ar y ffin y mae'r cynnyrch wedi'i ddychwelyd iddo a hynny yn y man ac o dan yr amodau a gyfarwyddir gan y milfeddyg swyddogol.
(5) Rhaid i'r person sy'n gyfrifol dros gynnyrch tramwy y mae paragraff (1) yn gymwys iddo dalu costau storio, cludo, anfon ymlaen a gwaredu'r cynnyrch hwnnw.
Gwybodaeth Cychwyn
I5Rhl. 43 mewn grym ar 14.2.2007, gweler rhl. 1(2)
The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.
Would you like to continue?
The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download.
Would you like to continue?
The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.
Would you like to continue?
The Schedules you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.
Would you like to continue?
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: