RHAN 9Ffioedd am Wiriadau Milfeddygol

Gwybodaeth am ffioedd58.

(1)

Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol, awdurdod lleol neu'r Asiantaeth, os gofynnir yn ysgrifenedig iddo neu iddi wneud hynny, ddarparu ar gyfer unrhyw berson sy'n rhoi cynhyrchion gerbron yn unol â rheoliad 18, neu ar gyfer unrhyw gorff sy'n cynrychioli personau o'r fath, fanylion y cyfrifiadau y mae'n eu defnyddio i benderfynu ffioedd am wiriadau milfeddygol a rhaid iddynt gymryd i ystyriaeth unrhyw sylwadau a gyflwynwyd gan berson neu gorff o'r fath wrth benderfynu ffioedd o'r fath.

(2)

Os gofynnir iddo'n ysgrifenedig wneud hynny gan y Cynulliad Cenedlaethol neu'r Asiantaeth, rhaid i awdurdod lleol ddarparu ar gyfer y Cynulliad Cenedlaethol neu'r Asiantaeth, yn ôl y digwydd, yr wybodaeth y gallai fod ei hangen arno neu arni mewn cysylltiad â chyfrifo'r ffioedd am wiriadau milfeddygol, ynghyd â chopïau o unrhyw sylwadau ysgrifenedig a wnaed gan bersonau neu gyrff y cyfeirir atynt ym mharagraff (1).