Tramgwyddau, cosbau ac arbedion3
1
Yn ddarostyngedig i baragraffau (3) a (5) a'r trefniadau trosiannol a geir yn Erthygl 11, mae person yn euog o dramgwydd os yw'n mynd yn groes i unrhyw un o'r darpariaethau Cymunedol a bennir ym mharagraff (2) neu os yw'n methu â chydymffurfio â hi.
2
Y darpariaethau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) yw —
a
Erthygl 1(1), (gwaharddiad rhag rhoi deunyddiau bwydydd sy'n cynnwys halogion uwchlaw'r terfynau'r rhagnodedig ar y farchnad), fel y'i darllenir gydag Erthygl 4 yn achos cnau daear, cnau, ffrwythau sych ac indrawn;
b
Erthygl 3 (gwaharddiadau rhag defnyddio, cymysgu a dadwenwyno).
3
Nid yw paragraff (1) yn gymwys i roi letus awdurdodedig nac ysbigoglys awdurdodedig ar y farchnad.
4
Mae unrhyw berson a gollfernir o dramgwydd o dan baragraff (1) yn agored ar gollfarn ddiannod i ddirwy nad yw'n uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol.
5
Er gwaethaf dirymu Rheoliadau Halogion Bwyd (Diwygio) (Cymru) (Rhif 2) 20064, mae'r trefniadau trosiannol y cyfeirir atynt yn rheoliad 3(1) o'r Rheoliadau hynny yn gymwys i dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn fel petaent yn gymwys o dan y Rheoliadau hynny.