RHAN 11Tramgwyddau a Chosbau

Tramgwyddau gan bartneriaethau Albanaidd67.

Os profir bod tramgwydd o dan y Rheoliadau hyn sydd wedi'i gyflawni gan bartneriaeth Albanaidd wedi'i gyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad partner, neu os gellir priodoli'r tramgwydd hwnnw i unrhyw esgeulustod ar ran partner, bernir bod y partner hwnnw, yn ogystal â'r bartneriaeth, yn euog o'r tramgwydd hwnnw a bydd yn agored i gael ei erlyn a'i gosbi yn unol â hynny.