Search Legislation

Rheoliadau Ymchwiliadau Lleol, Ymchwiliadau Cymwys a Gweithdrefnau Cymwys (Swm Dyddiol Safonol) (Cymru) 2007

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2007 Rhif 728 (Cy.64)

TRIBIWNLYSOEDD AC YMCHWILIADAU, CYMRU

CYNLLUNIO GWLAD A THREF, CYMRU

Rheoliadau Ymchwiliadau Lleol, Ymchwiliadau Cymwys a Gweithdrefnau Cymwys (Swm Dyddiol Safonol) (Cymru) 2007

Wedi'u gwneud

6 Mawrth 2007

Yn dod i rym

1 Ebrill 2007

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru (“y Cynulliad Cenedlaethol”) yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd—

(a)

gan adran 42(4) o Ddeddf Tai a Chynllunio 1986(1) i unrhyw Weinidog a awdurdodwyd, o dan neu yn rhinwedd y darpariaethau statudol hynny a bennir yn adran 42(1)(2) o'r Ddeddf honno neu y cymhwysir yr adran honno iddynt(3), i adennill costau a dynnir gan y Gweinidog mewn perthynas ag ymchwiliad, sef pwerau sy'n arferadwy bellach gan y Cynulliad Cenedlaethol(4) o ran Cymru;

(b)

i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 303A(5) o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (“Deddf 1990”)(5) fel y'i mewnosodir yn Neddf 1990 gan adran 1(1) o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref (Costau Ymchwiliadau etc.) 1995(6), sef pwerau sy'n arferadwy bellach, o ran ardaloedd awdurdodau cynllunio lleol penodol o fewn Cymru(7), gan y Cynulliad Cenedlaethol(8); ac

(c)

i'r Cynulliad Cenedlaethol, fel yr awdurdod priodol, gan adran 303A(5) o Ddeddf 1990 fel y'i diwygiwyd mewn perthynas ag ardaloedd awdurdodau cynllunio lleol penodol o fewn Cymru(9) gan adran 118(1) o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (“Deddf 2004”) a pharagraff 11 o Atodlen 6 iddi(10).

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ymchwiliadau Lleol, Ymchwiliadau Cymwys a Gweithdrefnau Cymwys (Swm Dyddiol Safonol) (Cymru) 2007 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2007.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli

2.  Yn y Rheoliadau hyn—

  • ystyr “gweithdrefn gymwys” yw gweithdrefn gymwys o fewn yr ystyr sydd i'r term “qualifying procedure” yn adran 303A(1A) o Ddeddf 1990(11), ac a gynhelir mewn perthynas â'r ardal awdurdod cynllunio lleol y mae'r diddymiadau a geir yn Atodlen 1 i Orchymyn Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (Cychwyn Rhif 6, Darpariaethau Trosiannol ac Arbedion) 2005 yn effeithiol mewn cysylltiad ag ef yn unol ag erthygl 2(g) o'r Gorchymyn hwnnw;

  • ystyr “ymchwiliad cymwys” yw ymchwiliad cymwys o fewn yr ystyr sydd i'r term “qualifying inquiry” yn adran 303A(1) o Ddeddf 1990 (i'r graddau y mae'r adran honno'n parhau i fod ag effaith heb y diwygiad a fewnosodir gan adran 118 o Ddeddf 2004, a pharagraff 11(2) o Atodlen 6 iddi), ac a gynhelir mewn perthynas ag ardal awdurdod cynllunio lleol y mae'r darpariaethau a geir yn Atodlen 2 i Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (Cychwyn Rhif 6, Darpariaethau Trosiannol ac Arbedion) 2005(12) yn parhau i fod yn effeithiol mewn cysylltiad ag ef yn unol ag erthygl 3(3) o'r Gorchymyn hwnnw;

  • ystyr “ymchwiliad lleol” (“local inquiry”) yw ymchwiliad y mae gan y Cynulliad Cenedlaethol hawl i adennill ei gostau mewn perthynas ag ef a hynny o dan neu yn rhinwedd adran 250(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972(13) (darpariaeth gyffredinol o ran costau ymchwiliadau) neu o dan adran 69(5) o Ddeddf Draenio Tir 1991 (costau ymchwiliad o dan y Ddeddf honno).

Y personau, yr ymchwiliadau a'r gweithdrefnau y mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys iddynt

3.  Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran—

(a)ymchwiliad lleol;

(b)unrhyw berson sydd wedi'i benodi gan y Cynulliad Cenedlaethol i gynnal ymchwiliad cymwys, neu wedi'i benodi fel unrhyw un o'r personau a benodwyd felly ac sydd i gynnal ymchwiliad cymwys; ac

(c)unrhyw berson sydd wedi'i benodi gan y Cynulliad Cenedlaethol i gynnal gweithdrefn gymwys.

Y swm dyddiol safonol ar gyfer ymchwiliadau lleol

4.  Y swm dyddiol safonol a ragnodir yn unol ag adran 42(4) o Ddeddf Tai a Chynllunio 1986(14) ar gyfer ymchwiliad lleol yn cychwyn ar 1 Ebrill 2007 neu ar ôl hynny yw £722.

