RHAN 9Ffioedd am Wiriadau Milfeddygol

Apelau yn erbyn ffioedd a dalwyd i'r Cynulliad Cenedlaethol neu i'r Asiantaeth60

1

Caiff unrhyw berson sydd wedi talu ffi am wiriadau milfeddygol i'r Cynulliad Cenedlaethol neu i'r Asiantaeth, ac unrhyw gorff sy'n cynrychioli personau o'r fath, cyn pen un diwrnod ar hugain ar ôl i'r ffi gael ei chodi, roi hysbysiad ysgrifenedig o'i ddymuniad i apelio i berson annibynnol a benodwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol, neu pan fo'r ffi wedi'i thalu i'r Asiantaeth, i berson annibynnol a benodwyd gan yr Asiantaeth, ar y sail bod swm y ffi yn afresymol.

2

Pan fo'r ffi wedi ei thalu i'r Asiantaeth, rhaid i swyddogaethau'r Cynulliad Cenedlaethol ym mharagraff (3) a (4) gael eu cyflawni gan yr Asiantaeth.

3

Pan fo apelydd yn rhoi hysbysiad o'i ddymuniad i ymddangos gerbron person annibynnol a benodwyd at y diben hwnnw a chael gwrandawiad ganddo -—

a

rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol benodi person annibynnol i wrando ar y sylwadau a phennu terfyn amser erbyn pryd y mae'n rhaid cyflwyno sylwadau i'r person annibynnol hwnnw;

b

rhaid i'r person a benodir beidio â bod, ac eithrio gyda chydsyniad yr apelydd, yn un o swyddogion y Cynulliad Cenedlaethol nac yn un sy'n ei wasanaethu;

c

os yw'r apelydd yn gofyn am hynny, rhaid i'r gwrandawiad fod yn un cyhoeddus;

ch

rhaid i'r person annibynnol gyflwyno adroddiad i'r Cynulliad Cenedlaethol; a

d

os bydd yr apelydd yn gofyn amdano, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol ddarparu copi iddo o adroddiad y person annibynnol.

4

Os caiff y person annibynnol ei fodloni bod swm y ffi yn afresymol, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol ailgyfrifo'r ffi yn unol ag unrhyw gyfarwyddiadau a roddir gan y person annibynnol ac ad-dalu i'r person a dalodd y ffi y gwahaniaeth rhwng y ffi wreiddiol a'r ffi a ailgyfrifwyd.