Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Drwy'r Gorchymyn hwn mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cymeradwyo, yn ddarostyngedig i'r eithriad a grybwyllir isod, god ymarfer ynglŷn â rheoli tai ymddeol preifat gan landlordiaid ac eraill sy'n cyflawni'r swyddogaeth reoli. Y cod a gymeradwyir yw'r Cod Ymarfer ar gyfer Tai Ymddeol Preifat (Cymru) (ISBN 095266 9137) ac mae i'w gyhoeddi gan Chain and Pyle, Unit 3, King James Court, King James Street, Llundain SE1 0DH. Ni chafodd Atodiadau 4 i 6 o'r Cod eu cymeradwyo am nad ydynt yn berthnasol at ddibenion adran 87 o Ddeddf 1993.

Drwy'r Gorchymyn hwn mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru hefyd yn tynnu'n ôl y gymeradwyaeth ar gyfer Cod Ymarfer Cymdeithas Rheolwyr Tai Ymddeol ar gyfer Rheoli Tai Cysgodol Lesddaliadol (ISBN 0-9526691-0-2) a roddwyd gan Orchymyn Cymeradwyo Codau Ymarfer ar gyfer Rheoli (Eiddo Preswyl) (Rhif 2) 1995 ac ar gyfer addasiadau Cod Ymarfer Cymdeithas Rheolwyr Tai Ymddeol ar gyfer Rheoli Tai Cysgodol Lesddaliadol (ISBN 0-9526691-1-0) a roddwyd gan Orchymyn Cymeradwyo Codau Ymarfer ar gyfer Rheoli (Eiddo Preswyl) 1998. Caiff y Gorchmynion hynny hefyd eu dirymu.

Mae adran 87(7) o Ddeddf Diwygio Lesddaliad, Tai a Datblygu Trefol 1993 (“Deddf 1993”) yn darparu nad yw methiant i gydymffurfio ag unrhyw ddarpariaeth o god ymarfer a gymeradwywyd ynddo'i hun yn gosod person yn agored i unrhyw reithdrefn, ond mewn unrhyw reithdrefn mae'r cod ymarfer yn dderbyniol fel tystiolaeth a chaiff unrhyw ddarpariaeth sy'n ymddangos ei bod yn berthnasol i unrhyw gwestiwn sy'n codi yn y rheithdrefn ei chymryd i ystyriaeth.

Mae'r cymeradwyo a'r tynnu'n ôl y darperir ar eu cyfer yn y Gorchymyn hwn yn gymwys i waith rheoli tai ymddeol preifat yng Nghymru ac yn ddarostyngedig i'r ddarpariaeth drosiannol yn erthygl 4. Mae'r Cod a gafodd ei gymeradwyo ym 1995 a'i addasu ym 1998 yn parhau'n effeithiol at ddibenion rheithdrefnau ynglŷn â gweithredoedd neu anweithredodd yr honnir eu bod wedi digwydd cyn i'r Gorchymyn hwn ddod i rym.

Mae Arfarniad Rheoliadol wedi cael ei baratoi o ran Gorchymyn hwn. Gellir cael copi oddi wrth Gynulliad Cenedlaethol Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ (Ffôn 0845 010 3300).