Offerynnau Statudol Cymru

2008 Rhif 1081 (Cy.115)

AMAETHYDDIAETH, CYMRU

BRYNDIROEDD

Rheoliadau Llosgi Grug a Glaswellt etc. (Cymru) 2008

Gwnaed

14 Ebrill 2008

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

15 Ebrill 2008

Yn dod i rym

6 Mai 2008

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 20(1) o Ddeddf Ffermio Mynydd 1946(1) ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy(2), yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Llosgi Grug a Glaswellt etc. (Cymru) 2008.

(2Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 6 Mai 2008 ac maent yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli

2.  Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “ardal ucheldirol” (“upland area”) yw unrhyw ddarn o dir sydd wedi'i liwio'n binc ar y ddwy gyfrol o fapiau sydd wedi'u rhifo'n 1 a 2, y naill gyfrol a'r llall wedi'u marcio “Cyfrol o fapiau o ardaloedd ffermio llai ffafriol yng Nghymru”, wedi'u dyddio 20 Mai 1991, eu llofnodi gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru, a'u hadneuo yn Llyfrgell Llywodraeth Cynulliad Cymru, Parc Cathays, CF10 3NQ;

mae i'r term “hysbysiad llosgi” (“burning notice”) yr ystyr a roddir iddo yn rheoliad 8(1);

ystyr “llystyfiant penodedig” (“specified vegetation) yw grug, glaswellt garw, rhedyn, eithin neu vaccinium;

ystyr “tir rheilffordd” (“railway land”) yw tir sy'n rhan o unrhyw reilffordd sy'n weithredol;

ystyr “tymor llosgi” (“burning season”)—

(a)

o ran tir mewn ardal ucheldirol, yw'r cyfnod o 1 Hydref mewn un flwyddyn hyd at 31 Mawrth yn y flwyddyn ganlynol, a'r ddau ddyddiad yn gynhwysol; a

(b)

o ran tir nad yw mewn ardal ucheldirol, yw'r cyfnod o 1 Tachwedd mewn un flwyddyn hyd at 15 Mawrth yn y flwyddyn ganlynol, a'r ddau ddyddiad yn gynhwysol.

Eithrio tir sy'n cael ei drin fel gerddi preifat neu erddi rhandir

3.  Nid yw'r Rheoliadau hyn yn gymwys i dir sy'n cael ei drin fel gerddi preifat neu erddi rhandir.

Eithrio rhag darpariaethau penodol ynghylch llosgi ar dir rheilffordd

4.  Nid yw rheoliadau 6(1)(b) i (d), 8 a 9 yn gymwys i waith llosgi unrhyw lystyfiant penodedig a wneir ar dir rheilffordd drwy neu o dan awdurdod Network Rail.

Rheoleiddio llosgi

5.—(1Rhaid i berson beidio â dechrau llosgi unrhyw lystyfiant penodedig ar unrhyw dir rhwng machlud a chodiad haul.

(2Rhaid i berson beidio â llosgi unrhyw lystyfiant penodedig ar unrhyw dir oni bai—

(a)bod y person wedi llunio cynllun llosgi a'i fod yn bwriadu llosgi'n unol â darpariaethau'r cynllun hwnnw;

(b)yn y man lle mae'r gwaith llosgi yn cael ei wneud, bod digon o bersonau a chyfarpar i reoli a rheoleiddio'r gwaith llosgi yn ystod y cyfnod cyfan y bydd y gwaith yn mynd rhagddo;

(c)bod y person yn cymryd pob rhagofal rhesymol, cyn dechrau llosgi ac yn ystod yr holl gyfnod y bydd y gwaith yn mynd rhagddo, i atal niwed neu ddifrod i unrhyw dir cyfagos, neu i unrhyw berson neu unrhyw beth ar y tir hwnnw; ac

(ch)bod y person wedi rhoi hysbysiad ysgrifenedig, a hynny heb fod yn llai na 24 awr a heb fod yn fwy na 72 awr cyn dechrau llosgi ar unrhyw dir, o'r dyddiad neu'r dyddiadau y bwriedir llosgi, yr amser y bwriedir ei wneud, ac o'r man, a maint yr ardal, lle bwriedir ei wneud—

(i)i unrhyw berson arall a chanddo fuddiant yn y tir hwnnw naill ai fel perchennog neu feddiannydd, a

(ii)ac eithrio yn achos unrhyw losgi a wneir ar dir rheilffordd, i unrhyw berson arall y mae'n hysbys ei fod â gofal dros unrhyw dir sy'n gyfagos â'r tir lle mae'r llosgi i'w wneud, neu y gellid darganfod, drwy arfer diwydrwydd rhesymol, ei fod â gofal dros y tir hwnnw.

Gwahardd llosgi ac eithrio o dan drwydded

6.—(1Rhaid i berson beidio â gwneud unrhyw un o'r canlynol ac eithrio o dan drwydded (ac yn unol â thrwydded) a ddyroddir gan Weinidogion Cymru o dan reoliad 7—

(a)llosgi unrhyw lystyfiant penodedig y tu allan i'r tymor llosgi;

(b)llosgi, mewn tymor llosgi, ddarn unigol ag arwynebedd o fwy na 0.5 hectar o lystyfiant penodedig, neu ddau ddarn neu fwy sydd o fewn 5 metr i'w gilydd a'u harwynebedd cyfunol yn fwy na 0.5 hectar o lystyfiant penodedig, ac—

(i)y mae i'r darn unigol neu'r darn cyfunol hwnnw lethr o fwy na 45 gradd; neu

(ii)lle mae mwy na hanner y darn unigol neu'r darn cyfunol hwnnw wedi'i orchuddio gan greigiau neu farian sydd yn yr amlwg;

(c)llosgi, mewn llosgiad unigol, arwynebedd o fwy na 10 hectar o lystyfiant penodedig;

(ch)llosgi, mewn tymor llosgi, lystyfiant penodedig mewn modd sy'n dwyn i'r amlwg—

(i)darn unigol ag arwynebedd o fwy na 0.5 hectar o bridd moel, neu ddau ddarn neu fwy sydd o fewn 5 metr i'w gilydd ac y mae eu harwynebedd cyfan yn fwy na 0.5 hectar o bridd moel; neu

(ii) llecyn o bridd moel sydd—

(aa)yn ymestyn am fwy na 25 metr ar hyd glan cwrs dŵr; a

(bb)yn fwy na metr ei led ym mhob pwynt (am bellter parhaus o fwy na 25 metr), o'i fesur o ymyl glan y cwrs dŵr;

(d)mewn cysylltiad â llosgi llystyfiant penodedig, gadael pridd yn mudlosgi am fwy nag 48 awr.

(2Ym mharagraff (1)—

(a)ystyr “llecyn o bridd moel” (“area of bare soil”) yw llecyn o bridd nad oes dim mwy na 2% ohono wedi'i orchuddio â llystyfiant neu ysbwriel planhigion;

(b)ystyr “cwrs dŵr” (“watercourse”) yw unrhyw sianel naturiol neu artiffisial y mae dŵr yn llifo drwyddi, p'un ai am ran neu'r cyfan o'r amser, gan gynnwys afonydd, nentydd, ffosydd, gweunffosydd, traeniau, trychfeydd, cwlfertau, rhewynnau a sianeli gofer, ond heb gynnwys prif bibellau a phibellau eraill.

Darpariaethau ynghylch dyroddi neu wrthod trwyddedau

7.—(1Caiff person wneud cais i Weinidogion Cymru am drwydded sy'n caniatáu i'r ceisydd losgi llystyfiant penodedig y tu allan i'r tymor llosgi neu mewn modd sydd wedi'i wahardd fel arall gan reoliad 6(1).

(2Rhaid i unrhyw gais gael ei wneud mewn modd a bennir gan Weinidogion Cymru a rhaid iddo gael ei wneud heb fod yn llai nag 28 o ddiwrnodau cyn y dyddiad (neu'r dyddiad cyntaf os oes mwy nag un) y mae'r ceisydd yn bwriadu llosgi arno, ac—

(a)yn achos llosgiad (neu losgiadau) y bwriedir iddo (neu iddynt) ddigwydd yn ystod tymor llosgi, nid cyn diwedd y tymor llosgi blaenorol; neu

(b)yn achos llosgiad (neu losgiadau) y bwriedir iddo (neu iddynt) ddigwydd yn ystod tymor llosgi, nid mwy na 56 o ddiwrnodau cyn y dyddiad (neu'r dyddiad olaf os oes mwy nag un) y mae'r ceisydd yn bwriadu llosgi arno.

(3Ni chaiff Gweinidogion Cymru roi trwydded ond os ydynt wedi'u bodloni bod y llosgi arfaethedig i'w wneud yn unol â darpariaethau cynllun llosgi a luniwyd gan y ceisydd a'i fod—

(a)yn achos tir rheilffordd, yn angenrheidiol neu'n hwylus i gynnal a chadw'r tir yn dda neu at ddibenion rheoli plâu; neu

(b)yn achos pob tir arall, yn angenrheidiol neu'n hwylus—

(i)i warchod, gwella neu reoli'r amgylchedd naturiol er lles y cenedlaethau presennol a rhai'r dyfodol; neu

(ii)er diogelwch unrhyw berson.

