ATODLEN 1Amodau Mewnforio
RHAN IVLLAETH A CHYNHYRCHION LLAETH
Cyffredinol
1.
Penderfyniad y Comisiwn 2004/438/EC sy'n gosod yr amodau ynghylch iechyd anifeiliaid ac iechyd y cyhoedd ac ynghylch ardystiadau milfeddygol, ar gyfer cyflwyno i'r Gymuned laeth a gafodd ei drin รข gwres, cynhyrchion seiliedig ar laeth a llaeth amrwd a fwriedir ar gyfer ei fwyta gan bobl (OJ Rhif L154, 30.4.2004, t. 72) fel y'i diwygiwyd gan Benderfyniad y Comisiwn 2006/295/EC (OJ Rhif L108, 21.4.2006, t. 108).
Trydydd gwledydd y caniateir mewnforio llaeth a chynhyrchion llaeth ohonynt
2.
Penderfyniad y Comisiwn 2004/438/EC (gweler paragraff 1 o'r Rhan hon).
Sefydliadau trydydd gwledydd y caniateir mewnforio llaeth a chynhyrchion llaeth ohonynt
3.
Penderfyniad y Comisiwn 97/252/EC (OJ Rhif L101, 18.4.97, t. 46) fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Benderfyniad y Comisiwn 2004/807/EC (OJ Rhif L354, 30.11.2004, t. 32).