Enwi, cychwyn a dehongli

1.—(1Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007 a daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 21 Ebrill 2007.

(2Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “Deddf 1972” (“the 1972 Act”) yw Deddf Llywodraeth Leol 1972.

Hawliau mynediad ychwanegol at ddogfennau ar gyfer aelodau o brif gynghorau

2.—(1Diwygier adran 100F o Ddeddf 1972 (hawliau mynediad ychwanegol at ddogfennau ar gyfer aelodau o brif gynghorau) fel a ganlyn.

(2Yn is-adran (1), yn lle “subsections (2) to (2C)” rhodder “subsections (2) to (2E)”.

(3Yn lle is-adran (2)C rhodder —

(2C) In relation to a principal council in Wales, subsection (1) above does not require the document to be open to inspection if it appears to the proper officer that it discloses exempt information..

(4Ar ôl is-adran (2C) rhodder —

(2D) But subsection (1) above does require (despite subsection (2C) above) the document to be open to inspection if the information is information of a description for the time being falling within —

(a)paragraph 14 of Schedule 12A to this Act (except to the extent that the information relates to any terms proposed or to be proposed by or to the authority in the course of negotiations for a contract), or

(b)paragraph 17 of Schedule 12A to this Act.

(2E) In subsection (2D) above, “the authority” has the meaning given in paragraph 22(2) of Schedule 12A to this Act..

(5Yn is-adran (3), yn lle “subsections (2) to (2C)” rhodder “subsections (2) to (2E)”.

Mynediad at Wybodaeth: gwybodaeth esempt

3.  Yn lle Rhannau 4 i 6 o Atodlen 12A i Ddeddf 1972(1) (Gwybodaeth Esempt) rhodder y testun a geir yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn.

Llofnodwyd ar ran y Cynulliad Cenedlaethol o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(2).

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

21 Mawrth 2007