xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Offerynnau Statudol Cymru
Y GWASANAETH IECHYD, CYMRU
Wedi'u gwneud
20 Mawrth 2007
Yn dod I rym
1 Ebrill 2007
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 75 o Ddeddf Iechyd 2006(1) drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol:
1.—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cyfeiriadau at Awdurdodau Iechyd 2007 a daw'r Gorchymyn i rym ar 1 Ebrill 2007.
(2) Yn y Gorchymyn hwn mae i'r term “is-deddfwriaeth” yr un ystyr a roddir i'r term “subordinate legislation” yn Neddf Dehongli 1978(2).
2. Mae gan addasiad o ddeddfiad gan y Gorchymyn hwn yr un rhychwant â'r deddfiad a addaswyd.
3. Mae'r deddfiadau a nodwyd yn yr Atodlen yn cael eu diwygio fel y nodir yno.
4. Bydd pob cyfeiriad mewn is-ddeddfwriaeth at Awdurdod Iechyd neu Awdurdodau Iechyd yn cael eu trin fel cyfeiriadau at Fwrdd Iechyd Lleol neu Fyrddau Iechyd Lleol fel y bo'n briodol, oni bai bod y cyd-destun yn mynnu fel arall.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1998(3).
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
20 Mawrth 2007
Erthygl 3
1. Yn adran 26 o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948 (darparu llety mewn eiddo a gynhelir gan sefydliadau gwirfoddol), yn is-adran (1C) yn lle “Health Authority” rhodder “Local Health Board”.
2. Yn Rhan 1 o Atodlen 2 i Ddeddf Lluoedd Arfog Wrth Gefn ac Atodol (Amddiffyn Buddiannau Sifil) 1951 (galluoedd mewn perthynas â pha daliadau y gellir eu gwneud o dan Ran 5 ac awdurdodau sy'n talu), ym mharagraff 15 yn lle “Health Authority ”, ym mhob man y digwydd, rhodder “Local Health Board”.
3. Yn adran 57 o Ddeddf Landlord a Thenant 1954 (addasiad ar sail hawliau budd cyhoeddus o dan Ran 2), yn is-adran (6) yn lle “Health Authority” rhodder “Local Health Board”.
4. Yn yr Atodlen i Ddeddf Cyrff Cyhoeddus (Derbyn i Gyfarfodydd) 1960 (cyrff y mae'r ddeddf hon yn gymwys iddynt), hepgorer paragraff (1)(f).
5. Yn adran 28 o Ddeddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad 1967 (cadw neu ailddechrau defnyddio tir sydd ei angen at ddibenion cyhoeddus), yn is-adrannau (5)(d) a (6)(c) yn lle “Health Authority” rhodder “Local Health Board”.
6.—(1) Diwygir Deddf Gwasanaethau Iechyd ac Iechyd y Cyhoedd 1968 fel a ganlyn.
(2) Yn adran 63 (darparu cyfarwyddyd i swyddogion awdurdodau ysbytai a phersonau eraill a gyflogir, neu sy'n ystyried cyflogaeth, mewn rhai gweithgareddau sy'n gysylltiedig ag iechyd neu lles) —
(a)yn isadran (1)(a) hepgorer y geiriau “Health Authority”;
(b)yn is-adran (2)(b) yn lle “Health Authority” rhodder “Local Health Board”;
(c)yn is-adran (5A) hepgorer y geiriau “Health Authority” yn y ddau fan lle y digwydd; ac
(ch)yn is-adran (5B) hepgorer paragraff (a).
(3) Yn adran 64 (cymorth ariannol gan y Gweinidog Iechyd a'r Ysgrifennydd Gwladol i rai sefydliadau gwirfoddol), yn is-adran (3)(b) yn lle “Health Authority” rhodder “Local Health Board”.
7. Yn Atodlen 1 i Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol Awdurdodau Lleol 1970 (swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol), yn y cofnod ar gyfer Deddf Plant 1989 yn lle “health authorities” rhodder “Local Health Boards”.
8.—(1) Diwygir Deddf Llywodreath Leol 1972 fel a ganlyn.
(2) Yn adran 113 (rhoi staff awdurdodau lleol at wasanaeth awdurdodau lleol eraill)—
(a)yn is-adrannau (1A), (1A)(a) a (1A)(b) yn lle “Health Authority” ym mob man y digwydd, rhodder “Local Health Board”; a
(b)yn is-adran (4) ar ôl y geiriau “In subsection (1A) above” mewnosoder ““Local Health Board” means a Local Health Board established under section 11 of the National Health Service (Wales) Act 2006”.
9. Yn adran 60 o Ddeddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1974 (atodol), yn is-adran 1 yn lle “Health Authority” rhodder “Local Health Board”.
10.—(1) Diwygir Deddf Datgymhwysiad Ty'r Cyffredin 1975 fel a ganlyn.
(2) Yn atodlen 1 (swyddi sy'n anghymwyso ar gyfer aelodaeth), yn Rhan 3 (swyddi eraill sy'n anghymwyso) —
(a)yn y cofnod sy'n dechrau “Chairman or any member, not being also an employee of any Strategic Health Authority, Health Authority or Special Health Authority” hepgorer y geiriau “Health Authority”; a
(b)yn y man priodol yn nhrefn yr wyddor mewnosoder —
“Chairman or any member, not being also an employee, of a Local Health Board established under section 11 of the National Health Service (Wales) Act 2006.”.
11. Yn adran 21C o Ddeddf Awdurdod Datblygu Cymru 1975 (pwerau i gynghori ynglyn â materion tir), yn is-adran (2)(f) yn lle “Health Authority” rhodder “Local Health Board”.
12.—(1) Diwygir Deddf Cysylltiadau Hiliol 1976 fel a ganlyn.
(2) Yn Atodlen 1A (cyrff a phersonau eraill sy'n ddarostyngedig i ddyletswydd statudol gyffredinol), yn Rhan 1 (categorïau gwreiddiol cyrff a phersonau eraill) —
(a)ym mharagraff 5 hepgorer y geiriau “or a Health Authority”; a
(b)ar ôl paragraff 5 mewnosoder —
“5A. A Local Health Board established under section 11 of the National Health Service (Wales) Act 2006.”.
13.—(1) Diwygir Deddf Iechyd Meddwl 1983 fel a ganlyn.
(2) Yn adran 23 (rhyddhau cleifion) —
(a)yn is-adran (3) yn lle “Health Authority”, yn y ddau fan lle y digwydd, rhodder “Local Health Board”;
(b)yn is-adran (4) ar ôl “trust”, ym mhob man y digwydd, rhodder “, board”;
(c)yn adran (5) yn y geiriau cyn paragraff (a) ar ol “trust”, yn y ddau fan lle y digwydd, mewnosoder “, board”; a
(ch)yn is-adran (5)(a) —
(i)yn lle “Health Authority”, yn y ddau fan lle y digwydd, rhodder “Local Health Board”;
(ii)yn lle “or trust” yn y ddau fan lle y digwydd, rhodder, “, trust or board”; a
(iii)yn lle “such members (of the authority, trust, committee or sub-committee” rhodder “such members (of the authority, trust, board, committee or sub-committee”.
(3) Yn adran 24 (ymweld ac archwilio cleifion), yn is-adran (3) yn lle “Health Authority”, yn y ddau fan lle y digwydd, rhodder “Local Health Board”.
(4) Yn adran 25A (cais am oruchwyliaeth), yn is-adrannau (6), (7) a (8) yn lle “Health Authority”, ym mhob man y digwydd, rhodder “Local Health Board”.
(5) Yn adran 25C (ceisiadau am oruchwyliaeth: atodol), yn is-adran (6) yn lle “Health Authority” rhodder “Local Health Board”.
(6) Yn adran 25F (ailddosbarthu claf yn ddarostyngedig i ôl-ofal o dan oruchwyliaeth), yn is-adran (1) yn lle “Health Authority” rhodder “Local Health Board”.
(7) Yn adran 32 (rheoliadau at ddibenion Rhan 2), yn is-adran (3) —
(a)yn lle “Health Authorities” rhodder “Local Health Boards”; a
(b)ar ôl “managers” mewnosoder “, boards,”.
(8) Yn adran 39 (gwybodaeth am ysbytai) —
(a)yn is-adran (1) yn lle “Health Authority” ym mhob man y digwydd, rhodder “Local Health Board”;
(b)yn is-adran 1(b) yn lle “any other” rhodder “the National Assembly for Wales or any other”;
(c)yn is-adran (1) cyn y geiriau “have or can reasonably” mewnosoder “or National Assembly for Wales”; a
(ch)yn is-adran (1) cyn y geiriau “shall comply with any such request” mewnosoder “or National Assembly for Wales”.
(9) Yn adran 117 (ôl-ofal) yn is-adrannau (2), (2A) a (3) yn lle “Health Authority”, ym mhob man y digwydd, rhodder “Local Health Board”.
(10) Yn adran 134 (gohebiaeth cleifion), yn is-adran 3(e) yn lle “Health Authority” rhodder “Local Health Board”.
(11) Yn adran 139 (diogelu camau gweithredu a wneir yn unol â'r ddeddf hon), yn is-adran (4) yn lle “Health Authority” rhodder “Local Health Board”.
(12) Yn adran 140 (hysbysu ysbytai sydd â threfniadau ar gyfer derbyn achosion brys), yn lle “Health Authority”, ym mhob man y digwydd, rhodder, “Local Health Board”.
(13) Yn adran 145 (dehongli), yn is-adran (1) —
(i)yn y man priodol yn nhrefn yr wyddor mewnosoder —
““Local Health Board” means a Local Health Board established under section 11 of the National Health Services (Wales) Act 2006;”; a
(ii)yn y diffiniad o “the managers” yn lle “Health Authority” rhodder “Local Health Board”.
14.—(1) Diwygir Deddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984 fel a ganlyn.
(2) Yn adran 1 (awdurdodau sy'n gweinyddu'r ddeddf), yn is-adran (4)(b) yn lle “Health Authorities” rhodder “Local Health Boards”.
(3) Yn adran 11 (achosion o glefydau hysbysadwy a gwenwyn bwyd i gael eu cofnodi), yn is-adrannau (3)(a) a (3)(b)(ii) yn lle “Health Authority”, ym mhob man y digwydd, rhodder “Local Health Board”.
(4) Yn adran 12 (ffioedd ar gyfer tystysgrifau o dan s11), yn is-adran (1) yn lle “Health Authority” rhodder “Local Health Board”.
(5) Yn adran 13 (rheoliadau ar gyfer rheoli clefydau arbennig), yn is-adran (4)(a) yn lle “Health Authorities” rhodder “Local Health Boards”.
(6) Yn adran 37 (symud person sydd â chlefyd hysbysadwy i'r ysbyty) —
(a)yn is-adrannau (1)(c) a (1A) yn lle “Health Authority”, ym mhob man y digwydd, rhodder “Local Health Board”; a
(b)yn is-adran (1)(c) cyn y geiriau “or other person” mewnosoder “, Local Health Board”.
(7) Yn adran 39 (ceidwad llety cyffredin i hysbysu achos o glefyd heintus), yn is-adran (3) yn lle “Health Authority” rhodder “Local Health Board”.
(8) Yn adran 41 (symud trigiannydd llety cyffredin gyda chlefyd hysbysadwy i'r ysbyty) —
(a)yn is-adran (1) yn lle “Health Authority”, yn y ddau fan lle y digwydd, rhodder “Local Health Board”; a
(b)yn is-adran 1(c) cyn y geiriau “or any other person” mewnosoder “, Local Health Board”.
15.—(1) Diwygir Deddf Personau Anabl (Gwasanaethau, Ymgynghori a Chynrychioli) 1986 fel a ganlyn.
(2) Yn lle “Health Authority” rhodder “Local Health Board” yn yr adrannau canlynol —
(a)adran 2 (hawliau cynrychiolydd awdurdodedig personau anabl), yn is-adran (9) yn is-baragraff (aa); a
(b)adran 7 (personau sy'n cael eu rhyddhau o'r ysbyty), yn is-adran (9) yn is – baragraff (aa) yn y diffiniad o “health authority”.
(3) Yn adran 16 (dehongli), mewnosoder yn y man priodol yn nhrefn yr wyddor ““Local Health Board” means a Local Health Board established under section 11 of the National Health Services (Wales) Act 2006;”.
16.—(1) Diwygir Deddf Aids (Rheoli) 1987 fel a ganlyn.
(2) Yn adran 1 (adroddiadau cyfnodol ar faterion sy'n ymwneud ag AIDS a HIV) —
(a)yn is-adrannau (1)(b)(i) a (2)(b) yn lle “Health Authority” rhodder “Local Health Board”; a
(b)yn is-adran (9) yn lle ““Health Authority” means a Health Authority established under section 8 of that Act” rhodder ““Local Health Board” means a Local Health Board established under section 11 of the National Health Service (Wales) Act 2006”.
17. Yn adran 1 o Ddeddf Cynghorau Iechyd Cymuned (Mynediad at Wybodaeth) 1988 (mynediad i gyfarfodydd ac at ddogfennau cynghorau iechyd cymuned), yn is-adran (6)(a) yn lle “Health Authority” rhodder “Local Health Board”.
18. Yn adran 19 o Ddeddf Croesfan Dartford-Thurrock 1988 (esemptiad o dollau), yn is-adran (b) ar ôl y geiriau “under section 18 of the National Health Service Act 2006,” mewnosoder “a Local Health Board established under section 11 of the National Health Service (Wales) Act 2006”.
19. Yn adran 519A o Ddeddf Treth Incwm a Threth Gorfforaeth 1988 (cyrff gwasanaeth iechyd) yn is-adran (2)(a) hepgorer y geiriau “or a Health Authority”.
20.—(1) Diwygir Deddf Plant 1989 fel a ganlyn.
(2) Yn lle “Health Authority” rhodder “Local Health Board” yn yr adrannau canlynol —
(a)adran 21 (darparu llety ar gyfer plant dan ofal yr heddlu neu mewn canolfan gadw neu ar remand, etc), yn is-adran (3);
(b)adran 24 (personau sy'n gymwys i gael cyngor neu gymorth) yn is-adran (2)(d)(i);
(c)adran 24C (gwybodaeth) yn is-adran (2)(b);
(ch)adran 27 (cydweithredu rhwng awdurdodau), yn is-adran (3)(d);
(d)adran 29 (adennill costau a chostau darparu gwasanaethau etc), yn is-adran (8)(c);
(e)adran 47 (dyletswydd awdurdod lleol i ymchwilio), yn is-adran (11)(d);
(f)adran 80 (archwilio cartrefi plant etc gan bersonau sydd wedi eu hawdurdodi gan yr Ysgrifennydd Gwladol) yn is-adrannau (1)(d) a (5)(e); a
(g)adran 85 (plant sy'n cael llety gan awdurdodau iechyd ac awdurdodau addysg lleol), yn is-adran (1).
(3) Yn adran 105 (dehongli), mewnosoder, yn y man priodol yn nhrefn yr wyddor ““Local Health Board” means a Local Health Board established under section 11 of the National Health Service (Wales) Act 2006;”.
21.—(1) Diwygir Deddf Mynediad at Gofnodion Iechyd 1990 fel a ganlyn.
(2) Yn adran 11 (dehongli) —
(a)ym mharagraff (a) o'r diffiniad o “health service body” ar ôl y geiriau “Special Health Authority” mewnosoder “, Local Health Board”; a
(b)yn y man priodol yn nhrefn yr wyddor mewnosoder ““Local Health Board” means a Local Health Board established under section 11 of the National Health Service (Wales) Act 2006;”.
22. Yn adran 279 o Ddeddf Undebau Llafur a Chydberthynas Lafur (Atgyfnerthu) 1992 (ymarferwyr gwasanaeth iechyd) yn is-adran (1)(a) yn lle “Health Authority” rhodder “Local Health Board”.
23. Yn Rhan 1 o Atodlen 1 i Ddeddf Tribiwnlysoedd ac Ymchwiliadau 1992 (tribiwnlysoedd o dan oruchwyliaeth uniongyrchol y cyngor) —
(a)ym mharagraff 33(a), yn lle “Health Authorities” rhodder “Local Health Boards established under section 11 of the National Health Service (Wales) Act 2006”;
(b)ym mharagraff 33(c) yn lle “Health Authorities” rhodder “Local Health Boards”.
24. Yn adran 6 o Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993 (ystyr “public body”) yn is-adran (1)(f) hepgorer y geiriau “a Health Authority or”.
25. Yn Atodlen 2 i Ddeddf Awdurdodau Iechyd 1995 (darpariaethau ac arbedion trawsnewidiol) ym mharagraffau 2(1), 2(2), 2(6) a 2(7) yn lle “Health Authority” rhodder “Local Health Board”.
26.—(1) Diwygir Deddf Addysg 1996 fel a ganlyn.
(2) Yn adran 322 (dyletswydd awdurdodau iechyd neu awdurdodau lleol i helpu awdurdodau addysg lleol) —
(a)yn is-adran (1) yn lle “Health Authority” rhodder “Local Health Board” ac ar ôl y geiriau “help of the” mewnosoder “board,”;
(b)yn is-adran (2) ar ôl y geiriau “An authority” mewnosoder “, a board”;
(c)yn is-adran (3)(a) yn lle “Health Authority rhodder “Local Health Board” ac yn lle “authority” rhodder “board”; a
(ch)yn is-adran (4) ar ôl y geiriau “an authority” mewnosoder “, a board”.
(3) Yn adran 332 (dyletswydd awdurdod iechyd, ymddiriedolaeth gofal sylfaenol, neu ymddiriedolaeth gwasanaeth iechyd gwladol i hysbysu rhiant etc) —
(a)yn y pennawd ac yn is-adran (1) yn lle “Health Authority” rhodder “Local Health Board”; a
(b)yn is-adrannau (2) a (3) yn lle “Authority” ym mhob man y digwydd rhodder “Board”.
27.—(1) Diwygir Deddf Hawliau Cyflogaeth 1996 fel a ganlyn.
(2) Yn adran 43K (ymestyn ystyr “worker” etc ar gyfer Rhan 4A), yn is-adran (1)(c)(i) yn lle “Health Authority” rhodder “Local Health Board”.
(3) Yn adran 50 (hawl i gael amser i ffwrdd ar gyfer dyletswyddau cyhoeddus) ym mharagraff (b) o is-adran (8) yn lle “Health Authority” rhodder “Local Health Board established under section 11 of the National Health Service (Wales) Act 2006”.
(4) Yn adran 218 (newid cyflogwr) yn is-adran (10)(a) hepgorer y geiriau “and Health Authorities” ac ar ôl is-adran 10(ca) mewnosoder —
“(cb)Local Health Boards established under section 11 of the National Health Service (Wales) Act 2006,”.
28. Yn adran 3 o Ddeddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996 (ymgeiswyr anghymwys), yn is-adran (2)(f) yn lle “health authority” rhodder “Local Health Board”.
29.—(1) Diwygir Deddf Trosedd ac Anrhefn 1998 fel a ganlyn.
(2) Yn lle “health authority” rhodder “Local Health Board” yn yr adrannau canlynol —
(a)adran 5 (awdurdodau sy'n gyfrifol am strategaethau), yn is-adran (1)(f);
(b)adran 38 (darpariaeth leol o wasanaethau cyfiawnder ieuenctid) yn is-adran (2)(b);
(c)adran 39 (timau troseddau ieuenctid) yn is-adrannau (3)(b) a (5)(d);
(ch)adran 41 (y bwrdd cyfiawnder ieuenctid), yn is-adran (10);
(d)adran 42 (darpariaethau atodol), yn is-adran (3); a
(e)adran 115 (datgelu gwybodaeth) yn is-adran (2)(f).
