Y defnydd o dderbyniadau cosb benodedig gan gynghorau cymuned5
1
Ni chaiff cyngor cymuned ddefnyddio unrhyw symiau y mae'n ei dderbyn yn unol â hysbysiadau o dan—
a
adran 88 (hysbysiadau cosb benodedig am adael ysbwriel) o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 199015
b
adran 43(1) (hysbysiadau cosb am lunio graffiti a gosod posteri yn anghyfreithlon)16 o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2003;
c
adran 59 (hysbysiadau cosb benodedig am droseddau o dan orchmynion rheoli cŵn) o Ddeddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005.
ond yn unig at ddibenion y swyddogaethau a bennir ym mharagraff (2)
2
Y swyddogaethau a bennir at ddibenion y rheoliad hwn yw'r swyddogaethau o dan—
a
adran 88 o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990;
b
adran 43(1) o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2003;
c
Pennod 1 o Ran 6 o Ddeddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005.
3
Rhaid i gynghorau cymuned roi i Gynulliad Cenedlaethol Cynru y fath wybodaeth ynghylch y symiau y maent yn eu derbyn mewn cysylltiad â'r darpariaethau a bennir ym mharagraff (1) ag a ddichon fod yn ofynnol gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.