Cynhyrchion sy'n methu gwiriadau milfeddygol
21.—(1) Mae'r rheoliad hwn yn ddarostyngedig i reoliad 22.
(2) Pan fo'r milfeddyg swyddogol, yn dilyn gwiriad milfeddygol wrth safle arolygu ar y ffin, yn penderfynu—
(a)bod cynnyrch, heblaw cynnyrch a eithriwyd, yn gynnyrch nad yw'n cydymffurfio; neu
(b)bod rhyw afreoleidd-dra arall mewn perthynas â chynnyrch;
rhaid i'r milfeddyg swyddogol gydymffurfio â pharagraff (3).
(3) Rhaid i'r milfeddyg swyddogol gyflwyno hysbysiad ysgrifenedig i'r person sy'n gyfrifol am y cynnyrch yn ei gwneud yn ofynnol iddo—
(a)anfon ymlaen y cynnyrch drwy'r dull cludo a ddefnyddiwyd i ddod ag ef i Gymru o'r safle arolygu ar y ffin i gyrchfan y cytunir arni gyda'r milfeddyg swyddogol, a'r gyrchfan honno wedi'i lleoli mewn trydedd wlad, o fewn cyfnod o drigain niwrnod gan ddechrau ar y diwrnod ar ôl cyflwyno'r hysbysiad; neu
(b)gwaredu'r cynnyrch yn unol â Rheoliad (EC) Rhif 1774/2002 yn y cyfleusterau a ddarperir at y diben hwnnw ac sydd agosaf at y safle arolygu ar y ffin.
(4) Yn ddarostyngedig i baragraff (6), pan fo swyddog awdurdodedig yn penderfynu, ar ôl gwiriad milfeddygol ar gynnyrch, heblaw cynnyrch a eithriwyd, sydd wedi'i leoli i ffwrdd o safle arolygu ar y ffin, fod y cynnyrch yn gynnyrch nad yw'n cydymffurfio, rhaid i'r swyddog awdurdodedig gydymffurfio â pharagraff (5).
(5) Rhaid i'r swyddog awdurdodedig gyflwyno hysbysiad ysgrifenedig i'r person y mae'n ymddangos ei fod â gofal dros y cynnyrch, yn ei gwneud yn ofynnol iddo—
(a)anfon ymlaen y cynnyrch drwy'r dull cludo a ddefnyddiwyd i'w gyflwyno i Gymru o'r safle arolygu ar y ffin y cyfeiriwyd ato yn yr hysbysiad i gyrchfan y cytunir arni gyda'r swyddog awdurdodedig, a'r gyrchfan honno wedi'i lleoli mewn trydedd wlad, o fewn cyfnod o drigain niwrnod gan ddechrau ar y diwrnod ar ôl cyflwyno'r hysbysiad; neu
(b)gwaredu'r cynnyrch yn unol â Rheoliad (EC) Rhif 1774/2002 yn y cyfleusterau a ddarperir at y diben hwnnw ac sydd agosaf at leoliad y cynnyrch.
(6) Rhaid gwaredu'r cynnyrch yn unol â pharagraff 3(b) neu 5(b) —
(a)pan fyddai ei anfon ymlaen wedi'i ragwahardd ar sail iechyd anifeiliaid neu iechyd y cyhoedd—
(i)oherwydd canlyniadau gwiriad milfeddygol, neu
(ii)oherwydd unrhyw ofyniad o ran iechyd anifeiliaid neu iechyd y cyhoedd sydd wedi'i osod mewn offeryn Cymunedol ac sydd mewn grym ar y dyddiad y cafodd y Rheoliadau hyn eu gwneud,
neu sydd fel arall yn amhosibl;
(b)pan fo'r cyfnod o drigain niwrnod y cyfeiriwyd ato ym mharagraff (3)(a) neu (5)(a) wedi mynd heibio; neu
(c)pan fo'r person sy'n gyfrifol am y cynnyrch neu, os yw is-baragraff (4) yn gymwys, perchennog y cynnyrch, yn cytuno ar unwaith i'w waredu.
