RHAN 7Cynhyrchion a Fwriedir ar gyfer Warysau neu Storfeydd Llongau neu Gyfryngau Cludo Mordwyol Trawsffiniol

Gwybodaeth ychwanegol sydd i'w rhoi ymlaen llaw45.

(1)

Ni chaiff neb gyflwyno cynnyrch y mae'r Rhan hon yn gymwys iddo i Gymru, na rhoi cynnyrch o'r fath gerbron mewn safle arolygu ar y ffin ar gyfer cyrchfan yng Nghymru, oni bai bod y milfeddyg swyddogol y rhoddwyd hysbysiad iddo, yn unol â rheoliad 17, o gyflwyno neu o roi'r cynnyrch gerbron, wedi'i hysbysu—

(a)

a oes bwriad i fewnforio'r cynnyrch yn y pen draw;

(b)

onid oes, a yw'n gynnyrch tramwy, neu'n gynnyrch y mae ei sefydliad cyrchfan yn gyfrwng cludo mordwyol trawsffiniol; ac

(c)

sut bynnag, a yw'r cynnyrch yn cydymffurfio â'r amodau mewnforio.

(2)

Rhaid i'r wybodaeth ym mharagraff (1) gael ei rhoi yn ysgrifenedig a chaniateir ei chynnwys yn yr hysbysiad o gyflwyno'r cynnyrch neu o'i roi gerbron a roddwyd yn unol â rheoliad 17.