ATODLEN 1Amodau Mewnforio
RHAN IDARPARIAETHAU SY'N GYFFREDIN I NIFER O GATEGORÏAU O GYNNYRCH
Terfynau gweddillion uchaf halogion
1.
Rheoliad y Cyngor (EEC) Rhif 2377/90 sy'n gosod gweithdrefn Gymunedol ar gyfer sefydlu terfynau gweddillion uchaf cynhyrchion meddyginiaethol milfeddygol mewn bwydydd sy'n dod o anifeiliaid (OJ Rhif L224, 18.8.90, t. 1) fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1451/2006 (OJ Rhif L271, 30.9.2006, t.37).
2.
Cyfarwyddeb y Cyngor 96/23/EC ar fesurau i fonitro sylweddau penodol a'u gweddillion mewn anifeiliaid byw a chynhyrchion anifeiliaid ac yn dirymu Cyfarwyddebau 85/358/EEC ac 86/469/EEC a Phenderfyniadau 89/187/EEC a 91/664/EEC (OJ Rhif L125, 23.5.96, t. 10) fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 882/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor (gweler Corigendwm OJ Rhif L191, 28.5.2004, t. 1).
3.
Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 466/2001 sy'n gosod lefelau uchaf ar gyfer halogion penodol mewn bwydydd (OJ Rhif L77, 16.3.2001, t. 1) fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 199/2006, (OJ Rhif L32, 4.2.2006, t. 34).
4.
Penderfyniad y Comisiwn 2004/432/EC ar gymeradwyo cynlluniau monitro gweddillion a ddanfonwyd gan drydydd gwledydd yn unol â Chyfarwyddeb y Cyngor 96/23/EC (OJ Rhif L154, 30.4.2004, t. 44) fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Benderfyniad y Comisiwn 2006/208/EC (OJ Rhif L75, 14.3.2006, t. 20).
5.
Penderfyniad y Comisiwn 2005/34/EC sy'n gosod safonau wedi'u harmoneiddio ar gyfer profi am weddillion penodol mewn cynhyrchion sy'n dod o anifeiliaid a fewnforir o drydydd gwledydd (OJ Rhif L16, 20.1.2005, t. 61).
Enseffalopathïau sbyngffurf trosglwyddadwy
6.
Rheoliad (EC) Rhif 999/2001 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod rheolau ar gyfer atal, rheoli a difodi enseffalopathïau sbyngffurff trosglwyddadwy penodol (OJ Rhif L147, 31.5.2001, t. 1) fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1041/2006 (OJ Rhif L187, 8.7.2006, t. 10).
Ardystiadau iechyd ar gyfer cynhyrchion anifeiliaid o Seland Newydd
7.
Penderfyniad y Comisiwn 2003/56/EC ar dystysgrifau iechyd ar gyfer mewnforio anifeiliaid byw a chynhyrchion anifeiliaid o Seland Newydd (OJ Rhif L22, 25.1.2003, t. 38) fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Benderfyniad y Comisiwn 2004/784/EC (OJ Rhif L346, 23.11.2004, t. 11).
Rheolau iechyd anifeiliaid ar fewnforion cynhyrchion sy'n dod o anifeiliaid i'w bwyta gan bobl
8.
Cyfarwyddeb y Cyngor 2002/99/EC sy'n gosod y rheolau iechyd anifeiliaid sy'n rheoli cynhyrchu, prosesu, dosbarthu a chyflwyno cynhyrchion sy'n dod o anifeiliaid i'w bwyta gan bobl (OJ Rhif L18, 23.1.2003, t. 11) fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 882/2004 (OJ Rhif L191, 28.5.2004, t. 1).
9.
Rheoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd (OJ Rhif L31, 1.2.2002, t. 1).
10.
Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 183/2005 (sy'n gosod gofynion ar gyfer hylendid bwyd anifeiliaid (OJ Rhif L35, 8.2.2005, t. 1).
11.
Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 396/2005 ar lefelau uchaf plaleiddiaid mewn bwyd ac mewn bwyd anifeiliaid neu arnynt sy'n dod o blanhigion ac o anifeiliaid ac sy'n diwygio Cyfarwyddeb y Cyngor 91/414/EEC (OJ Rhif L70, 16.3.2005, t. 1) fel y'i diwygiwyd gan Reoliad (EC) Rhif 178/2006 (OJ Rhif L29, 2.2.2006, t. 3).
Rheolau iechyd y cyhoedd ar fewnforion o gynhyrchion sy'n dod o anifeiliaid i'w bwyta gan bobl
12.
Rheoliad (EC) Rhif 853/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod rheolau hylendid penodol ar gyfer bwyd sy'n dod o anifeiliaid (OJ Rhif L139, 30.4.2004, t. 55) fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad 2076/2005 (OJ Rhif L338, 22.12.2005, t. 83).
13.
Rheoliad (EC) Rhif 854/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor yn gosod rheolau hylendid penodol ar gyfer trefnu rheolaethau swyddogol ar gynhyrchion sy'n dod o anifeiliaid ac a fwriedir ar gyfer eu bwyta gan bobl (OJ Rhif L139, 30.4.2004, t. 206) fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) 2076/2005 (OJ Rhif L338, 22.12.2005, t. 83).
14.
Rheoliad (EC) Rhif 882/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar reolaethau swyddogol a ddefnyddir i sicrhau bod cydymffurfedd â'r gyfraith ynglyn â bwyd anifeiliaid a bwyd, rheolau iechyd anifeiliaid a rheolau lles anifeiliaid yn cael ei wirio (OJ Rhif L191, 28.5.2004, t. 1).
15.
Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2073/2005 ar feini prawf microbeiolegol ar gyfer bwydydd (OJ Rhif L338, 22.12.2005, t. 1).
16.
Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2074/2005 sy'n gosod mesurau gweithredu ar gyfer cynhyrchion penodol o dan Reoliad (EC) Rhif 853/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ac ar gyfer trefnu rheolaethau swyddogol o dan Reoliad (EC) Rhif 854/2005 Senedd Ewrop a'r Cyngor a Rheoliad 882/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n rhanddirymu Rheoliad 852/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ac yn diwygio Rheoliadau (EC) 853/2004 ac (EC) 854/2004 (OJ Rhif L338, 22.12.2005, t.27).
17.
Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2075/2005 sy'n gosod rheolau penodol ar reolaethau swyddogol ar gyfer Trichinella mewn cig (OJ Rhif L338, 22.12.2005, t.60).
18.
Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2076/2005 sy'n gosod trefniadau trosiannol ar gyfer gweithredu Rheoliadau (EC) Rhif 853/2004, (EC) Rhif 854/2004 ac (EC) Rhif 882/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ac yn diwygio Rheoliadau (EC) Rhif 853/2004 ac (EC) Rhif 854/2004 (OJ Rhif L338, 22.12.2005, t. 83).