- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
13.—(1) Bydd y rheoliad hwn yn gymwys os yw'r Cynulliad Cenedlaethol wedi'i fodloni—
(a)y byddai parhau i weithredu safle arolygu ar y ffin yn peri risg difrifol i iechyd y cyhoedd neu iechyd anifeiliaid; neu
(b)bod toriad difrifol wedi bod, wrth safle arolygu ar y ffin, o'r gofynion ar gyfer cymeradwyo safleoedd arolygu ar y ffin sydd wedi'u gosod yn Atodiad II i Gyfarwyddeb 97/78/EC neu ym Mhenderfyniad y Comisiwn 2001/812/EC (sy'n gosod gofynion ar gyfer cymeradwyo safleoedd arolygu ar y ffin sy'n gyfrifol am wiriadau milfeddygol ar gynhyrchion y deuir â hwy i'r Gymuned o drydydd gwledydd)(1).
(2) At ddibenion y rheoliad hwn ac unrhyw hysbysiad a gyflwynir odano, ystyr “cymeradwyaeth” (“approval”), mewn perthynas â safle arolygu ar y ffin neu ganolfan arolygu, yw'r gymeradwyaeth o'r safle arolygu ar y ffin neu'r ganolfan arolygu, yn ôl y digwydd, yn unol ag Erthygl 6(2) neu 6(4) o Gyfarwyddeb 97/78/EC.
(3) Pan fo'r rheoliad hwn yn gymwys, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol atal cymeradwyaeth y safle arolygu ar y ffin naill ai'n llawn neu'n rhannol yn unol â pharagraff (4), (5) neu (6).
(4) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol atal cymeradwyaeth y safle arolygu ar y ffin yn llawn drwy gyflwyno—
(a)i weithredydd y safle arolygu ar y ffin; neu
(b)pan fo'r safle arolygu ar y ffin yn cynnwys mwy nag un ganolfan arolygu, i weithredydd pob canolfan arolygu (os ydynt yn wahanol),
hysbysiad ysgrifenedig sy'n datgan bod y gymeradwyaeth o'r fangre fel safle arolygu ar y ffin wedi'i hatal.
(5) Os yw'r Cynulliad Cenedlaethol wedi'i fodloni mai dim ond mewn cysylltiad ag un neu ragor (ond nid pob un) o'r categorïau o gynhyrchion y mae'r safle arolygu ar y ffin wedi'i gymeradwyo ar eu cyfer (fel a bennir yn yr Atodiad i Benderfyniad y Comisiwn 2001/881/EC) y mae'r risg difrifol i iechyd y cyhoedd neu i iechyd anifeiliaid y cyfeiriwyd ato ym mharagraff (1)(a), neu'r toriad difrifol o'r gofynion y cyfeiriwyd ato ym mharagraff 1(b), wedi codi, caiff atal y gymeradwyaeth o'r safle arolygu ar y ffin mewn perthynas â'r categori hwnnw neu'r categorïau hynny o gynhyrchion drwy gyflwyno hysbysiad ysgrifenedig—
(a)i weithredydd y safle arolygu ar y ffin; neu
(b)pan fo'r categori o gynhyrchion neu'r categorïau o gynhyrchion o dan sylw yn cael eu trafod gan wahanol ganolfannau arolygu yn y safle arolygu ar y ffin, i weithredydd pob un o'r canolfannau arolygu hynny (os ydynt yn wahanol),
yn datgan bod y gymeradwyaeth o'r fangre fel safle arolygu ar y ffin wedi'i hatal ar gyfer y categori hwnnw, neu'r categorïau hynny, o gynhyrchion.
(6) Os yw'r Cynulliad Cenedlaethol wedi'i fodloni mai dim ond mewn cysylltiad ag un ganolfan arolygu yn y safle arolygu ar y ffin y mae'r risg difrifol i iechyd y cyhoedd neu i iechyd anifeiliaid y cyfeiriwyd ato ym mharagraff (1)(a), neu'r toriad difrifol o'r gofynion y cyfeiriwyd ato ym mharagraff (1)(b), wedi codi, caiff atal y gymeradwyaeth o'r ganolfan arolygu drwy gyflwyno hysbysiad ysgrifenedig i weithredydd y ganolfan arolygu yn datgan bod y gymeradwyaeth o'r fangre fel canolfan arolygu wedi'i hatal.
(7) Pan gyflwynir hysbysiad o dan—
(a)paragraff (4), bydd y fangre yn peidio â bod yn safle arolygu ar y ffin neu'n ganolfan arolygu mewn safle arolygu ar y ffin (yn ôl y digwydd) hyd nes y cânt eu cymeradwyo felly eto yn unol ag Erthygl 6(2)(a) o Gyfarwyddeb 97/78/EC;
(b)paragraff (5), bydd y fangre'n peidio â bod yn safle arolygu ar y ffin neu'n ganolfan arolygu mewn safle arolygu ar y ffin (yn ôl y digwydd), a gymeradwywyd ar gyfer y categori hwnnw, neu'r categorïau hynny, o gynhyrchion, hyd nes iddi gael ei chymeradwyo felly unwaith eto yn unol ag Erthygl 6(2)(a) o Gyfarwyddeb 97/78/EC; ac
(c)paragraff (6), bydd y fangre yn peidio â bod yn fangre sydd wedi'i chymeradwyo fel canolfan arolygu mewn safle arolygu ar y ffin, hyd nes y caiff ei chymeradwyo felly eto yn unol ag Erthygl 6(2)(a) o Gyfarwyddeb 97/78/EC.
(8) Mae darpariaethau paragraff (7) yn gymwys yn achos ataliad y rhoddir effaith iddo o dan y rheoliad hwn er gwaethaf y ffaith y gall yr Atodiad i Benderfyniad 2001/881/EC fod heb ei ddiweddaru i adlewyrchu'r ataliad hwnnw.
(9) Yn y rheoliad hwn, ystyr “canolfan arolygu” (“inspection centre”) yw cyfleuster sy'n rhan o safle arolygu ar y ffin ac a restrir ynghyd ag enw'r safle arolygu ar y ffin ei hun yn yr Atodiad i Benderfyniad 2001/881/EC.
OJ Rhif L306, 23.11.2001, t. 28.
The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.
Would you like to continue?
The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download.
Would you like to continue?
The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.
Would you like to continue?
The Schedules you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.
Would you like to continue?
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: