xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.)

Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran prif gynghorau yng Nghymru.

Mae Gorchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007 yn diwygio Atodlen 12A i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 ac, o wneud hynny, yn newid Rhif au'r paragraffau yn Atodlen 12A. Caiff y cyfeiriadau at Atodlen 12A yn rheoliad 10 o Reoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Gweithrediaeth) (Penderfyniadau, Dogfennau a Chyfarfodydd) (Cymru) 2001 eu diwygio gan reoliad 2 o'r Rheoliadau hyn.

Mae rheoliad 26 o Reoliadau'r Pwyllgorau Safonau (Cymru) 2001 hefyd yn cyfeirio at Atodlen 12A a chaiff y cyfeiriadau hynny eu diwygio gan reoliad 3 o'r Rheoliadau hyn.

Mae rheoliad 4 yn gwneud darpariaeth sy'n addasu cymhwysiad Atodlen 12A pan fo pwyllgor safonau yn cyfarfod i ddelio รข honiad o dorri cod ymddygiad.