2007 Rhif 944 (Cy.80)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Staffio Ysgolion a Gynhelir (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2007

Wedi'u gwneud

Yn dod i rym

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 72 a 138(7) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 19981 ac sydd bellach wedi'u breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru a'r pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adrannau 19(3), 34(5), 35(4) a (5), 36(4) a (5), 210(7) a 214 o Ddeddf Addysg 20022:

Enwi, cychwyn a chymhwyso1

1

Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Staffio Ysgolion a Gynhelir (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2007 a deuant i rym ar 29 Mawrth 2007.

2

Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Diwygio Rheoliadau Gwerthuso Athrawon Ysgol (Cymru) 20022

Yn rheoliad 17(2) o Reoliadau Gwerthuso Athrawon Ysgol (Cymru) 20023, yn lle “pharagraff 23 o Atodlen 16 a pharagraff 22 o Atodlen 17 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998” rhodder “rheoliad 6 o Reoliadau Staffio Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2006”.

Diwygio Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 20053

1

Yn rheoliad 50(1) o Reoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 20054, hepgorer y geiriau “a rheoliadau 12 a 21 o Reoliadau Staffio Ysgolion (Cymru) 2005”.

2

Yn rheoliad 51(1) yn lle “10 a 24” rhodder “10(9) i (20), 24(8) i (19) a 34”.

Diwygio Rheoliadau Staffio Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 20064

1

Diwygier Rheoliadau Staffio Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 20065 yn unol â'r rheoliad hwn.

2

Yn rheoliad 3(1) mewnosoder y diffiniad canlynol yn y lle priodol yn ôl trefn yr wyddor—

  • mae i'r term “busnes cyflogaeth” yr ystyr a roddir i “employment business” gan adran 13(3) o Ddeddf Asiantaethau Cyflogaeth 1973 ac mae'n cynnwys awdurdod lleol a pherson sy'n cynnal busnes cyflogaeth;

  • ystyr “corff llywodraethu” (“governing body”) yw corff llywodraethu ysgol a gynhelir y mae'r rheoliad sy'n cynnwys yr ymadrodd hwnnw'n gymwys iddi;

  • mae i'r term “datganiad o addasrwydd plant” yr ystyr a roddir i “children’s suitability statement” gan adran 113C(2) o Ddeddf yr Heddlu 1997.

3

Ar ôl paragraff (4) yn rheoliad 3 mewnosoder —

5

Yn y Rheoliadau hyn mae unrhyw gyfeiriad at —

a

rheoliad â Rhif yn gyfeiriad at y rheoliad sy'n dwyn y Rhif hwnnw yn y Rheoliadau hyn;

b

paragraff â Rhif yn gyfeiriad at y paragraff sy'n dwyn y Rhif hwnnw yn y rheoliad yr ymddengys y cyfeiriad ynddo.

6

Mae rheoliadau 4 i 7 yn gymwys i —

a

ysgolion cymunedol;

b

ysgolion gwirfoddol a reolir;

c

ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir;

ch

ysgolion sefydledig;

d

ysgolion arbennig cymunedol;

dd

ysgolion arbennig sefydledig; a

e

ysgolion meithrin a gynhelir.

7

At ddibenion y rheoliadau hyn mae person yn gwneud cais am dystysgrif fanwl o gofnod troseddol os bydd y person yn cydlofnodi cais am y dystysgrif fel person cofrestredig (o fewn ystyr adran 120 o Ddeddf yr Heddlu 1997) neu os cydlofnodir cais ar ei ran, a bod y cais yn cael ei gyflwyno i'r Ysgrifennydd Gwladol yn unol â Rhan V o'r Ddeddf honno.

4

Yn rheoliad 4(1), yn lle “Mewn unrhyw ysgol mae'n rhaid cyflogi, neu gymryd ymlaen heblaw o dan gontractau cyflogaeth, staff sy'n addas” rhodder “Rhaid i gorff llywodraethu ac awdurdod addysg lleol arfer eu swyddogaethau perthnasol o dan y Rheoliadau hyn ac o dan unrhyw ddeddfiad arall er mwyn sicrhau bod staff yn cael eu cyflogi, neu eu cymryd ymlaen o dan gontractau cyflogaeth, sy'n addas”.

5

Ar ôl rheoliad 9 mewnosoder y canlynol—

Gwirio cofnod troseddol ar aelodau staff9A

1

Rhaid i'r awdurdod wirio pwy yw unrhyw berson a benodir o dan reoliadau 10, 12 neu 15 a rhaid i'r awdurdod wirio'i hawl i weithio yn y Deyrnas Unedig.

2

Rhaid i'r awdurdod gael tystysgrif fanwl o gofnod troseddol a ddyroddwyd yn unol â Rhan V o Ddeddf yr Heddlu 1997 ynglŷn â phob person o'r fath cyn ei benodi neu cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl ei benodi, a rhaid anfon datganiad o addasrwydd plant gyda chais am dystysgrif o'r fath.

3

Yn achos unrhyw berson o'r fath, am ei fod wedi byw y tu allan i'r Deyrnas Unedig, nad yw cael tystysgrif o'r fath ar ei gyfer yn ddigonol i gadarnhau ei addasrwydd i weithio mewn ysgol, rhaid i'r awdurdod wneud gwiriadau pellach y mae o'r farn eu bod yn briodol, gan roi sylw i unrhyw ganllawiau a ddyroddwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

4

Rhaid cwblhau'r gwiriadau y cyfeirir atynt ym mharagraffau (1) a (3) cyn penodi person.

5

Nid yw paragraffau (2) a (3) yn gymwys i berson sydd wedi gweithio—

a

mewn ysgol yng Nghymru mewn swydd a ddaeth ag ef i gyswllt rheolaidd â phlant neu bobl ifanc, neu

b

mewn sefydliad yn y sector addysg bellach yng Nghymru yr oedd ei swydd yn golygu darparu addysg a oedd yn dod ag ef yn rheolaidd i gyswllt â phlant neu bobl ifanc,

yn ystod cyfnod a ddaeth i ben heb fod yn fwy na thri mis cyn ei benodiad.

6

Ar ôl rheoliad 9A mewnosoder y canlynol—

Gwirio cofnod troseddol aelodau staff a benodwyd gan yr awdurdod —9B

Mae rheoliad 9A hefyd yn gymwys o ran unrhyw berson a benodir gan yr awdurdod er mwyn gweithio mewn ysgol y mae'r Rhan hon neu Ran 3 yn gymwys iddi.

7

Yn rheoliadau 12(1) a 12(2) yn lle “(3) i (7)” rhodder “(6) to (14)”.

8

Yn rheoliad 12(6) yn lle “paragraffau (7) i (16)” rhodder “paragraffau (7) i (14)”.

9

Ar ôl rheoliad 14 mewnosoder y canlynol—

Staff cyflenwi15A

1

Ni chaiff unrhyw berson sy'n cael ei gyflenwi gan fusnes cyflogaeth i ysgol ddechrau gweithio fel athro neu athrawes neu aelod o staff cymorth yn yr ysgol oni fydd yr awdurdod neu (yn ôl y digwydd) y corff llywodraethu wedi cael—

a

hysbysiad ysgrifenedig oddi wrth y busnes cyflogaeth ynglŷn â'r person hwnnw—

i

bod y gwiriadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (6) wedi cael eu gwneud;

ii

bod cais am dystysgrif fanwl o gofnod troseddol ynghyd â datganiad o addasrwydd plant wedi cael ei wneud, neu fod tystysgrif o'r fath wedi dod i law mewn ymateb i gais a wnaed gan y busnes cyflogaeth hwnnw neu gan fusnes cyflogaeth arall; a

iii

p'un a oedd yn datgelu, os cafodd y busnes cyflogaeth dystysgrif o'r fath cyn bod y person i ddechrau gweithio yn yr ysgol, unrhyw fater neu wybodaeth, neu a roddwyd unrhyw wybodaeth i'r busnes cyflogaeth yn unol ag adran 113B(6) o Ddeddf yr Heddlu 1997; a

b

os cafodd y busnes cyflogaeth dystysgrif fanwl o gofnod troseddol cyn bod y person i ddechrau gweithio yn yr ysgol, a bod honno'n datgelu unrhyw fater neu wybodaeth, neu os rhoddwyd unrhyw wybodaeth i'r busnes cyflogaeth yn unol ag adran 113B(6) o Ddeddf yr Heddlu 1997, copi o'r dystysgrif.

2

Ac eithrio yn achos person y mae paragraff (3) yn gymwys iddo rhaid bod y dystysgrif y cyfeirir ati ym mharagraff (1)(a)(ii) wedi dod i law ddim llai na thri mis cyn y dyddiad y mae'r person i ddechrau gweithio yn yr ysgol.

3

Mae'r paragraff hwn yn gymwys i berson sydd wedi gweithio—

a

mewn ysgol yng Nghymru mewn swydd a ddaeth ag ef i gyswllt rheolaidd â phlant neu bobl ifanc, neu

b

mewn sefydliad yn y sector addysg bellach yng Nghymru yr oedd ei swydd yn golygu darparu addysg a oedd yn dod ag ef yn rheolaidd i gyswllt â phlant neu bobl ifanc,

yn ystod cyfnod a ddaeth i ben heb fod yn fwy na thri mis cyn y dyddiad y mae i ddechrau gweithio yn yr ysgol.

4

Cyn y caiff person a gynigir ar gyfer gwaith cyflenwi gan fusnes cyflogaeth ddechrau gweithio yn yr ysgol rhaid i'r corff llywodraethu yn yr ysgol wirio pwy ydyw (p'un a wnaed gwiriad o'r fath gan y busnes cyflogaeth cyn cynnig y person am waith cyflenwi ai peidio).

5

Rhaid i'r awdurdod neu (yn ôl y digwydd) y corff llywodraethu yn y contract neu mewn unrhyw drefniadau eraill y mae'n ei wneud neu eu gwneud gydag unrhyw fusnes cyflogaeth ei gwneud yn ofynnol iddo, o ran unrhyw berson y mae'r busnes cyflogaeth yn ei gyflenwi ar gyfer yr ysgol—

a

darparu'r hysbysrwydd y cyfeirir ato ym mharagraff (1), a

b

os bydd unrhyw dystysgrif fanwl o gofnod troseddol y bydd y busnes cyflogaeth yn ei chael yn cynnwys unrhyw fater neu wybodaeth, neu os cafodd unrhyw wybodaeth ei rhoi i'r busnes cyflogaeth yn unol ag adran 113B(6) o Ddeddf yr Heddlu 1997, ddarparu copi o'r dystysgrif.

6

At ddibenion paragraff (1)(a)(i) ystyr “gwiriadau” yw—

a

gwirio pwy yw rhywun;

b

gwiriad i gadarnhau os yw person yn destun cyfarwyddyd a wnaed o dan adran 142 o Ddeddf Addysg 2002 neu unrhyw waharddiad, cyfyngiad neu orchymyn sy'n cael effaith fel cyfarwyddyd o'r fath;

c

gwiriad i gadarnhau a yw'n bodloni'r gofynion ynglyn â gofynion cymhwyster unrhyw staff;

ch

gwiriad yn unol â rheoliad 9A(3);

d

bod tystysgrif fanwl o gofnod troseddol yn ei gylch wedi dod i law; a

dd

gwiriad o'i hawl i weithio yn y Deyrnas Unedig.

10

Ar ôl rheoliad 18 mewnosoder y canlynol—

Gwiriadau wrth newid swydd18A

Pan fydd aelod o staff ysgol yn symud o swydd nad oedd yn ei ddwyn i gyswllt yn rheolaidd â phlant neu bobl ifanc i swydd sydd yn gwneud hynny, rhaid i'r awdurdod gael tystysgrif fanwl o gofnod troseddol ynglyn ag ef cyn iddo symud i'w swydd newydd neu cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl hynny, a rhaid anfon datganiad o addasrwydd plant gyda chais am dystysgrif o'r fath.

11

Ar ôl rheoliad 20 mewnosoder y canlynol—

Gwiriadau cofnod troseddol ar gyfer aelodau staff20A

1

Rhaid i'r corff llywodraethu wirio pwy yw unrhyw berson a benodir o dan reoliadau 24, 26 a 27 a rhaid i'r corff llywodraethu wirio'i hawl i weithio yn y Deyrnas Unedig.

2

Rhaid i'r corff llywodraethu gael tystysgrif fanwl o gofnod troseddol a ddyroddwyd yn unol â Rhan V o Ddeddf yr Heddlu 1997 ynglŷn â phob person o'r fath cyn ei benodi neu cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl ei benodi, a rhaid anfon datganiad o addasrwydd plant gyda chais am dystysgrif o'r fath.

3

Yn achos unrhyw berson o'r fath, am ei fod wedi byw y tu allan i'r Deyrnas Unedig, nad yw cael tystysgrif o'r fath ar ei gyfer yn ddigonol i gadarnhau ei addasrwydd i weithio mewn ysgol, rhaid i'r corff llywodraethu wneud gwiriadau pellach y mae o'r farn eu bod yn briodol, gan roi sylw i unrhyw ganllawiau a ddyroddwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

4

Rhaid cwblhau'r gwiriadau y cyfeirir atynt ym mharagraffau (1) a (3) cyn penodi person.

5

Nid yw paragraffau (2) a (3) yn gymwys i berson sydd wedi gweithio—

a

mewn ysgol yng Nghymru mewn swydd a ddaeth ag ef i gyswllt rheolaidd â phlant neu bobl ifanc, neu

b

mewn sefydliad yn y sector addysg bellach yng Nghymru yr oedd ei swydd yn golygu darparu addysg a oedd yn dod ag ef yn rheolaidd i gyswllt â phlant neu bobl ifanc,

yn ystod cyfnod a ddaeth i ben heb fod yn fwy na thri mis cyn ei benodiad.

12

Yn rheoliad 21(1)(a) yn lle “24 neu 26(12) i (16)” rhodder “24 i 25 neu 33 a 34”.

13

Ar ôl rheoliad 24 mewnosoder y canlynol—

“Staff cyflenwi24A

1

Ni chaiff unrhyw berson sy'n cael ei gyflenwi gan fusnes cyflogaeth i ysgol ddechrau gweithio fel athro neu athrawes neu aelod o staff cymorth yn yr ysgol oni fydd y corff llywodraethu wedi cael—

a

hysbysiad ysgrifenedig oddi wrth y busnes cyflogaeth ynglyn â'r person hwnnw—

i

bod y gwiriadau y cyfeirir atynt ym mharagraff 15A(6) wedi cael eu gwneud;

ii

bod cais am dystysgrif fanwl o gofnod troseddol ynghyd â datganiad o addasrwydd plant wedi cael ei wneud, neu fod tystysgrif o'r fath wedi dod i law mewn ymateb i gais a wnaed gan y busnes cyflogaeth hwnnw neu gan fusnes cyflogaeth arall; a

iii

p'un a oedd yn datgelu, os cafodd y busnes cyflogaeth dystysgrif o'r fath cyn bod y person i ddechrau gweithio yn yr ysgol, unrhyw fater neu wybodaeth, neu a roddwyd unrhyw wybodaeth i'r busnes cyflogaeth yn unol ag adran 113B(6) o Ddeddf yr Heddlu 1997; a

b

os cafodd y busnes cyflogaeth dystysgrif fanwl o gofnod troseddol cyn bod y person i ddechrau gweithio yn yr ysgol, a bod honno'n datgelu unrhyw fater neu wybodaeth, neu os rhoddwyd unrhyw wybodaeth i'r busnes cyflogaeth yn unol ag adran 113B(6) o Ddeddf yr Heddlu 1997, copi o'r dystysgrif.

2

Ac eithrio yn achos person y mae paragraff (3) yn gymwys iddo rhaid bod y dystysgrif y cyfeirir ati ym mharagraff (1)(a)(ii) wedi dod i law ddim llai na thri mis cyn y dyddiad y mae'r person i ddechrau gweithio yn yr ysgol.

3

Mae'r paragraff hwn yn gymwys i berson sydd wedi gweithio—

a

mewn ysgol yng Nghymru mewn swydd a ddaeth ag ef i gyswllt rheolaidd â phlant neu bobl ifanc, neu

b

mewn sefydliad yn y sector addysg bellach yng Nghymru yr oedd ei swydd yn golygu darparu addysg a oedd yn dod ag ef yn rheolaidd i gyswllt â phlant neu bobl ifanc,

yn ystod cyfnod a ddaeth i ben heb fod yn fwy na thri mis cyn y dyddiad y mae i ddechrau gweithio yn yr ysgol.

4

Cyn y caiff person a gynigir ar gyfer gwaith cyflenwi gan fusnes cyflogaeth ddechrau gweithio yn yr ysgol rhaid i'r corff llywodraethu yn yr ysgol wirio pwy ydyw (p'un a wnaed gwiriad o'r fath gan y busnes cyflogaeth cyn cynnig y person am waith cyflenwi ai peidio).

5

Rhaid i'r corff llywodraethu yn y contract neu mewn unrhyw drefniadau eraill y mae'n ei wneud neu eu gwneud gydag unrhyw fusnes cyflogaeth ei gwneud yn ofynnol iddo, o ran unrhyw berson y mae'r busnes cyflogaeth yn ei gyflenwi ar gyfer yr ysgol—

a

darparu'r hysbysrwydd y cyfeirir ato ym mharagraff (1), a

b

os bydd unrhyw dystysgrif fanwl o gofnod troseddol y bydd y busnes cyflogaeth yn ei chael yn cynnwys unrhyw fater neu wybodaeth, neu os cafodd unrhyw wybodaeth ei rhoi i'r busnes cyflogaeth yn unol ag adran 113B(6) o Ddeddf yr Heddlu 1997, ddarparu copi o'r dystysgrif.

14

Yn rheoliad 26(1) a 26(2) yn lle “(16)” rhodder “(14)”.

15

Yn rheoliad 26(7) yn lle “paragraffau (8) i (16)” rhodder “paragraffau (8) i (14)”.

16

Yn rheoliad 26(14) yn lle “y paragraff hwn” rhodder “paragraff (12)”.

17

Ar ôl rheoliad 26 mewnosoder y canlynol—

Gwiriadau wrth newid swydd26A

Pan fydd aelod o staff ysgol yn symud o swydd nad oedd yn ei ddwyn i gyswllt yn rheolaidd â phlant neu bobl ifanc i swydd sydd yn gwneud hynny, rhaid i'r corff llywodraethu gael tystysgrif fanwl o gofnod troseddol ynglyn ag ef cyn iddo symud i'w swydd newydd neu cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl hynny, a rhaid anfon datganiad o addasrwydd plant gyda chais am dystysgrif o'r fath.

18

Yn rheoliad 33 —

a

yn lle paragraff (2) rhodder y paragraff canlynol—

2

Yn ddarostyngedig i baragraff (6), mae paragraffau (3) i (5) yn effeithiol o ran llenwi swydd wag pan fo honno'n swydd pennaeth yr ysgol, yn hytrach na rheoliad 24(7) i (18).

b

ym mharagraff (6) yn lle “(12)” rhodder “(18)”.

19

Yn rheoliad 34(1) —

a

yn lle “(6)” rhodder “(5)”;

b

yn lle “(12)” rhodder “(18)”.

20

Yn rheoliad 34(2)(b) yn lle “(9)” rhodder “(15)”.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 19986

D. Elis-ThomasLlywydd y Cynulliad Cenedlaethol

(Nid yw'r nodyn hyn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Staffio Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2006 (Rheoliadau 2006).

Mae rheoliad 2 yn cynnwys diwygiad i Reoliadau Gwerthuso Athrawon (Cymru) 2002 OS 2002/1394 (Cy.137).

Mae rheoliad 3 yn cynnwys diwygiad i reoliadau 50(1) a 51(1) o Reoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2005 OS 2005/2914 (Cy.211).

Mae rheoliad 4(2) yn mewnosod diffiniad o 'corff llywodraethu' yn Rheoliadau 2006.

Mae rheoliad 4(3) yn mewnosod diffiniad o 'rheoliadau' yn Rheoliadau 2006.

Mae rheoliad 4(4) yn datgan i ba gategorïau o ysgolion y bydd rheoliadau 4 i 7 o Reoliadau 2006 yn gymwys.

Mae rheoliad 4(5) ac (11) yn cynnwys diwygiadau i Reoliadau 2006 sy'n ei gwneud yn ofynnol i wirio pwy yw person a gwirio'i hawl i weithio yn y Deyrnas Unedig. Mae hefyd yn ei gwneud yn ofynnol, yn ddarostyngedig i eithriadau, bod person a benodwyd yn athro neu'n athrawes neu'n aelod o'r staff cymorth, cyn iddo gael ei benodi neu cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl iddo gael ei benodi, yn destun gwiriad manwl y Swyddfa Cofnodion Troseddol (“SCT”) a wneir o dan Ddeddf yr Heddlu 1997.

Mae rheoliadau 4(7)(8)(12)(14)(15)(16)(18)(19) a (20) yn cynnwys diwygiadau i groesgyfeiriadau yn Rheoliadau 2006.

Mae rheoliadau 4(9) a (13) yn cynnwys diwygiadau i Reoliadau 2006 sy'n rhwystro athro neu athrawes neu aelod o'r staff cymorth a gyflenwir gan asiantaeth rhag gweithio mewn ysgol hyd nes y bydd yr asiantaeth wedi cadarnhau bod gwiriadau wedi cael eu gwneud, ac mae'n ofynnol i ysgolion yn eu trefniadau gydag asiantaethau i'w gosod o dan rwymedigaeth i ddarparu'r wybodaeth hon.

Mae rheoliadau 4(10) a (17) yn cynnwys diwygiadau i Reoliadau 2006 sy'n ei gwneud yn ofynnol bod aelod staff sy'n symud o swydd nad oedd yn ei ddwyn yn rheolaidd i gyswllt â phlant neu bobl ifanc i swydd sydd yn gwneud hynny yn yr un ysgol yn destun gwiriad manwl y SCT cyn bod y person yn dechrau yn ei swydd newydd neu cyn gynted ag sy'n rhesymol ymarferol ar ôl hynny.