YR ATODLENAddasiadau i Ddeddfau Seneddol sy'n gysylltiedig â diddymu Awdurdodau Iechyd Cymru a chreu Byrddau Iechyd Lleol

Deddfau Seneddol

Deddf Lluoedd Arfog wrth Gefn ac Atodol (Amddiffyn Buddiannau Sifil) 1951 (p.65)2

Yn Rhan 1 o Atodlen 2 i Ddeddf Lluoedd Arfog Wrth Gefn ac Atodol (Amddiffyn Buddiannau Sifil) 1951 (galluoedd mewn perthynas â pha daliadau y gellir eu gwneud o dan Ran 5 ac awdurdodau sy'n talu), ym mharagraff 15 yn lle “Health Authority ”, ym mhob man y digwydd, rhodder “Local Health Board”.