xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Offerynnau Statudol Cymru
ANIFEILIAID, CYMRU
IECHYD ANIFEILIAID
Wedi'u gwneud
13 Mawrth 2007
Yn dod i rym
6 Ebrill 2007
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi'i ddynodi at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(1) o ran polisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd(2) ac o ran mesurau yn y maes milfeddygol ar gyfer diogelu iechyd y cyhoedd(3).
Mae'r Trysorlys yn cydsynio i'r Rheoliadau hyn yn unol ag adran 56(1) o Ddeddf Cyllid 1973(4).
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn o dan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 ac adran 56(1) o Ddeddf Cyllid 1973.
1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Adnabod Gwartheg (Cymru) 2007. Maent yn gymwys o ran Cymru a deuant i rym ar 6 Ebrill 2007.
2.—(1) Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “arolygydd” (“inspector”) yw person a benodwyd yn arolygydd at ddibenion y Rheoliadau hyn gan y Cynulliad Cenedlaethol neu gan awdurdod lleol;
ystyr “awdurdod lleol” (“local authority”) o ran ardal yw'r cyngor sir neu'r cyngor bwrdeistref sirol ar gyfer yr ardal honno;
ystyr “ceidwad” (“keeper”) yw unrhyw berson sy'n gyfrifol am anifeiliaid, boed hynny'n barhaol neu dros dro, gan gynnwys pan gludir hwy neu pan fyddant mewn marchnad;
ystyr “Cynulliad Cenedlaethol” (“National Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ;
ystyr “daliad” (“holding”) yw unrhyw sefydliad, adeiladwaith neu, yn achos fferm awyr agored, unrhyw le y mae gwartheg yn cael eu dal, eu cadw neu eu trafod;
“deddfwriaeth tagio gwartheg flaenorol” (“previous cattle tagging legislation”) yw—
ystyr “dilys” (“valid”), o ran pasbort gwartheg, yw pasbort gwartheg a gafodd ei gwblhau'n gywir a'i lofnodi yn y lle priodol yn gywir gan bob ceidwad i'r anifail a bod Rhif adnabod a disgrifiad o'r anifail yn y pasbort yn cyfateb i dagiau clust yr anifail;
ystyr “gwartheg” (“cattle”) yw anifeiliaid buchol, gan gynnwys bison a byfflo;
ystyr “pasbort gwartheg” (“cattle passport”) yw—
pasbort gwartheg a ddyroddwyd yng Nghymru, Lloegr neu'r Alban o dan Erthygl 6(1) o Reoliad (EC) Rhif 1760/2000;
pasbort gwartheg a ddyroddwyd o dan Orchymyn Pasbortau Gwartheg 1996(10); ac
dogfen symud a ddyroddwyd o dan Reoliadau Gwartheg (Adnabod Anifeiliaid Hyn) (Cymru) 2000(11) neu'r mesur cyfatebol yn yr Alban, Lloegr neu Ogledd Iwerddon;
ystyr “Rheoliad (EC) Rhif 1760/2000” (“Regulation (EC) No. 1760/2000”) yw Rheoliad (EC) Rhif 1760/2000 Senedd Ewrop a'r Cyngor (sy'n sefydlu system ar gyfer adnabod a chofrestru anifeiliaid buchol ac sy'n ymwneud â labelu cynhyrchion cig eidion ac yn diddymu Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 820/97(12));
(2) Rhaid i unrhyw gymeradwyaeth, awdurdodiad, trwydded, hysbysiad neu gofrestriad a ddyroddir o dan—
(a)y Rheoliadau hyn,
(b)Rheoliad (EC) Rhif 1760/2000;
(c)Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 911/2004 (sy'n gweithredu Rheoliad (EC) Rhif 1760/2000 Senedd Ewrop a'r Cyngor o ran tagiau clust, pasbortau a chofrestrau daliadau(13)); neu
(ch)Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 644/2005 (sy'n awdurdodi system adnabod arbennig ar gyfer anifeiliaid buchol a gedwir at ddibenion diwylliannol a hanesyddol mewn mangreoedd a gymeradwywyd fel a ddarperir yn Rheoliad (EC) Rhif 1760/2000 Senedd Ewrop a'r Cyngor(14)),
fod yn ysgrifenedig, caniateir i unrhyw un ohonynt gael ei wneud yn ddarostyngedig i amodau, cael ei ddiwygio, cael ei atal neu ei ddirymu drwy hysbysiad ysgrifenedig ar unrhyw bryd.
3.—(1) Rhaid i feddiannydd daliad sy'n dechrau cadw gwartheg ar y daliad hwnnw, ac unrhyw berson sy'n cymryd y feddiannaeth drosodd o ddaliad lle y cedwir gwartheg, hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol o fewn un mis—
(a)o'i enw a'i gyfeiriad; a
(b)cyfeiriad y daliad.
(2) Pan fydd yn derbyn hysbysiad o dan baragraff (1) rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol ddyroddi nod buches ar gyfer pob daliad.
(3) Rhaid i'r meddiannydd hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol o unrhyw newid i'r wybodaeth ym mharagraff (1) o fewn un mis.
4. Mae Atodlen 1 (tagiau clust) yn effeithiol.
5. Mae Atodlen 2 (cofrestru gwartheg) yn effeithiol.
6. Mae Atodlen 3 (pasbortau gwartheg) yn effeithiol.
7. Mae Atodlen 4 (hysbysiad o symud neu farwolaeth) yn effeithiol.
8. Mae Atodlen 5 (cofnodion) yn effeithiol.
9. Caiff y Cynulliad Cenedlaethol godi tâl rhesymol am ddarparu gwybodaeth a gaiff ei storio yn y gronfa ddata sy'n ofynnol gan Erthygl 5 o Reoliad (EC) Rhif 1760/2000 ac a ddarperir yn unol ag ail baragraff Erthygl 3 o'r Rheoliad hwnnw.
10.—(1) Caiff arolygydd, wrth iddo ddangos dogfen a ddilyswyd yn briodol sy'n dangos ei awdurdod, os gofynnir amdani, ar bob adeg resymol fynd ar dir neu i fangre er mwyn canfod a aethpwyd yn groes i'r canlynol —
(a)y Rheoliadau hyn;
(b)Teitl I o Reoliad (EC) Rhif 1760/2000;
(c)Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 494/98 (sy'n gosod rheolau manwl ar gyfer gweithredu Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 820/97 o ran cymhwyso y lefel isat o sancsiynau yn fframwaith y system ar gyfer adnabod a chofrestru anifeiliaid buchol(15));
(ch)Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 509/1999 (ynghylch estyn y cyfnod hiraf a osodwyd ar gyfer rhoi tagiau clust ar fison(16))
(d)Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 911/2004; ac
(dd)Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 644/2005,
ac yn y rheoliad hwn mae “mangre” yn cynnwys unrhyw le, gosodiad, cerbyd, llong, llestr, cwch, bad, hofranlong neu awyren.
(2) Dim ond os caiff y pwer ei ddefnyddio mewn cysylltiad â'r darpariaethau ym mharagraff (1) y mae pwer i fynd i fangre yn cynnwys y pwer i fynd i fangre ddomestig.
(3) Caiff arolygydd gyflawni gwiriadau ac archwiliadau sy'n angenrheidiol ar gyfer gorfodi'r darpariaethau ym mharagraff (1), a chaiff yn benodol—
(a)casglu, corlannu ac arolygu unrhyw wartheg, a chaiff ofyn i'r ceidwad drefnu casglu, corlannu a dal gafael ar wartheg;
(b)cymryd samplau;
(c)archwilio unrhyw gofnodion ar ba ffurf bynnag y bônt a chymryd copïau o'r cofnodion hynny;
(ch)symud a chadw unrhyw gofnodion neu ddogfennau (gan gynnwys pasbortau) sy'n ymwneud â'r Rheoliadau hyn;
(d)cael mynediad at unrhyw gyfrifiadur ac unrhyw gyfarpar neu ddeunyddiau cysylltiedig sy'n cael neu sydd wedi cael eu defnyddio mewn cysylltiad â chofnodion, a'u harchwilio a gwirio eu gweithrediad a gall ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson sydd â gofal dros y cyfrifiadur, y cyfarpar neu'r deunydd, neu sydd fel arall yn ymwneud â'u gweithredu, roi i'r arolygydd unrhyw gymorth y bydd yn rhesymol i'r arolygydd ofyn amdano;
(dd)os cedwir cofnodion drwy gyfrwng cyfrifiadur, caiff ei gwneud yn ofynnol bod y cofnodion yn cael eu cynhyrchu ar ffurf sy'n caniatáu mynd â hwy oddi yno;
(e)ei gwneud yn ofynnol i unrhyw dagiau clust nas defnyddiwyd, a chofnod o'u Rhif au gael eu dangos; ac
(f)mynd â chynrychiolydd o'r Comisiwn Ewropeaidd neu unrhyw berson arall y mae o'r farn bod ei angen gydag ef.
11. Yn unol ag ail baragraff Erthygl 22(1) o Reoliad (EC) Rhif 1760/2000, caiff swyddog o'r Cynulliad Cenedlaethol gyflwyno i geidwad anifeiliaid ar ddaliad hysbysiad yn cyfyngu symudiadau gwartheg i'r daliad ac ohono os yw wedi'i fodloni bod angen hyn er mwyn gorfodi'r Rheoliad hwnnw, y Rheoliadau hyn, Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 494/98, Rhif 509/1999, Rhif 911/2004 a Rhif 644/2005, a bydd unrhyw berson sy'n methu â chydymffurfio â'r hysbysiad hwnnw'n euog o dramgwydd.
12. Y Cynulliad Cenedlaethol yw'r awdurdod milfeddygol a'r awdurdod cymwys at ddibenion Erthygl 1(2) o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 494/98.
13.—(1) Mae person sydd—
(a)yn rhwystro unrhyw berson sy'n gweithredu i roi'r Rheoliadau hyn ar waith;
(b)heb achos rhesymol, yn methu â rhoi i unrhyw berson sydd yn gweithredu i roi'r Rheoliadau hyn ar waith, unrhyw gymorth neu wybodaeth y mae'r person hwnnw yn rhesymol yn gofyn amdano neu amdani er mwyn i'r person hwnnw gyflawni ei swyddogaethau;
(c)yn rhoi i unrhyw berson sy'n gweithredu i roi'r Rheoliadau hyn ar waith unrhyw wybodaeth y mae'r person hwnnw sy'n rhoi'r wybodaeth yn gwybod ei bod yn anwir neu'n gamarweiniol; neu
(ch)yn methu â dangos pasbort, dogfen neu gofnod, pan ofynnir iddo wneud hynny, i unrhyw berson sy'n gweithredu o dan y Rheoliadau hyn;
yn euog o dramgwydd.
(2) Mae unrhyw berson sy'n rhoi gwybodaeth anwir yn unrhyw hysbysiad a wneir o dan y Rheoliadau hyn yn euog o dramgwydd.
14.—(1) Os yw corff corfforaethol yn euog o dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn, ac os profir bod y tramgwydd wedi'i wneud drwy gydsyniad neu ymoddefiad, neu wedi'i briodoli i unrhyw esgeulustod ar ran—
(a)unrhyw gyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog tebyg arall o'r corff corfforaethol; neu
(b)unrhyw berson a oedd yn honni ei fod yn gweithredu yn rhinwedd unrhyw swydd o'r fath,
bydd y person hwnnw, yn ogystal â'r corff corfforaethol, yn euog o dramgwydd a bydd yn agored i gael ei erlyn a'i gosbi yn unol â hynny.
(2) Yn y rheoliad hwn ystyr “cyfarwyddwr” mewn perthynas â chorff corfforaethol y mae ei fusnes yn cael ei reoli gan ei aelodau, yw aelod o'r corff corfforaethol.
15. Mae person sy'n euog o dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn yn atebol—
(a)o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy nad yw'n fwy na'r uchafswm statudol neu garchariad am gyfnod nad yw'n hirach na thri mis, neu'r ddau;
(b)ar gollfarn ar dditiad, i ddirwy neu garchariad am gyfnod nad yw'n fwy na dwy flynedd, neu'r ddau.
16.—(1) Caiff y Rheoliadau hyn eu gorfodi gan yr awdurdod lleol.
(2) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol gyfarwyddo y bydd mewn unrhyw achos penodol neu ddosbarth o achosion yn eu gorfodi hwy ei hunan.
17. Mae'r canlynol wedi'u dirymu i'r graddau y maent yn gymwys o ran Cymru —
(a)Gorchymyn Anifeiliaid Buchol (Cofnodion, Adnabod a Symud) 1995(17);
(b)Rheoliadau Adnabod Gwartheg 1998(18);
(c)Rheoliadau Cronfa Ddata Gwartheg 1998(19);
(ch)Rheoliadau Adnabod Gwartheg (Diwygio) 1998(20);
(d)Rheoliadau Adnabod Gwartheg (Diwygio) 1999(21);
(dd)Rheoliadau Gwartheg (Adnabod Anifeiliaid Hyn) (Cymru) 2000(22);
(e)Rheoliadau Cronfa Ddata Gwartheg (Diwygio) (Cymru) 2002(23);
(f)Rheoliadau Gwartheg (Adnabod Anifeiliaid Hyn) (Cymru) (Diwygio) 2002(24);
(ff)Rheoliadau Adnabod Gwartheg (Diwygio) 2006(25); a
(g)Rheoliadau Cronfa Ddata Gwartheg (Diwygio) 2006(26).
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(27)
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
13 Mawrth 2007
Rheoliad 4
1.—(1) O ran y Cynulliad Cenedlaethol—
(a)ef yw'r awdurdod cymwys at ddibenion cymeradwyo tagiau clust at ddibenion Erthygl 4(1) o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1760/2000; a
(b)pan gaiff gais gan weithgynhyrchydd tagiau clust a gymeradwywyd, rhaid iddo ddyroddi codau adnabod unigryw at ddibenion yr Erthygl honno, gan gydymffurfio â darpariaethau paragraff 1 a 2 o Erthygl 1 o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 911/2004 (ac eithrio y caiff wrthod dyrannu Rhif au o dan yr amgylchiadau a nodir yn erthygl 1(5) o'r Rheoliad hwnnw).
(2) Y person sy'n gyfrifol am beri bod modd adnabod gwartheg drwy osod tag clust ym mhob clust yn unol ag Erthygl 4(1) o Reoliad (EC) Rhif 1760/2000 yw'r ceidwad.
(3) Yn unol ag Erthygl 4(2) o Reoliad (EC) Rhif 1760/2000—
(a)yn achos buches odro, rhaid i'r ceidwad osod un tag clust ar y llo o fewn 36 o oriau ar ôl ei eni a'r ail dag o fewn 20 o ddiwrnodau ar ôl ei eni;
(b)yn achos unrhyw fuches arall (heblaw bison) rhaid i'r ceidwad osod y ddau dag o fewn 20 o ddiwrnodau ar ôl geni'r llo;
(c)yn achos bison, yn unol ag Erthyglau 1 a 2 o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 509/1999, rhaid i'r ceidwad osod y ddau dag pan gaiff y lloi eu gwahanu oddi wrth eu mamau neu o fewn naw mis ar ôl eu geni, p'un bynnag yw'r cyntaf.
(4) Bydd unrhyw berson sy'n methu â chydymffurfio â'r gofyniad yn Erthygl 4(1) o Reoliad (EC) Rhif 1760/2000 i osod tag clust o fewn y cyfnod a bennir ym mharagraff (3) uchod yn euog o dramgwydd.
2.—(1) Rhaid bod tagiau clust a osodir o dan Erthygl 4(1) o Reoliad (EC) Rhif 1760/2000 wedi'u cymeradwyo gan y Cynulliad Cenedlaethol.
(2) Yn unol â pharagraffau 1 a 2 o Erthygl 1 o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 911/2004, rhaid bod gan y ddau dag clust y logo a bennir ym mharagraff 11 (yn achos tag clust deuddarn, rhaid bod y logo ar y ddau ddarn), y llythrennau “UK” a'r Rhif unigryw a ddyrennir gan y Cynulliad Cenedlaethol.
(3) Yn unol ag Erthygl 1(3) o'r Rheoliad hwnnw gall tag clust hefyd gael cod bar.
(4) Caniateir i'r pwer yn erthygl 4 o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 911/2004 (pwer i ddewis deunydd neu fodel gwahanol ar gyfer yr ail dag clust) cael ei arfer gan y Cynulliad Cenedlaethol.
3.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), bydd unrhyw berson sy'n symud anifail o ddaliad gan dorri trydydd paragraff Erthygl 4(2) o Reoliad (EC) Rhif 1760/2000 yn euog o dramgwydd.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), mae unrhyw berson sy'n symud o ddaliad wartheg y dylid bod wedi'u tagio neu'u marcio o dan ddeddfwriaeth tagio gwartheg flaenorol na chafodd eu tagio neu'u marcio'n gywir yn euog o dramgwydd.
(3) Os bydd anifail mewn marchnad heb gael ei dagio neu'i farcio'n gywir, caiff arolygydd ddyroddi trwydded i'r ceidwad yn caniatáu i'r anifail gael ei symud o'r farchnad i ddaliad a bennir yn y drwydded.
(4) Bydd unrhyw berson a fydd yn symud anifail gan dorri'r drwydded neu dorri unrhyw amod o'r drwydded yn euog o dramgwydd.
4.—(1) Y Cynulliad Cenedlaethol yw'r awdurdod cymwys at ddibenion Erthygl 4(5) o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1760/2000, a bydd unrhyw berson sydd naill ai'n tynnu neu'n ailosod tag clust (neu dag clust a roed ynghlwm o dan ddeddfwriaeth tagio gwartheg flaenorol) heb ganiatâd yn groes i'r Erthygl honno neu Erthygl 4(4) o Reoliad (EC) Rhif 1760/2000 yn euog o dramgwydd.
(2) Os bydd ceidwad anifail a anwyd ym Mhrydain Fawr ar neu ar ôl 1 Ionawr 1998 yn darganfod bod tag clust yn annarllenadwy neu wedi cael ei golli, rhaid iddo, o fewn 28 o ddiwrnodau ar ôl y darganfyddiad, ei ailosod gan dag clust arall sy'n dwyn yr un Rhif (rhaid iddo fod yn brif dag os oedd y gwreiddiol yn brif dag, neu'n brif dag neu'n ail dag oes oedd y tag gwreiddiol yn ail dag) ac mae methu â gwneud hynny'n dramgwydd.
(3) Os bydd ceidwad anifail a anwyd ym Mhrydain Fawr cyn 1 Ionawr 1998 yn darganfod bod tag clust yn annarllenadwy neu wedi cael ei golli, rhaid iddo, o fewn 28 o ddiwrnodau ar ôl y darganfyddiad, naill ai ei aildagio gan dag clust sengl arall, neu ei aildagio â thagiau dwbl yn unol â'r Rheoliadau hyn, ac mae unrhyw berson sy'n methu â gwneud hynny'n euog o dramgwydd.
(4) Os bydd anifail a anwyd y tu allan i Brydain Fawr yn colli tag clust rhaid i'r ceidwad, o fewn 28 o ddiwrnodau o ddarganfod bod y tag clust tag wedi cael ei golli, ei aildagio gan ddefnyddio tag o'r newydd—
(a)sy'n dwyn logo'r goron a bennir ym mharagraff 11; a
(b)sy'n dwyn y cod adnabod gwreiddiol,
a bydd unrhyw berson sy'n methu â gwneud hynny'n euog o dramgwydd.
(5) Mae'n dramgwydd i osod tag clust ar anifail os cafodd ei ddefnyddio cyn hynny i ddarnodi anifail gwahanol.
(6) Mae'n dramgwydd i osod tag clust ar anifail os cafodd Rhif y tag clust ei ddefnyddio eisoes ar anifail gwahanol.
(7) Nid yw paragraffau (2) i (4) yn gymwys i feddiannydd lladd-dy neu weithredydd marchnad.
5. Os caiff anifail a anwyd cyn 1 Ionawr 1998 ei aildagio gan rif tag clust gwahanol, rhaid i'r ceidwad, o fewn 14 o ddiwrnodau ar ôl gosod y tag clust a beth bynnag cyn bod yr anifail yn cael ei symud oddi ar y daliad, hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol o'r Rhif tag clust newydd a dychwelyd yr hen basbort gwartheg gyda chais bod pasbort gwartheg newydd yn cael ei ddyroddi gyda'r Rhif tag clust newydd a bydd methu â gwneud hynny'n dramgwydd.
6.—(1) Caiff person sy'n cadw gwartheg at ddibenion diwylliannol neu hanesyddol wneud cais i'r Cynulliad Cenedlaethol i gofrestru ei ddaliad at y diben hwn yn unol ag Erthygl 1 o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 644/2005.
(2) Os yw'r Cynulliad Cenedlaethol wedi cymeradwyo daliad ar gyfer y dibenion hyn, mae'r rhanddirymiad sy'n ymwneud â thagio yn erthygl 2 o'r Rheoliad hwnnw yn gymwys, ar yr amod bod y gwartheg yn cael eu darnodi drwy gyfrwng darnodydd electronig sydd yn y bolws cnoi cil.
7. Os nad yw anifail wedi cael ei dagio yn unol â'r Rheoliadau hyn neu'n unol â deddfwriaeth tagio gwartheg flaenorol, caiff arolygydd osod marc adnabod arno.
8. Mae'n dramgwydd i draddodi anifail ar gyfer masnach o fewn y Gymuned oni chafodd ei dagio ym mhob clust â thag clust a gymeradwywyd gan y Cynulliad Cenedlaethol yn unol ag Erthygl 4(1) o Reoliad (EC) Rhif 1760/2000.
9.—(1) Mae unrhyw berson sy'n methu â gosod tagiau clust ar anifail a fewnforiwyd o drydedd wlad o fewn 20 o ddiwrnodau ar ôl i'r anifail gael ei ryddhau o safle arolygu ar y ffin lle y'i mewnforiwyd, a beth bynnag cyn i'r anifail adael y daliad cyrchu, fel a bennir yn Erthygl 4(3) o Reoliad (EC) Rhif 1760/2000, yn euog o dramgwydd.
(2) Mae'n amddiffyniad i unrhyw berson a gaiff ei gyhuddo o dan y rheoliad hwn i brofi—
(a)pan fewnforiwyd yr anifail, bod y daliad cyrchu yn lladd-dy, a
(b)bod yr anifail wedi'i gigydda o fewn 20 o ddiwrnodau ar ôl ymadael â'r safle arolygu ar y ffin.
10.—(1) Mae'n dramgwydd i addasu, difodi neu ddifwyno tag clust a osodwyd o dan Reoliad (EC) Rhif 1760/2000 neu o dan ddeddfwriaeth tagio gwartheg flaenorol, neu farc dros dro a osodwyd gan arolygydd yn unol â pharagraff 7 (marciau dros dro).
(2) Rhaid i unrhyw berson y mae ganddo yn ei feddiant dagiau clust a ddyroddwyd ar gyfer dibenion y Rheoliadau hyn eu cadw mewn lle diogel, ac mae methu â gwneud hynny'n dramgwydd.
11. Dyma logo'r goron ar gyfer tagiau clust—
Rheoliad 5
1. Mae'n dramgwydd i fethu â chofrestru anifail yn unol â'r Atodlen hon.
2.—(1) Rhaid i gais i gofrestru anifail gael ei wneud i'r Cynulliad Cenedlaethol.
(2) Cofrestrir drwy wneud cais am basbort.
(3) Rhaid gwneud y cais—
(a)drwy ddefnyddio gwefan ryngweithiol y Cynulliad Cenedlaethol;
(b)drwy ddefnyddio meddalwedd a gymeradwywyd gan y Cynulliad Cenedlaethol; neu
(c)yn ysgrifenedig, drwy ddefnyddio'r ffurflen gais a ddarperir gan y Cynulliad Cenedlaethol,
a rhaid darparu'r holl wybodaeth sy'n ofynnol.
3.—(1) Pan enir llo rhaid i'w geidwad ei gofrestru o fewn 7 niwrnod ar ôl y dyddiad y caiff ei dagio (neu, yn achos buches odro, o'r dyddiad pan osodir ail dag clust ar yr anifail).
(2) Yn achos bison, y terfyn amser ar gyfer cofrestru yw 7 niwrnod ar ôl genedigaeth y llo, p'un a yw'r llo wedi cael ei dagio ai peidio, a rhaid i'r cais ddatgan y Rhif tag y bwriedir ei ddefnyddio ar gyfer yr anifail.
4.—(1) Os dygir gwartheg i mewn o aelod-wladwriaeth arall, Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw neu Ogledd Iwerddon, rhaid i'r ceidwad, o fewn 15 o ddiwrnodau ar ôl i anifail gyrraedd y daliad cyrchu—
(a)ei gofrestru gyda'r Cynulliad Cenedlaethol, a
(b)rhoi ei basbort gwartheg (os oes un) i'r Cynulliad Cenedlaethol.
(2) Os dygir gwartheg i mewn o le a bennir ym mharagraff (1) a bod y daliad cyrchu yn farchnad neu'n dir sioe, nid yw darpariaethau paragraff (1) yn gymwys nes bod yr anifail yn cyrraedd daliad nad yw'n farchnad neu'n dir sioe.
(3) Nid yw'r gofyniad i gofrestru'n gymwys o ran gwartheg mewn lladd-dy.
5.—(1) Yn achos gwartheg a fewnforir o'r tu allan i'r Undeb Ewropeaidd rhaid i'r ceidwad gofrestru anifail o fewn 15 o ddiwrnodau ar ôl y dyddiad y mae'n rhaid tagio'r anifail yn unol â pharagraff cyntaf Erthygl 4(3) o Reoliad (EC) Rhif 1760/2000.
(2) Nid yw'r gofyniad i gofrestru'n gymwys o ran gwartheg mewn lladd-dy.
Rheoliad 6
1.—(1) Os bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn derbyn cais wedi ei gwblhau'n llawn ac yn gywir i gofrestru anifail o fewn y terfynau amser penodedig, rhaid iddo ddyroddi pasbort gwartheg ar gyfer yr anifail hwnnw.
(2) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol ddyroddi un os yw'n derbyn cais y tu allan i'r amser penodedig, ond dim ond os yw wedi'i fodloni am fanylion adnabod yr anifail a bod yr holl wybodaeth sydd yn y cais yn gywir.
(3) Erys y pasbort yn eiddo i'r Cynulliad Cenedlaethol bob amser.
2.—(1) Rhaid i geidwad gadw'r pasbort gwartheg ar gyfer pob anifail (oni chafodd ei gyflwyno i'r Cynulliad Cenedlaethol) a'i ddangos i arolygydd pan gaiff ei hawlio.
(2) Mae methu â chydymffurfio â'r paragraff hwn yn dramgwydd.
3.—(1) Os bydd pasbort gwartheg yn cael ei golli, ei ddwyn neu ei ddifa, rhaid i geidwad yr anifail y mae'n ymwneud ag ef hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol yn ysgrifenedig o fewn 14 o ddiwrnodau ar ôl dod yn ymwybodol o'r ffaith a gwneud cais am basport o'r newydd yn ei le.
(2) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol roi pasbort gwartheg o'r newydd dim ond os yw wedi'i fodloni ei fod yn gallu olrhain symudiadau'r anifail ers ei eni neu ers ei fewnforio.
(3) Os nad yw Cynulliad Cenedlaethol yn darparu pasbort o'r newydd yn lle'r hen un, rhaid peidio â symud yr anifail y mae'n ymwneud ag ef oddi ar y daliad ac eithrio (o dan awdurdod trwydded a roddir gan y Cynulliad Cenedlaethol) i ganolfan gasglu a awdurdodwyd felly o dan Reoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid (Cymru) 2006(28).
(4) Os bydd person sydd wedi cael pasbort gwartheg o'r newydd yn lle'r hen un wedyn yn dod o hyd i'r pasbort gwartheg gwreiddiol, rhaid iddo hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol o fewn 7 niwrnod gan amgáu'r pasbort gwartheg gwreiddiol gyda'r hysbysiad.
(5) Bydd unrhyw berson sy'n methu â chydymffurfio ag unrhyw un o ddarpariaethau'r paragraff hwn yn euog o dramgwydd.
4.—(1) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol osod ffi am roi pasbort gwartheg o'r newydd yn lle hen un.
(2) Y ffi yw'r swm y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn ystyried sy'n rhesymol i'w alluogi i dalu ei gostau wrth roi pasbort o'r newydd yn lle'r hen un.
(3) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol roi cyhoeddusrwydd i'r ffi ar ei wefan.
(4) Mae'r ffi'n daladwy gyda'r cais a nis ad-delir hi os bydd y ceisydd yn tynnu ei gais yn ôl neu os na fydd y Cynulliad Cenedlaethol yn gallu cael digon o wybodaeth i ddyroddi pasbort yn lle'r hen un.
5.—(1) Caiff swyddog o'r Cynulliad Cenedlaethol neu o awdurdod lleol gyflwyno hysbysiad i geidwad yn ei gwneud yn ofynnol iddo ildio pasbort —
(a)os nad oes anifail ar y daliad ar gyfer y pasbort hwnnw;
(b)os nad yw'r pasbort yn disgrifio'n gywir yr anifail yr honnir ei fod yn gysylltiedig ag ef, neu os dyroddwyd y pasbort ar gyfer anifail gwahanol;
(c)os yw Rhif y tag clust yn y pasbort yn wahanol i rif y tag clust ar yr anifail;
(ch)os nad yr un yw manylion y symudiadau ar y pasbort a manylion y symudiadau yn y gronfa ddata a gedwir gan y Cynulliad Cenedlaethol yn unol â'r Rheoliadau hyn neu yn y cofnodion a gedwir gan y ceidwad yn unol â'r Rheoliadau hyn;
a bydd unrhyw berson sy'n methu â chydymffurfio â hysbysiad o'r fath yn euog o dramgwydd.
(2) Ni chaiff y Cynulliad Cenedlaethol ddychwelyd pasbort hyd nes y mae wedi'i fodloni bod y pasbort yn disgrifio'n gywir anifail ym meddiant y ceidwad a bod cofnodion o'r symudiadau yn y pasbort yn gywir.
6. Os collir anifail â phasbort gwartheg neu os caiff ei ddwyn, rhaid i'r ceidwad anfon y pasbort gwartheg at y Cynulliad Cenedlaethol o fewn 7 niwrnod ar ôl dod yn ymwybodol o'r ffaith, ynghyd â manylion ysgrifenedig o'r hyn a ddigwyddodd, ac mae methu â gwneud hynny'n dramgwydd.
7. Mae'n dramgwydd i addasu neu ddifwyno unrhyw wybodaeth mewn pasbort gwartheg.
8. Mae'n dramgwydd i ddefnyddio pasbort gwartheg mewn cysylltiad ag anifail heblaw'r anifail y rhoddwyd ef ar ei gyfer.
9.—(1) Pan symudir gwartheg oddi ar ddaliad, rhaid i'r ceidwad sicrhau bod y pasbort gwartheg wedi'i farcio â dyddiad y symud a rhaid iddo'i lofnodi yn y lle priodol.
(2) Rhaid iddo roi'r pasbort gwartheg wedi'i gwblhau'n briodol i'r cludwr cyn i'r gwartheg gael eu symud oddi ar y daliad.
(3) Mae methu â chydymffurfio â'r paragraff hwn yn dramgwydd.
10.—(1) Rhaid i unrhyw un sy'n cludo gwartheg sicrhau bod pasbort gwartheg dilys gyda phob anifail drwy gydol y daith.
(2) Mae methu â chydymffurfio â'r paragraff hwn yn dramgwydd.
(3) Ond, os nad y cludwr yw perchennog yr anifeiliaid, mae'n amddiffyniad iddo i brofi nad oedd unrhyw reswm ganddo i gredu nad oedd pasbort gwartheg dilys gydag anifail.
11.—(1) Pan symudir gwartheg i ddaliad, rhaid i'r cludwr roi pob pasbort gwartheg ar gyfer pob anifail i'r ceidwad newydd (neu, os yw'r symud yn digwydd drwy farchnad, rhaid iddo ei roi i weithredydd y farchnad, a rhaid iddo yntau wedyn ei roi i'r ceidwad newydd).
(2) Rhaid i'r ceidwad newydd neu weithredydd y farchnad sicrhau bod y pasbort gwartheg wedi'i farcio â'r canlynol—
(a)dyddiad y symud i'r daliad,
(b)enw a chyfeiriad y ceidwad (neu, yn achos marchnad, gweithredydd y farchnad) a Rhif y daliad, gan ddefnyddio os yw hynny'n ymarferol y cod bar a ddarperir gan y Cynulliad Cenedlaethol,
a rhaid iddo'i lofnodi.
(3) Rhaid iddo wneud hyn o fewn 36 o oriau ar ôl i'r anifail gyrraedd.
(4) Ni chaiff neb symud yr anifail oddi ar y daliad nes bod y pasbort wedi'i gwblhau yn unol â'r paragraff hwn.
(5) Mae methu â chydymffurfio â'r paragraff hwn yn dramgwydd.
12.—(1) Yn achos gwartheg a ddygir i Gymru o'r tu allan i Brydain Fawr, caniateir symud yr anifail o'r fan y daeth i mewn i Gymru i'r daliad lle y mae'n rhaid ei gofrestru yn unol â pharagraff 4 neu 5 o Atodlen 2 gan ddefnyddio'i basbort (os oes un ganddo) neu ei ddogfen symud.
(2) Os oes ganddo basbort, rhaid i'w geidwad ei gwblhau yn unol â'r Atodlen hon, ac mae methu â gwneud hynny'n dramgwydd.
13.—(1) Pan fydd gwartheg yn cael eu hallforio i drydydd gwledydd rhaid i'r ceidwad anfon y pasbortau gwartheg at y Cynulliad Cenedlaethol o fewn saith niwrnod, ac mae methu â gwneud hynny'n dramgwydd.
(2) Pan fydd gwartheg yn cael eu cludo'r tu allan i Brydain Fawr i gyrchfan yn yr Undeb Ewropeaidd, rhaid i'r cludwr sicrhau bod ei basport gyda phob anifail, ac mae methu â gwneud hynny'n dramgwydd.
14.—(1) Mae gweithredydd marchnad neu grynhoad anifeiliaid arall yn cyflawni tramgwydd os derbynnir unrhyw wartheg heb basbort gwartheg dilys (neu, yn achos gwartheg a fewnforir, dogfennau'n caniatáu iddynt gael eu symud).
(2) Yn y paragraff hwn a'r paragraff canlynol ystyr “crynhoad anifeiliaid” yw achlysur pan fydd anifeiliaid yn cael eu casglu at ei gilydd at un neu fwy o'r dibenion canlynol—
(a)gwerthiant, sioe neu arddangosfa;
(b)llwyth ar ei daith ymlaen; neu
(c)archwiliad i gadarnhau bod gan yr anifeiliaid nodweddion brid penodol.
15. Caiff swyddog o'r Cynulliad Cenedlaethol (neu, yn achos anifail mewn marchnad, crynhoad anifeiliaid neu ladd-dy, caiff arolygydd) ddyroddi trwydded ar unrhyw adeg i symud gwartheg heb basbort gwartheg os yw wedi'i fodloni bod angen gwneud hynny ac nad yw'n ymarferol i gael gafael ar un.
Rheoliad 7
1.—(1) Rhaid i geidwad hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol o fewn tri diwrnod o unrhyw symud o wartheg i ddaliad neu oddi arno—
(a)drwy ddefnyddio gwefan ryngweithiol y Cynulliad Cenedlaethol;
(b)drwy ddefnyddio meddalwedd a gymeradwywyd gan y Cynulliad Cenedlaethol; neu
(c)yn ysgrifenedig, drwy ddefnyddio'r cerdyn symud a ddarperir gan y Cynulliad Cenedlaethol,
a rhaid darparu'r holl wybodaeth sy'n ofynnol.
(2) Mae methu â chydymffurfio â'r paragraff hwn yn dramgwydd.
2.—(1) Pan gigyddir anifail mewn lladd-dy, rhaid i feddiannydd y lladd-dy hysbysu'r farwolaeth drwy lenwi manylion y farwolaeth yn y pasbort a'i roi i'r milfeddyg swyddogol neu i'w gynrychiolydd ar adeg y cigydda.
(2) Os cigyddir anifail y tu allan i ladd-dy ond ei fod yn cael ei anfon i ladd-dy er mwyn ei drin, rhaid i'r ceidwad lenwi'r manylion am y farwolaeth yn y pasbort a'i anfon gyda'r anifail i'r lladd-dy, a rhaid i feddiannydd y lladd-dy hysbysu'r farwolaeth drwy roi'r pasbort i'r milfeddyg swyddogol neu i'w gynrychiolydd pan fydd yr anifail yn cyrraedd y lladd-dy.
(3) Yn unrhyw achos arall, pan fydd anifail yn marw neu'n cael ei ladd, rhaid i'r ceidwad hysbysu'r farwolaeth drwy lenwi manylion am y farwolaeth yn y pasbort a'i anfon at y Cynulliad Cenedlaethol o fewn saith niwrnod.
(4) Os nad oes pasbort gwartheg gan anifail, rhaid i'r ceidwad hysbysu ei farwolaeth i'r Cynulliad Cenedlaethol yn ysgrifenedig o fewn saith niwrnod, gan gynnwys y Rhif tag clust, dyddiad y farwolaeth a'r daliad lle y bu farw.
(5) Yn y paragraff hwn ystyr “milfeddyg swyddogol” yw'r person a benodir i'r swydd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd.
(6) Mae methu â chydymffurfio â'r paragraff hwn yn dramgwydd.
Rheoliad 8
1.—(1) Yn unol ag Erthygl 7(1), yr indent cyntaf ac Erthygl 7(4) o Reoliad (EC) Rhif 1760/2000 (cadw cofrestr cyfredol) mae unrhyw berson sy'n methu â llenwi cofrestr yn unol â'r paragraff hwn, yn euog o dramgwydd.
(2) Rhaid iddo lenwi'r gofrestr ar yr adegau canlynol—
(a)yn achos symud anifail i ddaliad neu oddi arno, o fewn 36 o oriau ar ôl y symud;
(b)yn achos genedigaeth anifail mewn buches odro, o fewn saith niwrnod ar ôl yr enedigaeth;
(c)yn achos genedigaeth anifail nad yw mewn buches odro, o fewn 30 o ddiwrnodau ar ôl yr enedigaeth;
(ch)yn achos marwolaeth anifail, o fewn 7 niwrnod ar ôl y farwolaeth;
(d)yn achos ailosod tag clust o'r newydd pan fo newid yn Rhif y tag clust, o fewn 36 o oriau ar ôl ei ailosod.
(3) Rhaid i'r gofrestr gynnwys yr wybodaeth yn Erthygl 8 o 911/2004 ac, yn ychwanegol at hynny, manylion pwy yw'r fam (yn achos trosglwyddo embryo, manylion pwy yw'r fam fenthyg ac, os yw'n hysbys, y fam enetig)(29) (yn achos anifail a anwyd cyn 1 Ebrill 1995 nad oes ganddo dag clust, rhaid cofnodi'r marc adnabod yn hytrach na'r Rhif tag clust).