Y swm dyddiol safonol ar gyfer ymchwiliadau cymwys

5.  Y swm dyddiol safonol a ragnodir yn unol ag adran 303A(5) o Ddeddf 1990 ar gyfer ymchwiliad cymwys yn cychwyn ar 1 Ebrill 2007 neu ar ôl hynny yw £679.

Y swm dyddiol safonol ar gyfer gweithdrefnau cymwys

6.  Y swm dyddiol safonol a ragnodir yn unol ag adran 303A(5) o Ddeddf 1990 ar gyfer gweithdrefn gymwys yn cychwyn ar 1 Ebrill 2007 neu ar ôl hynny yw £640.

Dirymiadau ac arbedion

7.—(1Dirymir Rheoliadau Ffioedd Ymchwiliadau (Swm Dyddiol Safonol) (Cymru) 2002(15) ac eithrio mewn perthynas ag ymchwiliad yr oedd y Rheoliadau hynny 'n gymwys iddo ac a gychwynnodd cyn 1 Ebrill 2007 ac sy'n parhau wedi'r dyddiad hwnnw.

(2Dirymir Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Costau Ymchwiliadau etc.) (Swm Dyddiol Safonol) (Cymru) 2005(16) ac eithrio mewn perthynas ag ymchwiliad cymwys yr oedd y Rheoliadau hynny yn gymwys iddo ac a gychwynnodd cyn 1 Ebrill 2007 ac sy'n parhau wedi'r dyddiad hwnnw.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(17)

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

6 Mawrth 2007

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys pan fo Cynulliad Cenedlaethol Cymru (“y Cynulliad Cenedlaethol”) wedi'i awdurdodi i adennill oddi wrth awdurdodau lleol gostau y mae wedi'u tynnu mewn cysylltiad:

(a)ag ymchwiliadau a gynhelir o dan Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (gan gynnwys ymchwiliadau gorchymyn prynu gorfodol, y cymhwysir darpariaethau perthnasol Deddf 1972 iddynt gan Ddeddf Caffael Tir 1981) a Deddf Draenio Tir 1991 (“Ymchwiliadau Lleol”);

(b)ag ymchwiliadau cymwys fel y'u diffinnir gan adran 303A(1) o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (ymchwiliadau a gynhelir mewn perthynas â Chynlluniau Datblygu Unedol ac ystyriaeth o wrthwynebiadau i gynlluniau parth cynllunio syml) (“Ymchwiliadau Cymwys”); ac

(c)â gweithdrefnau cymwys fel y'u diffinnir gan adran 303A(1A) o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (archwiliadau annibynnol a gynhelir mewn perthynas â Chynlluniau Datblygu Lleol ac ystyriaeth o wrthwynebiadau i gynlluniau parth cynllunio syml)(“Gweithdrefnau Cymwys”).

Mae'r Rheoliadau hyn yn rhagnodi'r symiau dyddiol safonol y gellir eu hadennill gan y Cynulliad Cenedlaethol am bob dydd—

(a)y bydd Ymchwiliad Lleol yn eistedd neu y bydd y person a benodwyd i gynnal yr Ymchwiliad Lleol wrthi mewn ffordd arall yn gwneud gwaith sy'n gysylltiedig â'r Ymchwiliad Lleol; neu

(b)y bydd y person a benodwyd i gynnal Ymchwiliad Cymwys neu, yn ôl y digwydd, Gweithdrefn Gymwys wrthi'n cynnal yr Ymchwiliad Cymwys neu'r Weithdrefn Gymwys, neu wrthi mewn ffordd arall yn gwneud gwaith sy'n gysylltiedig â'r Ymchwiliad Cymwys neu â'r Weithdrefn Gymwys.

Y swm dyddiol safonol mewn perthynas ag Ymchwiliadau Lleol sy'n cychwyn ar 1 Ebrill 2007 neu ar ôl hynny yw £722. Mae'r swm hwn yn disodli'r swm o £645, a ragnodwyd gan Reoliadau Ffioedd Ymchwiliadau (Swm Dyddiol Safonol) (Cymru) 2002 (O.S. 2002/2780) (Cy.264) (“Rheoliadau 2002”) ar gyfer ymchwiliadau'n cychwyn ar 1 Ebrill 2003 neu ar ôl hynny.

Y swm dyddiol safonol mewn perthynas ag Ymchwiliadau Cymwys yn cychwyn ar 1 Ebrill 2007 neu ar ôl hynny yw £679. Yr un yw'r swm hwn â'r swm a ragnodwyd yn flaenorol gan Reoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Costau Ymchwiliadau etc.) (Swm Dyddiol Safonol) (Cymru) 2005 (O.S. 2005/371) (Cy.35) (“Rheoliadau 2005”) ar gyfer Ymchwiliadau Cymwys yn cychwyn ar 1 Ebrill 2005 neu ar ôl hynny.

Y swm dyddiol safonol mewn perthynas â Gweithdrefnau Cymwys yw £640. Dyma'r tro cyntaf i swm dyddiol safonol gael ei ragnodi ar gyfer Gweithdrefnau Cymwys.

