Cyflawni swyddogaethau penodedig gan awdurdodau6

1

Yn ddarostyngedig i baragraff (2), rhaid i swyddogaeth o unrhyw un o'r disgrifiadau a bennir yng ngholofn (1) o Atodlen 4 (a allai, oni bai am y paragraff hwn, fod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth i'r awdurdod) beidio â bod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth o dan yr amgylchiadau a bennir yng ngholofn (2) mewn perthynas â'r swyddogaeth honno.

2

Ni fydd paragraff (1) yn gymwys mewn perthynas â chyflawni swyddogaeth o'r disgrifiad a bennir ym mharagraff 3 o golofn (1) o Atodlen 4 —

a

pan fo'n rhesymol barnu bod yr amgylchiadau, sy'n peri iddi fod yn angenrheidiol gwneud y dyfarniad, yn amgylchiadau brys; a

b

pan fo'r unigolyn neu'r corff y mae'r dyfarniad i'w wneud ganddo wedi cael oddi wrth gadeirydd pwyllgor craffu perthnasol neu, os nad oes person o'r fath neu os yw cadeirydd pob pwyllgor craffu perthnasol yn methu gweithredu neu'n anfodlon gweithredu, oddi wrth gadeirydd yr awdurdod neu, yn absenoldeb y person hwnnw, oddi wrth yr is-gadeirydd, ddatganiad mewn ysgrifen bod angen i'r penderfyniad gael ei wneud ar frys.

3

Ym mharagraff (2) ystyr “pwyllgor craffu perthnasol” yw pwyllgor craffu i'r awdurdod y mae ei gylch gwaith yn cynnwys y pŵer i adolygu neu i graffu ar benderfyniadau neu gamau eraill a gymerwyd wrth gyflawni'r swyddogaeth y mae'r dyfarniad yn ymwneud â hi.

4

Cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl i ddyfarniad gael ei wneud, rhaid i'r unigolyn neu'r corff y gwneir y dyfarniad ganddo yn unol â pharagraff (2), gyflwyno i'r awdurdod adroddiad y mae'n rhaid iddo gynnwys manylion —

a

y dyfarniad;

b

yr argyfwng neu'r amgylchiadau eraill y cafodd ei wneud odano neu odanynt; ac

c

y rhesymau dros y dyfarniad.

5

Nid yw adran 101 o Ddeddf 1972 yn gymwys mewn perthynas â chyflawni swyddogaeth y cyfeiriwyd ati ym mharagraff (1) nad yw, yn rhinwedd y paragraff hwnnw, yn gyfrifoldeb i weithrediaeth i'r awdurdod.