2007 Rhif 739 (Cy.67)

DIOGELU'R AMGYLCHEDD, CYMRU

Rheoliadau Tramgwyddau Amgylcheddol (Cosbau Penodedig) (Darpariaethau Amrywiol) (Cymru) 2007

Wedi'u gwneud

Yn dod i rym

Cynulliad Cenedlaethol Cymru (“y Cynulliad Cenedlaethol”), o ran Cymru, yw'r person priodol fel y'i diffinnir—

a

yn adran 11(1) o Ddeddf Gwaredu Sbwriel (Amwynder) 19781, at ddibenion arfer y pwerau a roddir gan adran 2A(11) o'r Ddeddf honno;

b

yn adran 9(1) o Ddeddf Rheoli Llygredd (Diwygio) 19892, at ddibenion arfer y pwerau a roddir gan adran 5B(12) o'r Ddeddf honno;

c

yn adran 29(1A)(b) o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 19903, at ddibenion arfer y pwerau a roddir gan adrannau 34A(12) a 47ZB(4) a (5) o'r Ddeddf honno;

ch

yn adran 98(1A)(b) o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 19904, at ddibenion arfer y pwerau a roddir gan adrannau 88(11) a 97A(1), (2) a (4) o'r Ddeddf honno;

d

yn adran 11(2A)(b) o Ddeddf Sŵ n 19965, at ddibenion arfer y pwerau a roddir gan adran 8A(4) a (5) o'r Ddeddf honno;

dd

yn adran 47(1) o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 20036, at ddibenion arfer y pwerau a roddir gan adrannau 43A(4) a (5) a 47(4) o'r Ddeddf honno;

e

yn adran 9(2) o Ddeddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 20057, at ddibenion arfer y pwerau a roddir gan adran 6(11) o'r Ddeddf honno;

f

yn adran 66(b) o Ddeddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005, at ddibenion arfer y pwerau a roddir gan adrannnau 59(12) a 60(4) a (5) o'r Ddeddf honno;

ff

yn adran 81(1) o Ddeddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005, at ddibenion arfer y pwerau a roddir gan adrannau 74(4) a (5) o'r Ddeddf honno.

g

yn adran 98(1)(b) o Ddeddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005, at ddibenion arfer y pwerau a roddir gan adran 97(1)(a) a (2)(c) o'r Ddeddf honno.

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 67(1) o Deddf Cymdogaethau a'r Amgylchedd Glân 2005 a'r pwerau a enwir yn is-baragraffau (a) i (g) o'r paragraff uchod yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn: