- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
16.—(1) Caiff y Comisiynydd wneud adroddiad i'r Cynulliad mewn cysylltiad ag arfer unrhyw un o'i swyddogaethau cyffredinol yn unol ag adran 2 o'r Ddeddf.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), rhaid i'r Comisiynydd lunio adroddiad blynyddol i'r Cynulliad, y mae'n rhaid iddo gynnwys —
(a)crynodeb o'r camau a gymerwyd wrth arfer swyddogaethau'r Comisiynydd o dan y Ddeddf yn ystod y flwyddyn ariannol flaenorol, gan gynnwys crynodeb o'r adroddiadau a gyhoeddwyd yn ystod y cyfnod hwnnw ac o unrhyw sylwadau y gall y Comisiynydd fod wedi'u gwneud yn ystod y cyfnod hwnnw yn unol ag adran 2(3) o'r Ddeddf, gan gynnwys unrhyw sylwadau a wnaed ynghylch ystod neu effeithiolrwydd pwerau'r Comisiynydd;
(b)crynodeb o'r cwynion a wnaed yn unol â gweithdrefn gwyno'r Comisiynydd a sefydlwyd yn unol ag adran 20 o'r Ddeddf a'r camau a gymrwyd gan y Comisiynydd wrth ymateb i'r cwynion hŷn;
(c)adolygiad o faterion sy'n berthnasol i fuddiannau pobl hyn yng Nghymru; a
(ch)crynodeb o raglen waith y Comisiynydd ar gyfer y flwyddyn ariannol y llunnir yr adroddiad ar ei chyfer ac o gynigion y Comisiynydd ar gyfer rhaglen waith ar gyfer y flwyddyn ariannol sy'n dilyn.
(3) Rhaid i'r adroddiad cyntaf y cyfeirir ato ym mharagraff (2) gael ei lunio yn 2008.
(4) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), rhaid i'r Comisiynydd, erbyn 1 Hydref bob blwyddyn fan bellaf, anfon copi o'r adroddiadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1), (2) a (3) —
(a)at y Prif Weinidog; a
(b)i lyfrgelloedd y Cynulliad a dau Dŷ'r Senedd.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: