xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
8.—(1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys—
(a)pan fo corff GIG neu awdurdod lleol wedi gwneud trefniadau i ddarparu llety mewn ysbyty neu gartref gofal i berson (P) sydd â diffyg galluedd;
(b)pan fo EAGM wedi cael cyfarwyddyd mewn perthynas â'r trefniadau hynny yn unol ag adrannau 38 neu 39 o'r Ddeddf; ac
(c)pan fo llety wedi cael ei ddarparu ar gyfer P am gyfnod parhaus o 12 wythnos neu fwy.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraffau (4) a (5), caiff unrhyw gorff GIG neu awdurdod lleol—
(a)sy'n bwriadu adolygu trefniadau llety P (p'un ai o dan gynllun gofal neu fel arall);
(b)sydd wedi'i fodloni nad oes yna unrhyw berson, ac eithrio person sy'n ymwneud â darparu gofal neu driniaeth i P mewn swyddogaeth broffesiynol neu am dâl, y byddai'n briodol ymgynghori ag ef wrth benderfynu beth fyddai orau er lles P; ac
(c)sydd wedi'i fodloni y byddai'n fuddiol i P gael ei gynrychioli a'i gefnogi yn y modd hwnnw,
roi cyfarwyddyd i berson weithredu fel EAGM mewn perthynas â P.
(3) Pan fo corff GIG neu awdurdod lleol yn rhoi cyfarwyddyd i EAGM o dan y rheoliad hwn rhaid i'r corff neu'r awdurdod hwnnw, wrth wneud unrhyw benderfyniad sy'n codi o adolygiad o drefniadau ar gyfer llety P, ystyried unrhyw wybodaeth a roddwyd gan yr EAGM neu unrhyw gyflwyniadau a wnaed ganddo.
(4) Ni cheir rhoi cyfarwyddyd i EAGM o dan y rheoliad hwn pan fo EAGM wedi cael cyfarwyddyd yn unol ag adrannau 37, 38 neu 39 o'r Ddeddf neu â rheoliad 9.
(5) Ni cheir rhoi cyfarwyddyd i EAGM o dan y rheoliad hwn yn yr amgylchiadau a ganlyn—
(a)pan fo P wedi enwebu person (ym mha fodd bynnag) fel person i gael ei gynnwys mewn trafodaethau ar faterion sy'n effeithio ar fudd P;
(b)pan fo yna berson wedi cael pwer atwrnai parhaol a luniwyd gan P;
(c)pan fo'r Llys Gwarchod wedi penodi dirprwy dros P; neu
(ch)pan fo yna berson wedi cael pwer atwrnai parhaus (o fewn ystyr Atodlen 4 o'r Ddeddf) a luniwyd gan P.