Search Legislation

Rheoliadau Byrddau Iechyd Lleol (Cyfansoddiad, Aelodaeth a Gweithdrefnau) (Cymru) (Diwygio) 2007

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

1.  Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys o ran Cymru, yn diwygio Rheoliadau Byrddau Iechyd Lleol (Cyfansoddiad, Aelodaeth a Gweithdrefnau) (Cymru) 2003 (O.S. 2003/149 (Cy.19)) (“Rheoliadau 2003”). Mae Rheoliadau 2003 yn gwneud darpariaethau ar gyfer cyfansoddiad ac aelodaeth Byrddau Iechyd Lleol gan gynnwys eu gweithdrefnau a'u trefniadau gweinyddol. Mae'r Rheoliadau'n diwygio Rheoliadau 2003 i wneud darpariaeth i awdurdodau lleol benodi personau i'w cynrychioli ar y Bwrdd. Mae'r Rheoliadau hefyd yn gwneud darpariaeth ar gyfer deiliadaeth holl benodiadau Bwrdd ac ar gyfer terfynu penodiadau aelodau Bwrdd.

2.  Mae'r Rheoliadau—

(a)yn gwneud diwygiadau i reoliad 2 o Reoliadau 2003 er mwyn cynnwys Ymddiriedolaethau Sefydledig y GIG yn y diffiniad o gorff gwasanaeth iechyd (rheoliad 3);

(b)yn diwygio rheoliad 3 o Reoliadau 2003 i'w gwneud yn glir bod gwahaniaeth, at ddiben y Rheoliadau hynny, rhwng cadeirydd neu is-gadeirydd a benodir gan y Cynulliad ac aelodau eraill o'r Bwrdd (rheoliad 4);

(c)yn darparu bod pob aelod sy'n cynrychioli'r awdurdod lleol ar gyfer ardal y Bwrdd yn cael ei benodi gan yr awdurdod lleol (rheoliad 5(3);

(ch)yn darparu, pan fydd sedd wag ar Fwrdd, bod yn rhaid i'r Bwrdd hwnnw wneud pob ymdrech resymol i lenwi'r sedd wag honno (rheoliad 5(4));

(d)yn dileu darpariaeth ar gyfer trefniadau trosiannol ar gyfer penodi aelodau cyntaf y Bwrdd. Gan fod y Byrddau eisoes wedi'u sefydlu nid oes angen y ddarpariaeth hon mwyach (rheoliad 6);

(dd)yn darparu ar gyfer penodi aelodau nad ydynt yn swyddogion am ddim mwy na phedair blynedd, ac yn darparu, pan fydd aelod nad yw'n swyddog yn gwasanaethu ar Fwrdd am fwy na deng mlynedd, bod yn rhaid i'r Bwrdd geisio cymeradwyaeth y Cynulliad Cenedlaethol. Maent hefyd yn gwneud darpariaeth ar gyfer trefniadau trosiannol ar gyfer aelodau presennol (rheoliad 8);

(e)yn gwneud darpariaeth, pan fydd person wedi'i benodi gan awdurdod lleol, y caiff yr awdurdod lleol hwnnw derfynu'r penodiad ar unrhyw adeg (rheoliad 9);

(f)yn darparu bod penodiad cadeirydd neu is-gadeirydd yn cael ei derfynu gan y Cynulliad Cenedlaethol (rheoliad 10); ac

(ff)yn darparu, pan fydd is-gadeirydd wedi'i benodi gan y Bwrdd ond bod ei benodiad yn cael ei derfynu gan y Cynulliad Cenedlaethol, bod y person hwnnw'n parhau'n aelod nad yw'n swyddog (rheoliad 11).

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources