Rheoliadau Cynhyrchion sy'n Dod o Anifeiliaid (Mewnforion Trydydd Gwledydd) (Cymru) 2007

Diwygio, atal a dirymu cymeradwyaethauLL+C

32.—(1Pan fo'r Cynulliad Cenedlaethol wedi'i fodloni nad yw unrhyw un o amodau'r gymeradwyaeth bellach yn cael ei chyflawni, neu na chydymffurfir â'r gofynion yn rheoliad 30(2)(a) a (b), neu ei bod yn angenrheidiol gwneud hynny am resymau iechyd y cyhoedd neu iechyd anifeiliaid, caiff, drwy hysbysiad ysgrifenedig a gyflwynir i'r gweithredydd, atal y gymeradwyaeth.

(2Os yw'r Cynulliad Cenedlaethol wedi'i fodloni y dylid diwygio unrhyw un o amodau'r gymeradwyaeth am resymau iechyd y cyhoedd neu iechyd anifeiliaid, caiff ddiwygio'r gymeradwyaeth drwy hysbysiad ysgrifenedig a gyflwynir i'r gweithredydd.

(3O ran ataliad o dan baragraff (1) neu ddiwygiad o dan baragraff (2)-—

(a)bydd yn effeithiol ar unwaith os yw'r Cynulliad Cenedlaethol wedi'i fodloni ei bod yn angenrheidiol iddo wneud hynny er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd neu iechyd anifeiliaid; a

(b)ni fydd yn effeithiol fel arall am o leiaf un ar hugain o ddiwrnodau ar ôl cyflwyno'r hysbysiad.

(4Rhaid i'r hysbysiad ym mharagraff 32(1) neu (2)-—

(a)rhoi'r rhesymau dros yr ataliad neu'r diwygiad; a

(b)esbonio hawl gweithredydd y fangre i gyflwyno sylwadau ysgrifenedig i'r Cynulliad Cenedlaethol a chael gwrandawiad gan berson annibynnol a benodwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol yn unol â rheoliad 33.

(5Pan fo apêl o dan reoliad 33 ni fydd diwygiad neu ataliad yn effeithiol tan benderfyniad terfynol y Cynulliad Cenedlaethol yn unol â'r rheoliad hwnnw oni fydd y Cynulliad Cenedlaethol yn credu ei bod yn angenrheidiol er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd neu iechyd anifeiliaid i'r diwygiad neu'r ataliad ddod yn effeithiol yn gynt.

(6Pan fo'r Cynulliad Cenedlaethol wedi atal cymeradwyaeth, ac -—

(a)nad oes unrhyw apêl wedi'i dwyn yn unol â rheoliad 33; neu

(b)bod y Cynulliad Cenedlaethol yn cadarnhau'r ataliad yn dilyn apêl o'r fath,

caiff ddirymu'r gymeradwyaeth drwy hysbysiad ysgrifenedig ar yr amod ei fod wedi'i fodloni, o ystyried holl amgylchiadau'r achos, na fyddai'r fangre yn cael ei gweithredu yn unol â gofynion rheoliad 30(2)(a) neu (b) neu amodau'r gymeradwyaeth, os oes rhai.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 32 mewn grym ar 14.2.2007, gweler rhl. 1(2)