xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Rheoliad 4
1. Unrhyw swyddogaeth a dan Ddeddf leol ac eithrio swyddogaeth a bennwyd neu y cyfeiriwyd ati yn Atodlen 1.
2. Dyfarnu ar apêl yn erbyn unrhyw benderfyniad a wnaed gan yr awdurdod neu ar ei ran.
3. Swyddogaethau mewn perthynas ag adolygu penderfyniadau a wnaed mewn cysylltiad â hawliadau budd-dal tai neu fudd-dal treth gyngor ac am apelau yn erbyn penderfyniadau o'r fath o dan adran 68 o Ddeddf Cymorth Plant, Pensiynau a Nawdd Cymdeithasol ac Atodlen 7 iddi.(1).
4. Gwneud trefniadau ynglŷn ag apelau yn erbyn gwahardd disgyblion mewn ysgolion a gynhelir o dan adran 52 o Ddeddf Addysg 2002.
5. Gwneud trefniadau yn unol ag adran 94(1), (1A) a (4) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (apelau derbyn) ac Atodlen 24 iddi.
6. Gwneud trefniadau yn unol ag adran 95(2) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (plant y mae adran 87 yn gymwys iddynt: apelau gan gyrff llywodraethu).
7. Gwneud trefniadau o dan adran 20 (cwestiynau ynghylch materion yr heddlu mewn cyfarfodydd cyngor) o Ddeddf yr Heddlu 1996 i ganiatáu i gwestiynau gael eu gofyn ynghylch cyflawni swyddogaethau awdurdod heddlu.
8. Gwneud penodiadau o dan baragraffau 2 i 4 (penodi aelodau gan gynghorau perthnasol) o Atodlen 2 (awdurdodau heddlu a sefydlir o dan adran 3) i Ddeddf yr Heddlu 1996.
9. Cynnal adolygiadau'r gwerth gorau yn unol â darpariaethau unrhyw orchymyn sy'n effeithiol am y tro o dan adran 5 (adolygiadau gwerth gorau) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1999(2).
10. Unrhyw swyddogaeth sy'n ymwneud â thir halogedig(3).
11. Cyflawni unrhyw swyddogaeth sy'n ymwneud â rheoli llygredd neu reoli ansawdd aer(4).
12. Cyflwyno hysbysiad atal mewn perthynas â niwsans statudol(5).
13. Pasio cynnig y dylai Atodlen 2 i Ddeddf Sŵn a Niwsans Statudol 1993 fod yn gymwys yn ardal yr awdurdod(6).
14. Arolygu ardal yr awdurdod i ddod o hyd i unrhyw niwsans statudol(7).
15. Ymchwilio i unrhyw gŵyn ynghylch bodolaeth niwsans statudol.
16. Sicrhau gwybodaeth o dan adran 330 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 ynghylch buddiannau mewn tir(8).
17. Sicrhau manylion personau sydd â buddiant mewn tir o dan adran 16 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976(9).
18. Gwneud cytundebau ar gyfer gwneud gwaith priffyrdd(10).
19. Penodi unrhyw unigolyn —
(a)i unrhyw swydd heblaw swydd y mae'n cael ei gyflogi ynddi gan yr awdurdod;
(b)i unrhyw gorff ac eithrio —
(i)yr awdurdod;
(ii)cyd-bwyllgor o ddau neu fwy o awdurdodau; neu
(c)i unrhyw bwyllgor neu is-bwyllgor i gorff o'r fath,
a dirymu unrhyw benodiad o'r fath.
20. Y pŵer i wneud taliadau neu i ddarparu budd-daliadau eraill mewn achosion camweinyddu etc.(11).
21. Cyflawni unrhyw swyddogaeth gan awdurdod sy'n gweithredu fel awdurdod harbwr.
22. Swyddogaethau ynglyn â chyfrifo sylfaen treth gyngor yn unol ag unrhyw un o'r canlynol —
(a)dyfarnu ar swm ar gyfer eitem T yn adran 33(1) a 44(1) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992;
(b)dyfarnu ar swm ar gyfer eitem TP yn adrannau 34(3), 45(3), 48(3) a 48(4) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992;
(c)dyfarnu ar swm y mae ei angen i ddyfarnu ar swm ar gyfer yr eitem a grybwyllwyd ym mharagraff (a) neu (b) uchod.
23. Swyddogaethau trwyddedu yn unol â Rhan 2 o Ddeddf Trwyddedu 2003 ac eithrio adran 6.
24. Swyddogaethau ynglŷn â gamblo yn unol ag unrhyw un o'r canlynol —
(a)pendefyniad i beidio â dyroddi trwyddedau casino yn unol ag adran 166 o Ddeddf Gamblo 2005 (p.19);
(b)rhagnodi ffioedd yn unol ag adran 212 o Ddeddf Gamblo 2005;
(c)gwneud gorchymyn yn datgymhwyso adran 279 neu adran 282 (1) o Ddeddf Gamblo 2005 yn unol ag adran 284 o Ddeddf Gamblo 2005;
(ch)personau awdurdodedig yn unol ag adran 304 o Ddeddf Gamblo 2005;
(d)erlyniadau gan awdurdod trwyddedu yn unol ag adran 346 o Ddeddf Gamblo 2005;
(dd)polisi trwyddedu tair-blynedd yn unol ag adran 349 o Ddeddf Gamblo 2005.
Rhan IIA o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 (p.43) ac is-ddeddfwriaeth o dan y rhan honno.
Gweler Deddf Atal a Rheoli Llygredd 1999 (p.24), Rhan IV o Ddeddf yr Amgylchedd 1995 (p.25), Rhan I o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 (p.43) a Deddf Aer Glân 1993 (p.11).
Adran 8 o Ddeddf Sŵn a Niwsans Statudol 1993 (p.40).
Adran 80(1) o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990.
Adran 79 o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990.
Adran 278 o Ddeddf Priffyrdd 1980 (p.66), a amnewidiwyd gan Ddeddf Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd 1991 (p.22), adran 23.
Adran 92 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000.