2. Bydd unrhyw berson sy'n methu â chydymffurfio ag Erthygl 7(3) (darparu gwybodaeth) yn euog o dramgwydd.
3.—(1) At ddibenion Erthygl 7(4) o Reoliad (EC) Rhif 1760/2000, rhaid cadw'r gofrestr am 10 mlynedd yn achos fferm a 3 blynedd mewn unrhyw achos arall, ac yn y ddau achos o ddiwedd y flwyddyn galendr y gwnaed y cofnod diwethaf ynddi; a rhaid cadw unrhyw gofnod a wnaed o dan Orchymyn Anifeiliaid Buchol (Cofnodion, Adnabod a Symud) 1995 am yr un cyfnod.
(2) Mae methu â chydymffurfio â'r paragraff hwn yn dramgwydd.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn dirymu ac yn ail-lunio i'r graddau y maent yn gymwys o ran Cymru ddarpariaethau —
(a)Gorchymyn Anifeiliaid Buchol (Cofnodion, Adnabod a Symud) 1995(30);
(b)Rheoliadau Adnabod Gwartheg 1998(31);
(c)Rheoliadau Cronfa Ddata Gwartheg 1998(32);
(ch)Rheoliadau Gwartheg (Adnabod Anifeiliaid Hyn) (Cymru) 2000(33).
ynghyd â'r diwygiadau i'r offerynnau hynny.
Mae'r prif newidiadau fel a ganlyn:
Mae'r Rheoliadau yn awr yn caniatáu bod bison yn cael ei dagio hyd at 9 mis ar ôl ei eni (paragraff 1(3) o Atodlen 1).
Maent yn creu tramgwydd o drosglwyddo tagiau clust rhwng anifeiliaid (paragraff 4(5) o Atodlen 1).
Nid ydynt mwyach yn caniatáu'r defnydd o basbortau lloi dros dro.
Maent yn caniatáu cofrestru gwartheg yn electronig (paragraff 2(3) o Atodlen 2).
Maent yn newid y ffi o £50 am basbort o'r newydd yn lle hen un i ffi sy'n adlewyrchu gwir gost dyroddi (paragraff 4 o Atodlen 3).
Maent yn symleiddio'r darpariaethau ar gofnodion (Atodlen 5).
Mae'r Rheoliadau gorfodi—
Rheoliad (EC) Rhif 1760/2000 Senedd Ewrop a'r Cyngor (sy'n sefydlu system ar gyfer adnabod a chofrestru anifeiliaid buchol ac ynghylch labelu cynhyrchion cig eidion a diddymu Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 820/97(34));
Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 494/98 sy'n gosod rheolau manwl ar gyfer gweithredu cynllun Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 820/97 o ran cymhwyso nifer lleiaf posibl o sancsiynau yn fframwaith y system ar gyfer adnabod a chofrestru anifeiliaid buchol(35);
Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 911/2004 (sy'n gweithredu Rheoliad (EC) Rhif 1760/2000 Senedd Ewrop a'r Cyngor o ran tagiau clust, pasbortau a chofrestrau daliadau(36));a
Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 644/2005 (sy'n awdurdodi system adnabod arbennig ar gyfer anifeiliaid buchol a gedwir at ddibenion diwylliannol a hanesyddol mewn mangreoedd a gymeradwywyd fel a ddarperir yn Rheoliad (EC) Rhif 1760/2000 Senedd Ewrop a'r Cyngor(37)).
Maent yn darparu ar gyfer hysbysiad o ddaliad i'r Cynulliad Cenedlaethol os cedwir gwartheg yno (rheoliad 3).
Maent yn darparu ar gyfer tagiau clust (rheoliad 4 ac Atodlen 1), cofrestru gwartheg (rheoliad 5 ac Atodlen 2), pasbortau (rheoliad 6 ac Atodlen 3) a hysbysiad o symud a marwolaeth (rheoliad 7 ac Atodlen 4).
Maent yn darparu i gofnodion gael eu cadw yn y ffurf a bennir yn Atodlen 5.
Maent yn darparu ar gyfer gorfodi'r Rheoliadau (Rhan 4). Gorfodir hwy gan yr awdurdod lleol (rheoliad 16).
Mae torri'r Rheoliadau'n dramgwydd, drwy gosb—
(a)ar gollfarn ddiannod, i ddirwy nad yw'n fwy na'r uchafswm statudol neu garchariad am gyfnod nad yw'n hwy na thri mis, neu'r ddau;
(b)ar gollfarn ar dditiad, i ddirwy neu garchariad am gyfnod nad yw'n fwy na dwy flynedd, neu'r ddau.
Mae Arfarniad Rheoliadol o'r effaith y bydd yr offeryn hwn yn ei chael ar gostau busnes ac ar y sector gwirfoddol ar gael o Gynulliad Cenedlaethol Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.
O. S. 2000/3339 (Cy.217), fel y'u diwygiwyd gan O.S. 2002/273 (Cy.29).
OJ Rhif L204, 11.8.2000, t. 1.
OJ Rhif L 163, 30.4.2004, t. 65.
OJ Rhif L 107, 28.4.2005, t. 18.
OJ Rhif L60, 28.2.1998, t. 78.
OJ Rhif L60, 9.3.1999, t. 53,
Mae'r wybodaeth sy'n ofynnol a fformat addas ar gael yn http//defraweb/animalh/tracing/cattle/passport/records/records-index.htm
OJ Rhif L204, 11.8.2000, t. 1.
OJ Rhif L60, 28.2.1998, t. 78.
OJ Rhif L 163, 30.4.2004, t. 63.
OJ Rhif L 107, 28.4.2005, t. 18.