2007 Rhif 852 (Cy.77)
Rheoliadau Deddf Galluedd Meddyliol 2005 (Eiriolwyr Annibynnol o ran Galluedd Meddyliol) (Cymru) 2007
Wedi'u gwneud
Yn dod i rym
Enwi, cychwyn a rhychwantu1
1
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Galluedd Meddyliol 2005 (Eiriolwyr Annibynnol o ran Galluedd Meddyliol) (Cymru) 2007.
2
Mae'r Rheoliadau hyn yn dod i rym ar 1 Hydref 2007 ac maent yn gymwys i Gymru.
Dehongli2
1
Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “awdurdod lleol” (“local authority”) yw cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru;
ystyr “darparydd gwasanaethau eirioli” (“provider of advocacy services”) yw corff neu berson, gan gynnwys corff gwirfoddol, sy'n cyflogi personau y gellir rhoi cyfarwyddyd iddynt weithredu fel EAGM ac sy'n peri eu bod ar gael;
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Galluedd Meddyliol 2005;
ystyr “EAGM” (“IMCA”) yw eiriolwr annibynnol galluedd meddyliol.
2
Yn y Rheoliadau hyn, mae cyfeiriadau at roi cyfarwyddyd i berson weithredu fel EAGM yn gyfeiriadau at gyfarwyddyd a roddir yn unol ag adrannau 37, 38 a 39 o'r Ddeddf neu'n unol â'r Rheoliadau hyn.
Ystyr Corff GIG3
At ddibenion adrannau 37 a 38 o'r Ddeddf, ac ar gyfer y Rheoliadau hyn ystyr “corff GIG” yw—
a
Bwrdd Iechyd Lleol;
b
Ymddiriedolaeth GIG sydd â'r cyfan neu'r rhan fwyaf o'i hysbytai, ei sefydliadau a'i chyfleusterau wedi'u lleoli yng Nghymru;
c
Awdurdod Iechyd Arbennig sy'n cyflawni ei swyddogaethau yn bennaf neu'n unig mewn perthynas â Chymru.
Diffiniad o driniaeth feddygol sylweddol4
1
Mae'r rheoliad hwn yn diffinio triniaeth feddygol sylweddol at ddibenion adran 37 o'r Ddeddf.
2
Triniaeth feddygol sylweddol yw triniaeth sy'n golygu darparu triniaeth neu ei thynnu'n ôl neu omedd triniaeth yn yr amgylchiadau a ganlyn—
a
mewn achos pan argymhellir un driniaeth yn unig, mai gwahaniaeth main iawn sydd rhwng ei budd i berson (P) a'r gofid a'r peryglon sy'n debygol o ddod i P yn ei sgil,
b
mewn achos pan fo dewis o driniaethau, fod y penderfyniad ar ba un i'w defnyddio yn troi ar wahaniaeth main iawn, neu
c
bod canlyniadau yr hyn a argymhellir yn debygol o fod yn sylweddol i P.
Penodi eiriolwyr annibynnol o ran galluedd meddyliol5
1
Yn ddarostyngedig i gyfarwyddiadau a gaiff eu rhoi gan y Cynulliad, rhaid i Fwrdd Iechyd Lleol wneud y fath drefniadau ag y mae'n eu hystyried sy'n rhesymol er mwyn galluogi EAGMau i fod ar gael i weithredu ar ran personau sy'n preswylio fel arfer yn yr ardal y sefydlwyd y Bwrdd Iechyd Lleol drosti, sef y Bwrdd y mae'r gweithredoedd neu'r penderfyniadau a argymhellir o dan adrannau 37, 38 neu 39 o'r Ddeddf neu o dan y Rheoliadau hyn yn berthnasol iddo.
2
Wrth wneud trefniadau o dan baragraff (1) caiff Bwrdd Iechyd Lleol wneud trefniadau gyda darparydd gwasanaethau eirioli.
3
Ni cheir cyfarwyddo unrhyw berson i weithredu fel EAGM onid yw'r person hwnnw wedi cael ei gymeradwyo gan y Bwrdd Iechyd Lleol neu onid yw yn gyflogedig gan ddarparydd gwasanaethau eirioli i weithredu fel EAGM.
4
Cyn cymeradwyo unrhyw berson o dan baragraff (3), rhaid i Fwrdd Iechyd Lleol fod wedi ei fodloni bod y person yn bodloni'r gofynion penodi ym mharagraff (6).
5
Rhaid i Fwrdd Iechyd Lleol sicrhau ei bod yn ofynnol i unrhyw ddarparydd gwasanaethau eirioli y mae'n gwneud trefniadau ag ef o dan baragraff (2), yn unol â thelerau'r trefniadau hynny, sicrhau bod unrhyw berson a gyflogir gan y darparydd gwasanaethau hwnnw ac sydd ar gael i dderbyn cyfarwyddyd i weithredu fel EAGM yn bodloni'r gofynion penodi ym mharagraff (6).
6
Y gofynion penodi ym mharagraff (4) a (5) yw—
a
bod gan y person brofiad neu hyfforddiant priodol;
b
ei fod yn meddu ar uniondeb a chymeriad da; ac
c
y bydd yn gweithredu'n annibynnol ar unrhyw berson sy'n rhoi cyfarwyddyd iddo i weithredu fel EAGM ac ar unrhyw berson sy'n gyfrifol am unrhyw weithred neu benderfyniad a argymhellir o dan adrannau 37, 38 neu 39 o'r Ddeddf neu o dan y Rheoliadau hyn.
7
Wrth benderfynu a yw person yn bodloni'r gofyniad penodi ym mharagraff (6)(a) rhoddir ystyriaeth i safonau mewn canllawiau y caiff y Cynulliad eu dyroddi.
8
Cyn gwneud penderfyniad at ddibenion paragraff (6)(b) mewn perthynas ag unrhyw berson rhaid bod wedi cael—
a
tystysgrif cofnod troseddol manwl a ddyroddir yn unol ag adran 113B o Ddeddf yr Heddlu 19973; neu
b
os nad yw'r diben y mae'r dystysgrif yn ofynnol o'i herwydd yn un a ragnodir o dan is-adran (2) o'r adran honno, tystysgrif cofnod troseddol a ddyroddir yn unol ag adran 113A o'r Ddeddf honno, ynglyn â'r person hwnnw.
9
Yn y rheoliad hwn mae person yn gyflogedig gan ddarparydd gwasanaethau eirioli os yw'r person hwnnw—
a
yn gyflogedig o dan gontract i wasanaethu; neu
b
wedi ei ymrwymo o dan gontract am wasanaethau.
Swyddogaethau eiriolwr annibynnol galluedd meddyliol6
1
Mae'r rheoliad hwn yn gymwys pan fo corff GIG neu awdurdod lleol yn rhoi cyfarwyddyd i berson weithredu fel EAGM o ran cynrychioli person (P).
2
Rhaid i'r EAGM benderfynu yng nghyflawnder yr amgylchiadau sut orau i gynrychioli P a sut i roi'r gefnogaeth orau iddo a rhaid i'r EAGM weithredu'n unol â'r gofynion ym mharagraff (3).
3
Rhaid i'r EAGM—
a
gwirio bod y cyfarwyddyd a ddyroddwyd wedi cael ei ddyroddi gan gorff GIG neu gan awdurdod lleol;
b
i'r graddau y mae'n ymarferol ac yn briodol gwneud hynny—
i
cyfweld P yn breifat, a
ii
archwilio'r cofnodion sy'n berthnasol i P y mae gan yr EAGM fynediad atynt o dan adran 35(6) o'r Ddeddf;
c
i'r graddau y mae'n ymarferol ac yn briodol gwneud hynny, ymgynghori â—
i
personau sy'n ymwneud â darparu gofal neu driniaeth i P mewn swyddogaeth broffesiynol neu am dâl, a
ii
personau eraill a eill fod mewn sefyllfa i wneud sylwadau ar ddymuniadau, teimladau, credoau neu werthoedd P; ac
ch
cymryd pob cam ymarferol i gael unrhyw wybodaeth arall ynglyn â P, neu ynglyn â'r weithred neu'r penderfyniad a argymhellir mewn perthynas â P, ag sydd ym marn yr EAGM yn angenrheidiol.
4
Rhaid i'r EAGM gloriannu'r holl wybodaeth a gafodd er mwyn—
a
canfod i ba raddau y mae'r gefnogaeth a ddarperir i P yn galluogi P i gymryd rhan mewn gwneud unrhyw benderfyniad ynglyn â'r mater y cafodd yr EAGM gyfarwyddyd yn ei gylch;
b
canfod sut y byddai P yn teimlo, beth fyddai dymuniadau P a pha gredoau a gwerthoedd a fyddai'n debygol o ddylanwadu ar P petai gan P alluedd mewn perthynas â'r weithred neu'r penderfyniad a argymhellir;
c
canfod pa foddau arall o weithredu sydd ar gael mewn perthynas â P;
ch
pan argymhellir triniaeth feddygol i P, canfod a fyddai barn feddygol bellach yn debygol o fod o fudd i P.
5
Rhaid i'r EAGM baratoi adroddiad ar gyfer y corff GIG neu'r awdurdod lleol a roddodd gyfarwyddyd iddo.
6
Caiff yr EAGM gynnwys yn yr adroddiad unrhyw gyflwyniadau y mae'n eu hystyried sy'n briodol mewn perthynas â P ac â'r gweithredoedd neu'r penderfyniadau sy'n cael eu hargymell mewn perthynas â P.
Herio penderfyniadau sy'n effeithio ar bersonau sydd â diffyg galluedd7
1
Mae'r rheoliad hwn yn gymwys pan fo EAGM wedi cael cyfarwyddyd i weithredu a phan fo penderfyniad (gan gynnwys penderfyniad parthed galluedd P) yn cael ei wneud mewn perthynas â pherson (P).
2
Mae gan yr EAGM yr un hawliau i herio'r penderfyniad â phetai yn berson (ac eithrio EAGM)—
a
sydd â'r hawl, yn unol ag adran 4(7)(b) o'r Ddeddf, i gael ei gynnwys mewn trafodaeth mewn perthynas â mater y mae'r EAGM yn awr wedi cael cyfarwyddyd yn ei gylch; neu
b
y byddai fel arall yn briodol i gorff GIG neu awdurdod lleol ymgynghori ag ef.
Adolygu trefniadau parthed llety8
1
Mae'r rheoliad hwn yn gymwys—
a
pan fo corff GIG neu awdurdod lleol wedi gwneud trefniadau i ddarparu llety mewn ysbyty neu gartref gofal i berson (P) sydd â diffyg galluedd;
b
pan fo EAGM wedi cael cyfarwyddyd mewn perthynas â'r trefniadau hynny yn unol ag adrannau 38 neu 39 o'r Ddeddf; ac
c
pan fo llety wedi cael ei ddarparu ar gyfer P am gyfnod parhaus o 12 wythnos neu fwy.
2
Yn ddarostyngedig i baragraffau (4) a (5), caiff unrhyw gorff GIG neu awdurdod lleol—
a
sy'n bwriadu adolygu trefniadau llety P (p'un ai o dan gynllun gofal neu fel arall);
b
sydd wedi'i fodloni nad oes yna unrhyw berson, ac eithrio person sy'n ymwneud â darparu gofal neu driniaeth i P mewn swyddogaeth broffesiynol neu am dâl, y byddai'n briodol ymgynghori ag ef wrth benderfynu beth fyddai orau er lles P; ac
c
sydd wedi'i fodloni y byddai'n fuddiol i P gael ei gynrychioli a'i gefnogi yn y modd hwnnw,
roi cyfarwyddyd i berson weithredu fel EAGM mewn perthynas â P.
3
Pan fo corff GIG neu awdurdod lleol yn rhoi cyfarwyddyd i EAGM o dan y rheoliad hwn rhaid i'r corff neu'r awdurdod hwnnw, wrth wneud unrhyw benderfyniad sy'n codi o adolygiad o drefniadau ar gyfer llety P, ystyried unrhyw wybodaeth a roddwyd gan yr EAGM neu unrhyw gyflwyniadau a wnaed ganddo.
4
Ni cheir rhoi cyfarwyddyd i EAGM o dan y rheoliad hwn pan fo EAGM wedi cael cyfarwyddyd yn unol ag adrannau 37, 38 neu 39 o'r Ddeddf neu â rheoliad 9.
5
Ni cheir rhoi cyfarwyddyd i EAGM o dan y rheoliad hwn yn yr amgylchiadau a ganlyn—
a
pan fo P wedi enwebu person (ym mha fodd bynnag) fel person i gael ei gynnwys mewn trafodaethau ar faterion sy'n effeithio ar fudd P;
b
pan fo yna berson wedi cael pwer atwrnai parhaol a luniwyd gan P;
c
pan fo'r Llys Gwarchod wedi penodi dirprwy dros P; neu
ch
pan fo yna berson wedi cael pwer atwrnai parhaus (o fewn ystyr Atodlen 4 o'r Ddeddf) a luniwyd gan P.
Achosion gwarchod oedolion9
1
Mae'r rheoliad hwn yn gymwys pan fo corff GIG neu awdurdod lleol yn bwriadu cymryd camau gwarchodol, neu yn bwriadu trefnu iddynt gael eu cymryd, mewn perthynas â pherson (P) sydd â diffyg galluedd i gytuno i un neu fwy o'r camau hynny.
2
Yn ddarostyngedig i baragraff (4), pan fo corff GIG neu awdurdod lleol yn cael hysbysiad o honiad neu yn cael tystiolaeth—
a
bod P yn cael ei gam-drin neu ei esgeuluso neu ei fod wedi cael ei gam-drin neu ei esgeuluso, neu
b
bod P yn cam-drin neu wedi cam-drin person arall
caiff roi cyfarwyddyd i EAGM os yw wedi ei fodloni y byddai'n fuddiol i P gael ei gynrychioli a'i gefnogi.
3
Pan fo corff GIG neu awdurdod lleol yn rhoi cyfarwyddyd i EAGM o dan y rheoliad hwn rhaid i'r corff neu'r awdurdod hwnnw, wrth wneud unrhyw benderfyniad ynglyn â chamau gwarchodol sydd i'w cymryd mewn perthynas â P, ystyried unrhyw wybodaeth a roddwyd gan yr EAGM neu unrhyw gyflwyniadau a wnaed ganddo.
4
Ni cheir rhoi cyfarwyddyd i EAGM o dan y rheoliad hwn pan fo EAGM wedi cael cyfarwyddyd yn unol ag adrannau 37, 38 neu 39 o'r Ddeddf neu â rheoliad 8.
5
Mae “Camau Gwarchodol” (“Protective Measures”) yn cynnwys camau i leihau'r risg y bydd unrhyw gam-drin neu esgeulustod o P, neu gam-drin gan P, yn parhau a chamau a gymerir yn unol â chanllawiau a ddyroddir dan adran 7 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol Awdurdodau Lleol 19704.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 19985
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)