Mae'r Rheoliadau hyn yn dirymu'r darpariaethau mewn perthynas â symiau dyddiol safonol yn Rheoliadau 2002 a Rheoliadau 2005, ond maent yn cynnwys arbedion mewn cysylltiad ag Ymchwiliadau Lleol ac Ymchwiliadau Cymwys a gychwynnodd cyn 1 Ebrill 2007 ac sy'n parhau.

(2)

Diddymwyd adran 42(1)(b) gan Ran I o Atodlen 3 i Ddeddf Cydgyfnerthu Dŵr (Darpariaethau Canlyniadol) 1991 (p.60) a diddymwyd adran 42(1)(d) gan Ran II o Atodlen 12 i Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (p.42). Diddymwyd adran 129(1)(d) o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984 (p.27) (costau ymchwiliad o dan y Ddeddf honno), y mae adran 42(1)(c) o Ddeddf Tai a Chynllunio 1986 yn cyfeirio ati, gan Atodlen 3 i Ddeddf Ymchwiliadau 2005 (p.12).

(3)

Mae adran 69(7) o Ddeddf Draenio Tir 1991 (p.59) yn darparu bod adran 42 o Ddeddf Tai a Chynllunio 1986 yn gymwys pan fydd y naill neu'r llall o “the Ministers” wedi'i awdurdodi'n briodol i adennill costau a dynnwyd gan y Gweinidog hwnnw fel y mae'n gymwys pan fydd Gweinidog wedi'i awdurdodi felly yn rhinwedd unrhyw ddeddfiad a bennir yn adran 42(1) o Ddeddf 1986. Mae adran 69(5) o Ddeddf 1991 yn awdurdodi'r naill neu'r llall o “the Ministers”, h.y. yr Ysgrifennydd Gwladol neu'r Gweinidog Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd (gweler adran 72(1) o Ddeddf 1991 a Gorchymyn y Weinyddiaeth Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd (Diddymu) 2002 (O.S. 2002/794) am diffiniad o “the Ministers”) i adennill costau a dynnir gan y Gweinidog hwnnw mewn perthynas ag ymchwiliad a gynhelir gan y Gweinidog. Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol, i'r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), ac Atodlen 1 iddo.

(4)

Mae Erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 2000 (O.S. 2000/253 (Cy.5)) ac Atodlen 1 iddo, yn darparu i bwerau Gweinidog o dan adran 42 o Ddeddf Tai a Chynllunio 1986 fod yn arferadwy, o ran Cymru, gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn gydredol ag unrhyw un o Weinidogion y Goron y maent yn arferadwy ganddo.

(7)

Gweler y troednodyn i'r diffiniad o “ymchwiliad cymwys” yn rheoliad 2.

(8)

Trosglwyddwyd swyddogaethau perthnasol yr Ysgrifennydd Gwladol, i'r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac maent bellach yn arferadwy gan y Cynulliad Cenedlaethol yn unol â Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 2000, erthygl 4; gweler y cofnod am Ddeddf 1990 yn Atodlen 3 i Orchymyn 2000.

(9)

Gweler y troednodyn i'r diffiniad o “ ymchwiliad cymwys” yn rheoliad 2.

(10)

2004 p.5.

(11)

Mewnosodwyd adran 303(1A) yn Neddf 1990 gan adran 118 o Ddeddf 2004 a pharagraff 11 o Atodlen 6 iddi.

(12)

O.S.2005/2847 (C.118). Drwy erthygl 2(e) o'r Gorchymyn, daeth y diwygiad i adran 303A o'r Ddeddf a wnaed gan Ddeddf 2004 i rym o ran Cymru ar 12 Hydref 2005. Er hynny, drwy erthygl 3(3) o'r Gorchymyn hwnnw, mae darpariaethau adran 303A fel y'i mewnosodir gan Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref (Costau Ymchwiliadau etc.) 1995 yn parhau i fod mewn grym mewn perthynas â'r ardaloedd awdurdodau cynllunio lleol y mae'r darpariaethau yn y Ddeddf 1990 sy'n ymwneud â pharatoi, newid a rhoi cynlluniau datblygu unedol newydd yn lle hen rai yn parhau i fod yn gymwys. Effaith gyffredinol y darpariaethau niferus y cyfeirir atynt uchod yw, pan fydd awdurdod cynllunio lleol yng Nghymru yn ddarostyngedig i gyfundrefn y cynllun datblygu lleol cynhelir archwiliad annibynnol a bydd gan y Cynulliad Cenedlaethol bŵer i ragnodi swm dyddiol safonol mewn perthynas ag ef. Pan fydd awdurdod cynllunio lleol yn parhau i fod yn ddarostyngedig i gyfundrefn y cynllun datblygu unedol, fodd bynnag, cynhelir ymchwiliad lleol, pan fydd yn briodol, a bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn parhau i fod â phŵer i ragnodi swm dyddiol safonol mewn perthynas ag ef.

(13)

1972 p.70.

(14)

1986 p.63.

(17)

1998 p.38.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources