Rheoliadau Cynhyrchion sy'n Dod o Anifeiliaid (Mewnforion Trydydd Gwledydd) (Cymru) 2007

Atal safleoedd arolygu ar y ffin a chanolfannau arolygu rhag gweithreduLL+C

13.—(1Bydd y rheoliad hwn yn gymwys os yw'r Cynulliad Cenedlaethol wedi'i fodloni—

(a)y byddai parhau i weithredu safle arolygu ar y ffin yn peri risg difrifol i iechyd y cyhoedd neu iechyd anifeiliaid; neu

(b)bod toriad difrifol wedi bod, wrth safle arolygu ar y ffin, o'r gofynion ar gyfer cymeradwyo safleoedd arolygu ar y ffin sydd wedi'u gosod yn Atodiad II i Gyfarwyddeb 97/78/EC neu ym Mhenderfyniad y Comisiwn 2001/812/EC (sy'n gosod gofynion ar gyfer cymeradwyo safleoedd arolygu ar y ffin sy'n gyfrifol am wiriadau milfeddygol ar gynhyrchion y deuir â hwy i'r Gymuned o drydydd gwledydd)(1).

(2At ddibenion y rheoliad hwn ac unrhyw hysbysiad a gyflwynir odano, ystyr “cymeradwyaeth” (“approval”), mewn perthynas â safle arolygu ar y ffin neu ganolfan arolygu, yw'r gymeradwyaeth o'r safle arolygu ar y ffin neu'r ganolfan arolygu, yn ôl y digwydd, yn unol ag Erthygl 6(2) neu 6(4) o Gyfarwyddeb 97/78/EC.

(3Pan fo'r rheoliad hwn yn gymwys, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol atal cymeradwyaeth y safle arolygu ar y ffin naill ai'n llawn neu'n rhannol yn unol â pharagraff (4), (5) neu (6).

(4Caiff y Cynulliad Cenedlaethol atal cymeradwyaeth y safle arolygu ar y ffin yn llawn drwy gyflwyno—

(a)i weithredydd y safle arolygu ar y ffin; neu

(b)pan fo'r safle arolygu ar y ffin yn cynnwys mwy nag un ganolfan arolygu, i weithredydd pob canolfan arolygu (os ydynt yn wahanol),

hysbysiad ysgrifenedig sy'n datgan bod y gymeradwyaeth o'r fangre fel safle arolygu ar y ffin wedi'i hatal.

(5Os yw'r Cynulliad Cenedlaethol wedi'i fodloni mai dim ond mewn cysylltiad ag un neu ragor (ond nid pob un) o'r categorïau o gynhyrchion y mae'r safle arolygu ar y ffin wedi'i gymeradwyo ar eu cyfer (fel a bennir yn yr Atodiad i Benderfyniad y Comisiwn 2001/881/EC) y mae'r risg difrifol i iechyd y cyhoedd neu i iechyd anifeiliaid y cyfeiriwyd ato ym mharagraff (1)(a), neu'r toriad difrifol o'r gofynion y cyfeiriwyd ato ym mharagraff 1(b), wedi codi, caiff atal y gymeradwyaeth o'r safle arolygu ar y ffin mewn perthynas â'r categori hwnnw neu'r categorïau hynny o gynhyrchion drwy gyflwyno hysbysiad ysgrifenedig—

(a)i weithredydd y safle arolygu ar y ffin; neu

(b)pan fo'r categori o gynhyrchion neu'r categorïau o gynhyrchion o dan sylw yn cael eu trafod gan wahanol ganolfannau arolygu yn y safle arolygu ar y ffin, i weithredydd pob un o'r canolfannau arolygu hynny (os ydynt yn wahanol),

yn datgan bod y gymeradwyaeth o'r fangre fel safle arolygu ar y ffin wedi'i hatal ar gyfer y categori hwnnw, neu'r categorïau hynny, o gynhyrchion.

(6Os yw'r Cynulliad Cenedlaethol wedi'i fodloni mai dim ond mewn cysylltiad ag un ganolfan arolygu yn y safle arolygu ar y ffin y mae'r risg difrifol i iechyd y cyhoedd neu i iechyd anifeiliaid y cyfeiriwyd ato ym mharagraff (1)(a), neu'r toriad difrifol o'r gofynion y cyfeiriwyd ato ym mharagraff (1)(b), wedi codi, caiff atal y gymeradwyaeth o'r ganolfan arolygu drwy gyflwyno hysbysiad ysgrifenedig i weithredydd y ganolfan arolygu yn datgan bod y gymeradwyaeth o'r fangre fel canolfan arolygu wedi'i hatal.

(7Pan gyflwynir hysbysiad o dan—

(a)paragraff (4), bydd y fangre yn peidio â bod yn safle arolygu ar y ffin neu'n ganolfan arolygu mewn safle arolygu ar y ffin (yn ôl y digwydd) hyd nes y cânt eu cymeradwyo felly eto yn unol ag Erthygl 6(2)(a) o Gyfarwyddeb 97/78/EC;

(b)paragraff (5), bydd y fangre'n peidio â bod yn safle arolygu ar y ffin neu'n ganolfan arolygu mewn safle arolygu ar y ffin (yn ôl y digwydd), a gymeradwywyd ar gyfer y categori hwnnw, neu'r categorïau hynny, o gynhyrchion, hyd nes iddi gael ei chymeradwyo felly unwaith eto yn unol ag Erthygl 6(2)(a) o Gyfarwyddeb 97/78/EC; ac

(c)paragraff (6), bydd y fangre yn peidio â bod yn fangre sydd wedi'i chymeradwyo fel canolfan arolygu mewn safle arolygu ar y ffin, hyd nes y caiff ei chymeradwyo felly eto yn unol ag Erthygl 6(2)(a) o Gyfarwyddeb 97/78/EC.

(8Mae darpariaethau paragraff (7) yn gymwys yn achos ataliad y rhoddir effaith iddo o dan y rheoliad hwn er gwaethaf y ffaith y gall yr Atodiad i Benderfyniad 2001/881/EC fod heb ei ddiweddaru i adlewyrchu'r ataliad hwnnw.

(9Yn y rheoliad hwn, ystyr “canolfan arolygu” (“inspection centre”) yw cyfleuster sy'n rhan o safle arolygu ar y ffin ac a restrir ynghyd ag enw'r safle arolygu ar y ffin ei hun yn yr Atodiad i Benderfyniad 2001/881/EC.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 13 mewn grym ar 14.2.2007, gweler rhl. 1(2)

(1)

OJ Rhif L306, 23.11.2001, t. 28.