30.—(1) Diwygir Deddf Safonau Gofal 2000 fel a ganlyn.
(2) Yn adran 20 (y weithdrefn brys ar gyfer diddymu etc), yn is-adran (6)(b) yn lle “Health Authority” rhodder “Local Health Board”.
(3) Yn adran 42 (pwer i ymestyn cymhwyso Rhan 2), yn is-adran (2)(b)(ii) yn lle “Health Authorities” rhodder “Local Health Boards”.
(4) Yn adran 89 (effaith cynnwys ar y rhestr), hepgorer (4C)(d).
(5) Yn Atodlen Schedule 2A (personau sy'n ddarostyngedig i adolygiad gan y comisiynydd o dan adran 72B), ar ôl paragraff 2 mewnosoder fel paragraff 2A, “2A Any Local Health Board for an area in, or consisting of, Wales”.
(6) Yn Atodlen 2B (personau sydd â'u trefniadau yn ddarostyngedig i adolygiad gan y comisiynydd o dan adran 73), ar ôl paragraff 3 mewnosoder fel paragraff 3A, “3A Any Local Health Board for an area in, or consisting of Wales”.
31.—(1) Diwygir Deddf Dysgu a Medrau 2000 fel a ganlyn.
(2) Yn adran 125 (ymgynghori a chydgysylltu), yn is-adran (1)(a) yn lle “Health Authority” rhodder “Local Health Board”.
(3) Yn adran 129 (atodol), yn is-adran (1) mewnosoder yn y man priodol yn nhrefn yr wyddor, ““Local Health Board” has the meaning given by section 11 of the National Health Service (Wales) Act 2006,”.
(4) Yn adran 138 (Wales : darparu gwybodaeth gan gyrff cyhoeddus), hepgorer is-adran (3)(b).
32.—(1) Diwygir Deddf Datblygu Rhyngwladol 2002 fel a ganlyn.
(2) Yn Atodlen 1 (cyrff statudol y mae adran 9 yn gymwys iddynt) —
(a)hepgorer y geiriau “A Health Authority”; a
(b)mewnosoder y geiriau “A Local Health Board” yn y man priodol yn nhrefn yr wyddor.
33. Yn adran 42 o Ddeddf Troseddau Rhywiol 2003 (gweithwyr gofal: dehongli) yn is-adran (5) yn y diffiniad o “National Health Service body”, yn lle “Health Authority” rhodder “Local Health Board”.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Gorchymyn hwn yn gwneud diwygiadau sy'n gysylltiedig â sefydlu Byrddau Iechyd Lleol yng Nghymru o 1 Ebrill 2003 a diddymu Awdurdodau Iechyd ar yr un dyddiad. Mae'r Gorchymyn yn diwygio deddfiadau yn briodol er mwyn adlewyrchu'r ffaith y trosglwyddwyd swyddogaethau'r hen Awdurdodau Iechyd i'r Cynulliad o dan y Gorchymyn Awdurdodau Iechyd (Trosglwyddo Swyddogaethau, Staff, Eiddo, Hawliau a Rhwymedigaethau a Diddymu (Cymru) 2003 (O.S. 2003/813) a gwnaed swyddogaethau o'r fath wedyn yn arferadwy gan Fyrddau Iechyd Lleol o dan y Rheoliadau Byrddau Iechyd Lleol (Swyddogaethau) (Cymru) 2003 (O.S. 2003/150). Mae'r Gorchymyn yn gwneud diwygiadau pellach i ddeddfiadau o ganlyniad i, neu mewn cysylltiad â, diddymu Awdurdodau Iechyd Cymru.
Mae'r Gorchymyn hefyd yn darparu mewn perthynas ag is-ddeddfwriaeth bod pob cyfeiriad at Awdurdod Iechyd neu Awdurdodau Iechyd yn cael eu trin fel cyfeiriadau at Fwrdd Iechyd Lleol neu Fyrddau Iechyd Lleol oni bai bod y cyd-destun yn mynnu fel arall.