Offerynnau Statudol Cymru

2008 Rhif 1063 (Cy.112)

IECHYD PLANHIGION, CYMRU

Rheoliadau Tatws Hadyd (Cymru) (Diwygio) 2008

Gwnaed

9 Ebrill 2008

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

10 Ebrill 2008

Yn dod i rym

6 Mai 2008

Mae Gweinidogion Cymru, y breiniwyd ynddynt bellach(1) y pwerau a roddwyd gan adran 16(1) o Ddeddf Amrywogaethau a Hadau Planhigion 1964(2), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau hynny.

Yn unol â'r adran honno mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â chynrychiolwyr y buddiannau hynny sy'n ymddangos i'r Gweinidogion fod a wnelont â'r Rheoliadau a ganlyn:

Enwi, cymhwyso a chychwyn

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Tatws Hadyd (Cymru) (Diwygio) 2008.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru a deuant i rym ar 6 Mai 2008.

Diwygiadau i Reoliadau Tatws Hadyd (Cymru) 2006

2.—(1Diwygir Rheoliadau Tatws Hadyd (Cymru) 2006(3) fel a ganlyn.

(2Yn Atodlen 3, yng Ngrwp IV o Ran II ac yng Ngrwp IV o Ran III—

(a)yn y golofn gyntaf, o dan “Y Crach Cyffredin (rhywogaeth Streptomyces)” yn lle “chwarter” rhodder “thraean”; a

(b)yn yr ail golofn, yn lle'r ffigur gyferbyn â “Y Crach Cyffredin (rhywogaeth Streptomyces )” rhodder “5.0%”.

Elin Jones

Y Gweinidog dros Faterion Gwledig, un o Weinidogion Cymru

9 Ebrill 2008

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Tatws Hadyd (Cymru) 2006 (O.S. 2006/2929 (Cy. 264)) fel ag i ddiwygio'r goddefiannau ar gyfer y Crach Cyffredin (rhywogaeth Streptomyces) fel a ganlyn—

(a)cynyddu'r goddefiant unigol ar datws hadyd cyn-sylfaenol o ddosbarth cyn-sylfaenol 1, cyn-sylfaenol 2, cyn-sylfaenol 3 neu cyn-sylfaenol 4 ac ar datws hadyd sylfaenol i 5%; a

(b)cynyddu cyfran yr arwynebedd a eill gael ei effeithio o chwarter i draean.

(1)

Yn rhinwedd O.S. 1978/272, O.S. 1999/672 a Deddf Llywodraeth Cymru 2006; mae'r swyddogaethau bellach wedi'u breinio yng Ngweinidogion Cymru.

(2)

1964 p.14; diwygiwyd adran 16 gan adran 4(1) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 (p.68) a pharagraff 5(1), (2) a (3) o Atodlen 4 iddi, O.S. 1977/1112, ac adran 2 o Ddeddf Amaeth 1986 (p.49); gweler adran 38(1) am ddiffiniad o “the Minister”.