ATODLEN 3LL+CCyfrifo Ffioedd am Wiriadau Milfeddygol

RHAN 1LL+CCOSTAU Y MAE'R FFIOEDD YN TALU AMDANYNT

2.  Yr eitemau y cyfeirir atynt ym mharagraff 1 yw—LL+C

(a)cyflogau a ffioedd, ynghyd â thaliadau goramser a chyfraniadau cyflogwyr at yswiriant gwladol a phensiynau, pob aelod o staff sy'n ymwneud yn uniongyrchol â chyflawni gwiriadau milfeddygol a phob aelod o staff sy'n ymwneud â rheoli neu weinyddu'r gwiriadau milfeddygol wrth y safle arolygu ar y ffin;

(b)recriwtio a hyfforddi'r staff y cyfeirir atynt yn eitem (a);

(c)costau teithio a mân dreuliau perthynol a dynnir wrth gyflawni'r gwiriadau milfeddygol, ac eithrio pan fyddant wedi'u tynnu gan berson sy'n mynd i'w le gwaith arferol;

(ch)costau ystafelloedd, offer a gwasanaethau swyddfa ar gyfer staff sy'n ymwneud â chyflawni gwiriadau milfeddygol wrth y safle arolygu ar y ffin, gan gynnwys dibrisiant unrhyw ddodrefn ac offer swyddfa a chost technoleg gwybodaeth, deunyddiau ysgrifennu a ffurflenni;

(d)costau dillad amddiffynnol ac offer a ddefnyddir wrth gyflawni'r gwiriadau milfeddygol;

(dd)glanhau'r dillad amddiffynnol y cyfeirir atynt yn eitem (d);

(e)samplu, profi a dadansoddi samplau (ac eithrio samplu a phrofi i weld a oes salmonela yn bresennol mewn protein anifeiliaid wedi'i brosesu nas bwriedir ar gyfer ei fwyta gan bobl);

(f)gwaith arferol o ran anfonebu a chasglu ffioedd am wiriadau milfeddygol wrth y safle arolygu ar y ffin; ac

(ff)darparu gwasanaethau cyflogres a phersonél mewn cysylltiad â chyflogi staff sy'n cyflawni gwiriadau milfeddygol wrth y safle arolygu ar y ffin.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 3 para. 2 mewn grym ar 14.2.2007, gweler rhl. 1(2)