xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
54.—(1) Codir ffi resymol a gaiff ei chyfrifo yn unol â rheoliadau 55 a 56 ac Atodlen 3 am wiriadau milfeddygol a gyflawnwyd ar lwyth wrth safle arolygu ar y ffin.
(2) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol, awdurdod lleol neu'r Asiantaeth godi'r ffi a bydd yn daladwy i ba un bynnag sy'n gyfrifol, yn unol â rheoliad 5, am weithredu a gorfodi'r Rheoliadau hyn wrth y safle arolygu ar y ffin lle cyflawnir y gwiriadau milfeddygol.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 54 mewn grym ar 14.2.2007, gweler rhl. 1(2)
55. Rhaid i'r ffi am wiriadau milfeddygol gwmpasu'r costau a restrir yn Rhan I o Atodlen 3 a rhaid ei chyfrifo yn unol â Rhan II, III, IV neu V, yn ôl y digwydd, o Atodlen 3.
Gwybodaeth Cychwyn
I2Rhl. 55 mewn grym ar 14.2.2007, gweler rhl. 1(2)
56. Rhaid i ffioedd a fynegir mewn ewros yn Atodlen 3 gael eu trosi'n bunnoedd sterling yn ôl y gyfradd drosi sy'n cael ei chyhoeddi yng nghyfres “C” o Gylchgrawn Swyddogol y Cymunedau Ewropeaidd ym mis Medi'r flwyddyn galendr cyn y flwyddyn y cyflawnwyd y gwiriad milfeddygol perthnasol ynddi.
Gwybodaeth Cychwyn
I3Rhl. 56 mewn grym ar 14.2.2007, gweler rhl. 1(2)
57. Pan ofynnir iddo wneud hynny, rhaid i'r person sy'n gyfrifol dros lwyth dalu'r ffi a godir am y gwiriadau milfeddygol a gyflawnwyd ar y llwyth.
Gwybodaeth Cychwyn
I4Rhl. 57 mewn grym ar 14.2.2007, gweler rhl. 1(2)
58.—(1) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol, awdurdod lleol neu'r Asiantaeth, os gofynnir yn ysgrifenedig iddo neu iddi wneud hynny, ddarparu ar gyfer unrhyw berson sy'n rhoi cynhyrchion gerbron yn unol â rheoliad 18, neu ar gyfer unrhyw gorff sy'n cynrychioli personau o'r fath, fanylion y cyfrifiadau y mae'n eu defnyddio i benderfynu ffioedd am wiriadau milfeddygol a rhaid iddynt gymryd i ystyriaeth unrhyw sylwadau a gyflwynwyd gan berson neu gorff o'r fath wrth benderfynu ffioedd o'r fath.
(2) Os gofynnir iddo'n ysgrifenedig wneud hynny gan y Cynulliad Cenedlaethol neu'r Asiantaeth, rhaid i awdurdod lleol ddarparu ar gyfer y Cynulliad Cenedlaethol neu'r Asiantaeth, yn ôl y digwydd, yr wybodaeth y gallai fod ei hangen arno neu arni mewn cysylltiad â chyfrifo'r ffioedd am wiriadau milfeddygol, ynghyd â chopïau o unrhyw sylwadau ysgrifenedig a wnaed gan bersonau neu gyrff y cyfeirir atynt ym mharagraff (1).
Gwybodaeth Cychwyn
I5Rhl. 58 mewn grym ar 14.2.2007, gweler rhl. 1(2)
59.—(1) Caiff unrhyw berson sydd wedi talu ffi am wiriadau milfeddygol i awdurdod lleol ac unrhyw gorff sy'n cynrychioli personau o'r fath, o fewn un niwrnod ar hugain o godi'r ffi, apelio'n ysgrifenedig ar y sail bod swm y ffi yn afresymol—
(a)i'r Cynulliad Cenedlaethol, os ffi am wiriadau milfeddygol a gyflawnwyd ac eithrio mewn perthynas ag unrhyw un o swyddogaethau'r Asiantaeth yw'r ffi; a
(b)i'r Asiantaeth, os ffi am wiriadau milfeddygol a gyflawnwyd mewn perthynas ag unrhyw un o swyddogaethau'r Asiantaeth yw'r ffi.
(2) Pan fo apêl o dan baragraff (1), rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol neu'r Asiantaeth, yn ôl y digwydd—
(a)ymgynghori â'r awdurdod lleol; a
(b)os caiff ei fodloni neu ei bodloni bod swm y ffi yn afresymol, rhaid iddo neu iddi hysbysu'r awdurdod lleol.
(3) Pan gaiff ei hysbysu o dan baragraff (2)(b), rhaid i'r awdurdod lleol—
(a)ailgyfrifo swm y ffi yn unol ag unrhyw gyfarwyddiadau a roddwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol neu'r Asiantaeth, yn ôl y digwydd; a
(b)ad-dalu i'r person a dalodd y ffi y gwahaniaeth rhwng y ffi wreiddiol a'r ffi a ailgyfrifwyd.
Gwybodaeth Cychwyn
I6Rhl. 59 mewn grym ar 14.2.2007, gweler rhl. 1(2)
60.—(1) Caiff unrhyw berson sydd wedi talu ffi am wiriadau milfeddygol i'r Cynulliad Cenedlaethol neu i'r Asiantaeth, ac unrhyw gorff sy'n cynrychioli personau o'r fath, cyn pen un diwrnod ar hugain ar ôl i'r ffi gael ei chodi, roi hysbysiad ysgrifenedig o'i ddymuniad i apelio i berson annibynnol a benodwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol, neu pan fo'r ffi wedi'i thalu i'r Asiantaeth, i berson annibynnol a benodwyd gan yr Asiantaeth, ar y sail bod swm y ffi yn afresymol.
(2) Pan fo'r ffi wedi ei thalu i'r Asiantaeth, rhaid i swyddogaethau'r Cynulliad Cenedlaethol ym mharagraff (3) a (4) gael eu cyflawni gan yr Asiantaeth.
(3) Pan fo apelydd yn rhoi hysbysiad o'i ddymuniad i ymddangos gerbron person annibynnol a benodwyd at y diben hwnnw a chael gwrandawiad ganddo -—
(a)rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol benodi person annibynnol i wrando ar y sylwadau a phennu terfyn amser erbyn pryd y mae'n rhaid cyflwyno sylwadau i'r person annibynnol hwnnw;
(b)rhaid i'r person a benodir beidio â bod, ac eithrio gyda chydsyniad yr apelydd, yn un o swyddogion y Cynulliad Cenedlaethol nac yn un sy'n ei wasanaethu;
(c)os yw'r apelydd yn gofyn am hynny, rhaid i'r gwrandawiad fod yn un cyhoeddus;
(ch)rhaid i'r person annibynnol gyflwyno adroddiad i'r Cynulliad Cenedlaethol; a
(d)os bydd yr apelydd yn gofyn amdano, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol ddarparu copi iddo o adroddiad y person annibynnol.
(4) Os caiff y person annibynnol ei fodloni bod swm y ffi yn afresymol, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol ailgyfrifo'r ffi yn unol ag unrhyw gyfarwyddiadau a roddir gan y person annibynnol ac ad-dalu i'r person a dalodd y ffi y gwahaniaeth rhwng y ffi wreiddiol a'r ffi a ailgyfrifwyd.
Gwybodaeth Cychwyn
I7Rhl. 60 mewn grym ar 14.2.2007, gweler rhl. 1(2)