(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys pan fo Cynulliad Cenedlaethol Cymru (“y Cynulliad Cenedlaethol”) wedi'i awdurdodi i adennill oddi wrth awdurdodau lleol gostau y mae wedi'u tynnu mewn cysylltiad:

a

ag ymchwiliadau a gynhelir o dan Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (gan gynnwys ymchwiliadau gorchymyn prynu gorfodol, y cymhwysir darpariaethau perthnasol Deddf 1972 iddynt gan Ddeddf Caffael Tir 1981) a Deddf Draenio Tir 1991 (“Ymchwiliadau Lleol”);

b

ag ymchwiliadau cymwys fel y'u diffinnir gan adran 303A(1) o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (ymchwiliadau a gynhelir mewn perthynas â Chynlluniau Datblygu Unedol ac ystyriaeth o wrthwynebiadau i gynlluniau parth cynllunio syml) (“Ymchwiliadau Cymwys”); ac

c

â gweithdrefnau cymwys fel y'u diffinnir gan adran 303A(1A) o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (archwiliadau annibynnol a gynhelir mewn perthynas â Chynlluniau Datblygu Lleol ac ystyriaeth o wrthwynebiadau i gynlluniau parth cynllunio syml)(“Gweithdrefnau Cymwys”).

Mae'r Rheoliadau hyn yn rhagnodi'r symiau dyddiol safonol y gellir eu hadennill gan y Cynulliad Cenedlaethol am bob dydd—

a

y bydd Ymchwiliad Lleol yn eistedd neu y bydd y person a benodwyd i gynnal yr Ymchwiliad Lleol wrthi mewn ffordd arall yn gwneud gwaith sy'n gysylltiedig â'r Ymchwiliad Lleol; neu

b

y bydd y person a benodwyd i gynnal Ymchwiliad Cymwys neu, yn ôl y digwydd, Gweithdrefn Gymwys wrthi'n cynnal yr Ymchwiliad Cymwys neu'r Weithdrefn Gymwys, neu wrthi mewn ffordd arall yn gwneud gwaith sy'n gysylltiedig â'r Ymchwiliad Cymwys neu â'r Weithdrefn Gymwys.

Y swm dyddiol safonol mewn perthynas ag Ymchwiliadau Lleol sy'n cychwyn ar 1 Ebrill 2007 neu ar ôl hynny yw £722. Mae'r swm hwn yn disodli'r swm o £645, a ragnodwyd gan Reoliadau Ffioedd Ymchwiliadau (Swm Dyddiol Safonol) (Cymru) 2002 (O.S. 2002/2780) (Cy.264) (“Rheoliadau 2002”) ar gyfer ymchwiliadau'n cychwyn ar 1 Ebrill 2003 neu ar ôl hynny.

Y swm dyddiol safonol mewn perthynas ag Ymchwiliadau Cymwys yn cychwyn ar 1 Ebrill 2007 neu ar ôl hynny yw £679. Yr un yw'r swm hwn â'r swm a ragnodwyd yn flaenorol gan Reoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Costau Ymchwiliadau etc.) (Swm Dyddiol Safonol) (Cymru) 2005 (O.S. 2005/371) (Cy.35) (“Rheoliadau 2005”) ar gyfer Ymchwiliadau Cymwys yn cychwyn ar 1 Ebrill 2005 neu ar ôl hynny.

Y swm dyddiol safonol mewn perthynas â Gweithdrefnau Cymwys yw £640. Dyma'r tro cyntaf i swm dyddiol safonol gael ei ragnodi ar gyfer Gweithdrefnau Cymwys.

Mae'r Rheoliadau hyn yn dirymu'r darpariaethau mewn perthynas â symiau dyddiol safonol yn Rheoliadau 2002 a Rheoliadau 2005, ond maent yn cynnwys arbedion mewn cysylltiad ag Ymchwiliadau Lleol ac Ymchwiliadau Cymwys a gychwynnodd cyn 1 Ebrill 2007 ac sy'n parhau.