ATODLEN 1Amodau Mewnforio
RHAN IXDEUNYDD GENETIG
Deunydd o deulu'r fuwch
1.
Cyfarwyddeb y Cyngor 88/407/EEC sy'n gosod y gofynion iechyd anifeiliaid sy'n gymwys i fasnach ryng-Gymunedol mewn semen anifeiliaid domestig o rywogaeth y fuwch ac i fewnforio'r semen hwnnw, (OJ Rhif L194, 22.7.88, t. 10) fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Benderfyniad y Comisiwn 2006/16/EC (OJ Rhif L11, 17.1.2006, t. 21).
2.
Cyfarwyddeb y Cyngor 89/556/EEC ar amodau iechyd anifeiliaid sy'n llywodraethu masnach ryng-Gymunedol mewn embryonau anifeiliaid domestig o rywogaeth y fuwch ac yn llywodraethu eu mewnforio i'r Gymuned o drydydd gwledydd (OJ Rhif L302, 19.10.89, t. 1) fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Benderfyniad y Comisiwn 2006/60/EC (OJ Rhif L31, 3.2.2006, t. 24).
3.
Penderfyniad y Comisiwn 92/452/EEC sy'n sefydlu rhestr o dimau casglu embryonau a gymeradwywyd mewn trydydd gwledydd ar gyfer allforio embryonau gwartheg i'r Gymuned (OJ Rhif L250, 29.8.92 t. 40) fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Benderfyniad y Comisiwn 2006/556/EC (OJ Rhif L218, 9.8.2006, t. 20).
4.
Penderfyniad y Comisiwn 2004/639/EC sy'n gosod amodau mewnforio semen anifeiliaid domestig o rywogaeth y fuwch (OJ Rhif L292, 15.9.2004, t. 21), fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Benderfyniad y Comisiwn 2006/292/EC (OJ Rhif L107, 20.4.2006, t. 42).
5.
Penderfyniad y Comisiwn 2006/168/EC sy'n gosod yr amodau ynghylch iechyd anifeiliaid ac ynghylch ardystiadau milfeddygol ar gyfer mewnforion i'r Gymuned o embryonau gwartheg ac yn diddymu Penderfyniad y Comisiwn 2005/217/EC (OJ Rhif L57, 28.2.2006, t. 19).
Deunydd o deulu'r mochyn
6.
Cyfarwyddeb y Cyngor 90/429/EEC sy'n gosod y gofynion iechyd anifeiliaid sy'n gymwys i fasnach ryng-Gymunedol mewn semen anifeiliaid domestig o rywogaeth y mochyn ac i fewnforio'r semen hwnnw (OJ Rhif L224, 18.8.90, t. 62) fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan yr Act Ymaelodi (gweler paragraff 3 o Ran V).
7.
Penderfyniad y Comisiwn 93/160/EEC sy'n llunio rhestr o drydydd gwledydd y mae Aelod-wladwriaethau'n awdurdodi mewnforio ohonynt semen anifeiliaid domestig o rywogaeth y mochyn (OJ Rhif L67, 19.3.93 t. 27).
8.
Penderfyniad y Comisiwn 94/63/EC sy'n llunio rhestr dros dro o drydydd gwledydd y mae Aelod-wladwriaethau yn awdurdodi mewnforio ohonynt semen, ofa, ac embryonau rhywogaeth y ddafad, yr afr a'r ceffyl, ofa ac embryonau rhywogaeth y mochyn (OJ Rhif L28, 2.2.94, t. 47) fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Benderfyniad y Comisiwn 2004/211/EC (OJ Rhif L73, 11.3.2004, t. 1).
9.
Penderfyniad y Comisiwn 2002/613/EC sy'n gosod yr amodau ynghylch mewnforio semen anifeiliaid domestig o rywogaeth y mochyn (OJ Rhif L196, 25.7.2002, t. 45) fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Benderfyniad y Comisiwn 2006/271/EC (OJ Rhif L99, 7.4.2006, t. 29).
Deunydd o deulu'r ddafad a'r afr
10.
Cyfarwyddeb y Cyngor 92/65/EEC sy'n gosod gofynion iechyd anifeiliaid sy'n llywodraethu'r fasnach yn y Gymuned mewn anifeiliaid, semen, ofa ac embryonau nad ydynt yn ddarostyngedig i ofynion iechyd anifeiliaid a bennir yn rheolau penodol y Gymuned ac y cyfeirir atynt yn Atodiad A(I) i Gyfarwyddeb 90/425/EEC), (OJ Rhif L268, 14.9.92, t. 54) fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Benderfyniad y Comisiwn 2005/64/EC (OJ Rhif L27, 29.1.2005, t. 48) ac yn llywodraethu eu mewnforio iddi.
11.
Penderfyniad y Comisiwn 94/63/EC (gweler paragraff 8 o'r Rhan hon).
Deunydd o deulu'r ceffyl
12.
Cyfarwyddeb y Cyngor 92/65/EEC (gweler paragraff 10 o'r Rhan hon).
13.
Penderfyniad y Comisiwn 96/539/EC ar ofynion iechyd anifeiliaid ac ardystiadau milfeddygol ar gyfer mewnforio i'r Gymuned semen rhywogaeth y ceffyl, (OJ Rhif L230, 11.9.96, t. 23) fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan yr Act Ymaelodi (gweler paragraff 3 o Ran V).
14.
Penderfyniad y Comisiwn 96/540/EC ar ofynion iechyd anifeiliaid ac ardystiadau milfeddygol ar gyfer mewnforio i'r Gymuned ofa ac embryonau rhywogaeth y ceffyl (OJ Rhif L230, 11.9.96, t. 28) fel y'i diwygiwyd gan yr Act Ymaelodi (gweler paragraff 3 o Ran V).
15.
Penderfyniad y Comisiwn 2004/211/EC sy'n sefydlu'r rhestr o drydydd gwledydd a rhannau o'u tiriogaethau y mae Aelod-wladwriaethau'n awdurdodi mewnforio anifeiliaid byw o deulu'r ceffyl a semen, ofa ac embryonau o rywogaethau'r ceffyl ohonynt, ac yn diwygio Penderfyniadau 93/195/EC a 94/63/EC (OJ Rhif L73, 11.3.2004, t. 1).
16.
Penderfyniad y Comisiwn 2004/616/EC sy'n sefydlu'r rhestr o ganolfannau casglu semen sydd wedi'u cymeradwyo ar gyfer mewnforio o drydydd gwledydd semen o deulu'r ceffyl (OJ Rhif L278, 27.8.2004, t. 64).
Deunydd pysgod
17.
Cyfarwyddeb y Cyngor 91/67/EEC ynghylch yr amodau iechyd anifeiliaid sy'n llywodraethu gosod ar y farchnad anifeiliaid a chynhyrchion dyframaethu (OJ Rhif L46, 19.2.91, t. 1), fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 806/2003 (OJ Rhif L122, 16.5.2003, t. 1).