Search Legislation

Rheoliadau Deddf Galluedd Meddyliol 2005 (Eiriolwyr Annibynnol o ran Galluedd Meddyliol) (Cymru) 2007

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

1.  Mae'r Rheoliadau hyn yn diffinio “corff GIG” a “triniaeth feddygol sylweddol” at ddibenion darpariaethau penodol yn Neddf Galluedd Meddyliol 2005 (“y Ddeddf”) sy'n ymdrin ag Eiriolwyr Annibynnol o ran Galluedd Meddyliol (“EAGMau”). Mae'r Rheoliadau yn cynnwys darpariaeth hefyd ynghylch pwy y gellir ei benodi i weithredu fel EAGM ac ynghylch swyddogaethau EAGM pan fo wedi'i gyfarwyddo i gynrychioli person mewn achos penodol. Mae'r darpariaethau ynglyn â phenodiad a swyddogaethau EAGM yn gymwys pan fo'r EAGM wedi'i gyfarwyddo o dan adrannau 37 i 39 o'r Ddeddf neu o dan reoliadau a wnaed yn rhinwedd adran 41 o'r Ddeddf.

2.  Mae rheoliad 3 yn diffinio “corff GIG”. Defnyddir y term hwn yn adrannau 37 a 38 o'r Ddeddf. Mae'r adrannau hynny yn gosod rhwymedigaeth ar gyrff GIG i gyfarwyddo EAGM o dan amgylchiadau penodol sy'n cynnwys gweithredoedd neu benderfyniadau sy'n ymwneud â thriniaeth feddygol sylweddol neu â llety.

3.  Mae rheoliad 4 yn diffinio “triniaeth feddygol sylweddol”. O dan adran 37 o'r Ddeddf, rhaid i gorff GIG gyfarwyddo EAGM pan fo'r corff GIG yn bwriadu darparu triniaeth o'r fath, neu'n sicrhau bod triniaeth o'r fath yn cael ei darparu.

4.  Mae rheoliad 5 yn darparu—

(a)bod rhaid i Fwrdd Iechyd Lleol (“BILl”) wneud trefniadau i drefnu bod EAGMau ar gael i breswylwyr yn ei ardal (rheoliad 5(1));

(b)y caiff BILl, wrth iddo wneud trefniadau o'r fath, wneud trefniadau gyda darparydd gwasanaethau eirioli (rheoliad 5(2));

(c)na chaiff neb weithredu fel EAGM onid yw wedi'i gymeradwyo gan y BILl neu'n cael ei gyflogi gan ddarparydd gwasanaethau eirioli i weithredu fel EAGM (rheoliad 5(3));

(ch)bod rhaid i BILl, cyn iddo gymeradwyo person i weithredu fel EAGM, fod wedi'i fodloni bod y person hwnnw'n bodloni'r gofynion penodi o ran profiad, hyfforddiant, cymeriad da ac annibyniaeth (rheoliad 5(6));

(d)bod tystysgrifau cofnod troseddol yn ofynnol i benderfynu a yw person yn gweddu i'r gofynion penodi o ran cymeriad da (rheoliad 5(8)).

5.  Mae rheoliad 6 yn nodi'r camau y mae'n rhaid i EAGM eu cymryd pan fo wedi'i gyfarwyddo i weithredu mewn achos penodol. Rhaid i'r EAGM gael gafael ar wybodaeth am y person y mae wedi'i gyfarwyddo i'w gynrychioli (“P”) ac am ddymuniadau, teimladau, credoau neu werthoedd P a chloriannu'r wybodaeth honno. Rhaid i'r EAGM roi adroddiad wedyn i'r sawl a'i gyfarwyddodd.

6.  Mae rheoliad 7 yn darparu y caiff EAGM, sydd wedi'i gyfarwyddo i gynrychioli P ynglyn ag unrhyw fater, herio penderfyniad a wneir ar y mater hwnnw ynghylch P, gan gynnwys unrhyw benderfyniad o ran a yw P yn berson sydd â diffyg galluedd. At ddibenion herio, ymdrinnir â'r EAGM yn yr un modd ag unrhyw berson arall sy'n gofalu am P neu sy'n ymddiddori yn ei les.

7.  Mae rheoliad 8 yn darparu y caiff corff GIG neu awdurdod lleol, pan fo'r naill neu'r llall wedi gwneud trefniadau ynglyn â llety P ac wedyn yn bwriadu adolygu'r trefniadau hynny, gyfarwyddo EAGM. Dim ond pan nad yw P yn meddu ar y galluedd i gymryd rhan yn yr adolygiad, neu pan nad oes neb arall y gellir ymgynghori ag ef ynghylch materion sy'n effeithio ar beth fyddai orau er lles P, y caniateir i EAGM gael ei gyfarwyddo o dan reoliad 8.

8.  Mae rheoliad 9 yn darparu, pan honnir bod P yn cael neu wedi cael ei gam-drin neu ei esgeuluso gan berson arall neu fod P yn cam-drin neu wedi cam-drin person arall ac y mae mesurau amddiffyn i'w cymryd gan gorff GIG neu awdurdod lleol, neu y bwriedir i'r mesurau hynny gael eu cymryd gan y naill neu'r llall, y caiff corff GIG neu awdurdod lleol gyfarwyddo EAGM i gynrychioli P. “Camau Gwarchodol” yw'r mesurau hynny a gymerir yn unol â chanllawiau a ddyroddir o dan adran 7 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol Awdurdodau Lleol 1970. “Mewn Dwylo Diogel” oedd enw'r canllawiau a oedd yn gyfredol adeg gwneud y Rheoliadau hyn.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources