(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran prif gynghorau yng Nghymru. Mae'n gwneud newidiadau i Ran 5A (mynediad at gyfarfodydd a dogfennau awdurdodau, pwyllgorau ac is-bwyllgorau penodol) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (“Deddf 1972”) ac Atodlen 12A iddi (mynediad at wybodaeth: gwybodaeth esempt), sydd ill dwy yn ymwneud â mynediad at gyfarfodydd a dogfennau prif gynghorau a phwyllgorau ac is-bwyllgorau penodol y cynghorau hynny.

Mae adran 100A(4) (mynediad i gyfarfodydd prif gynghorau) o Ddeddf 1972 yn benodol yn caniatáu i brif gyngor gau'r cyhoedd allan o gyfarfod pryd bynnag y bo'n debygol y bydd gwybodaeth esempt yn cael ei datgelu i'r cyhoedd fel arall. Diffinnir gwybodaeth esempt yn adran 100I (gwybodaeth esempt a'r pwer i amrywio Atodlen 12A) o Ddeddf 1972 fel gwybodaeth y mae ei disgrifiadau, at ddibenion Rhan 5A, yn ddisgrifiadau a bennir am y tro yn Rhan 1 o Atodlen 12A.

Mae Rhannau 1 i 3 o Atodlen 12A yn gymwys o ran prif gynghorau yn Lloegr. Mae Rhannau 4 i 6 o'r Atodlen honno yn gymwys o ran prif gynghorau yng Nghymru. Mae'r Gorchymyn hwn yn rhoi Rhannau 4 i 6 newydd yn Atodlen 12A.

Yn y Rhan 4 newydd, disodlir rhai o'r disgrifiadau o wybodaeth a restrir yn y Rhan 4 bresennol gan ddisgrifiadau symlach a chliriach.

Yn y Rhan 5 newydd, disodlir rhai o'r cymwysterau gan brawf lles y cyhoedd.

Gwneir hefyd ddiwygiadau canlyniadol i adran 100F (hawliau mynediad ychwanegol at ddogfennau ar gyfer aelodau o brif gynghorau) o Ddeddf 1972.