(7) O ran cynnyrch y mae hysbysiad wedi'i gyflwyno ynglŷn ag ef o dan baragraff (3) neu (5), rhaid i'r person sy'n gyfrifol amdano, neu, os yw paragraff (4) yn gymwys, ei berchennog, sicrhau y caiff y cynnyrch ei storio hyd nes iddo gael ei anfon ymlaen neu ei waredu o dan oruchwyliaeth y milfeddyg swyddogol neu'r swyddog awdurdodedig yn y man neu o dan yr amodau a gyfarwyddir ganddo yn yr hysbysiad.
(8) Caiff unrhyw berson a dramgwyddir gan benderfyniad y cyfeiriwyd ato ym mharagraff (2) neu (4) apelio i lys ynadon o fewn un mis i ddyddiad y penderfyniad trwy gyfrwng cwyn am orchymyn a bydd Deddf Llysoedd Ynadon 1980 yn gymwys i'r achos cyfreithiol.
(9) Tra'n aros i apêl gael ei phenderfynu o dan baragraff (8), bydd paragraff (7) yn gymwys i storio'r cynnyrch o dan sylw.
(10) Yn y rheoliad hwn—
(a)ystyr “cynnyrch a eithriwyd” (“excepted product”) yw cynnyrch tramwy sy'n bodloni gofynion Rhan 7 neu gynnyrch y cyfeirir at ei sefydliad cyrchfan yn rheoliad 15(b) neu 15(c);
(b)ystyr “afreoleidd-dra arall” (“other irregularity”), mewn perthynas â chynnyrch, yw—
(i)ei gyflwyno i Gymru o drydedd wlad, neu ei roi gerbron safle arolygu ar y ffin ar gyfer cyrchfan yng Nghymru, heb fod hysbysiad wedi'i roi o dan reoliad 17;
(ii)unrhyw wybodaeth ffug neu gamarweiniol a gynhwysir mewn hysbysiad a roddir o dan reoliad 17;
(iii)unrhyw wybodaeth ffug neu gamarweiniol a roddir o dan reoliad 45 neu 51;
(iv)unrhyw gamgymeriad, hepgoriad neu wybodaeth ffug neu gamarweiniol mewn dogfen ofynnol, ac unrhyw anghysondeb rhwng dogfen ofynnol ac—
(aa)yr hysbysiad a roddwyd o dan reoliad 17 o gyflwyno neu roi'r cynnyrch gerbron;
(bb)y cynnyrch ei hun; neu
(cc)y seliau, y stampiau, y marciau neu'r labeli ar y cynnyrch, ar y llwyth sy'n cynnwys y cynnyrch neu ar y cynhwysydd sy'n dal y cynnyrch neu'r llwyth;
(v)unrhyw ddiffyg yn y cynnyrch sy'n ei wneud yn anffit i'w ddefnyddio at y diben y mae, yn ôl y dogfennau gofynnol, wedi'i fwriadu ar ei gyfer;
(vi)unrhyw ddiffyg yn y seliau, y stampiau, y marciau neu'r labeli y cyfeiriwyd atynt ym mharagraff (10)(b)(iv)(cc), gan gynnwys, yn achos cynnyrch sydd wedi'i becynnu, unrhyw doriad o'r gofynion labelu sydd wedi'u gosod ar gyfer y cynnyrch hwnnw mewn unrhyw Gyfarwyddeb, Penderfyniad neu Reoliad a restrir yn Atodlen 1;
(vii)yn achos cynnyrch sydd wedi'i fwriadu ar gyfer ei fewnforio, unrhyw awgrym yn y dogfennau gofynnol nad yw'r cynnyrch yn cydymffurfio â'r amodau mewnforio; ac
(viii)yn achos cynnyrch nad yw'n cydymffurfio ac sy'n gynnyrch tramwy, neu'n gynnyrch y cyfeiriwyd at ei sefydliad cyrchfan yn rheoliad 15(b) neu 15(c), unrhyw doriad o'r gofynion a osodir ar gyfer y cynnyrch hwnnw nad yw'n cydymffurfio mewn unrhyw Gyfarwyddeb, Penderfyniad neu Reoliad a restrir yn Atodlen 1.