(4Os yw Gweinidogion Cymru yn penderfynu—

(a)peidio â dyroddi trwydded o dan baragraff (3);

(b)dyroddi trwydded mewn cysylltiad â rhan yn unig o'r tir y mae'r cais yn ymwneud ag ef; neu

(c)dyroddi trwydded yn ddarostyngedig i unrhyw amodau,

rhaid iddynt hysbysu'r ceisydd mewn ysgrifen o'u penderfyniad ac o'r rhesymau drosto.

Hysbysiadau llosgi

8.—(1Os yw Gweinidogion Cymru yn credu bod llystyfiant penodedig wedi'i losgi'n groes i'r Rheoliadau hyn, cânt gyflwyno hysbysiad (“hysbysiad llosgi”) i feddiannydd y tir o dan sylw yn ei gwneud yn ofynnol iddo eu hysbysu, yn y modd a bennir ganddynt yn yr hysbysiad llosgi, o unrhyw fwriad i losgi unrhyw lystyfiant penodedig ar unrhyw dir y mae'n ei feddiannu o ddyddiad cyflwyno'r hysbysiad hwnnw.

(2Ni chaniateir i hysbysiad llosgi fod yn gymwys am fwy na dwy flynedd o ddyddiad ei gyflwyno.

Sylwadau yn erbyn hysbysiadau llosgi

9.—(1Caiff person, y mae hysbysiad llosgi wedi'i gyflwyno iddo, gyflwyno sylwadau yn erbyn yr hysbysiad hwnnw i berson a benodir i'r perwyl hwnnw gan Weinidogion Cymru.

(2Rhaid i unrhyw sylwadau o'r fath gael eu cyflwyno o fewn 28 o ddiwrnodau i ddyddiad yr hysbysiad llosgi.

(3Rhaid i'r person penodedig ystyried y sylwadau a chyflwyno adroddiad ysgrifenedig i Weinidogion Cymru.

(4Rhaid i Weinidogion Cymru roi hysbysiad ysgrifenedig o'u dyfarniad terfynol a'r rhesymau drosto.

(5Pan fo person yn cyflwyno sylwadau yn erbyn hysbysiad llosgi, mae'r hysbysiad llosgi'n cael effaith hyd nes y caiff ei ddirymu gan Weinidogion Cymru, ei dynnu'n ôl ganddynt neu hyd nes y daw ei gyfnod i ben.

Diwygio Rheoliadau Cynllun Taliad Sengl a Chynlluniau Cymorth y Polisi Amaethyddol Cyffredin (Trawsgydymffurfio) (Cymru) 2004

10.  Mae Rheoliadau Cynllun Taliad Sengl a Chynlluniau Cymorth y Polisi Amaethyddol Cyffredin (Trawsgydymffurfio) (Cymru) 2004(3) wedi'u diwygio drwy roi'r canlynol yn lle paragraff 16 (Llosgi grug a glaswellt) o'r Atodlen—

16.(1) Rhaid i ffermwr beidio â dechrau llosgi grug, glaswellt garw, rhedyn, eithin na vaccinium ar unrhyw dir rhwng machlud a chodiad haul.

(2) Rhaid i ffermwr beidio â llosgi grug, glaswellt garw, rhedyn na vaccinium oni bai—

(a)ei fod wedi llunio cynllun llosgi a'i fod yn bwriadu llosgi'n unol â darpariaethau'r cynllun hwnnw;

(b)yn y man lle mae'r gwaith llosgi yn cael ei wneud, bod digon o bersonau a chyfarpar i reoli a rheoleiddio'r llosgi yn ystod y cyfnod cyfan y bydd y gwaith hwnnw'n mynd rhagddo;

(c)ei fod, cyn dechrau llosgi ac yn ystod y cyfnod cyfan y bydd y gwaith yn mynd rhagddo, yn cymryd pob rhagofal rhesymol i atal niwed neu ddifrod i unrhyw dir cyfagos, neu i unrhyw berson neu beth ar y tir hwnnw;

(ch)bod y person wedi rhoi hysbysiad ysgrifenedig, a hynny heb fod yn llai na 24 awr a heb fod yn fwy na 72 awr cyn dechrau llosgi ar unrhyw dir, o'r dyddiad neu'r dyddiadau y bwriedir llosgi, yr amser y bwriedir ei wneud, ac o'r man, a maint yr ardal, lle bwriedir ei wneud—

(i)i unrhyw berson arall a chanddo fuddiant yn y tir hwnnw naill ai fel perchennog neu feddiannydd, a

(ii)ac eithrio yn achos unrhyw losgi a wneir ar dir rheilffordd, i unrhyw berson arall y mae'n hysbys ei fod â gofal dros unrhyw dir sy'n gyfagos â'r tir lle mae'r llosgi i'w wneud, neu y gellid darganfod, drwy arfer diwydrwydd rhesymol, ei fod â gofal dros y tir hwnnw.

(3) Rhaid i ffermwr beidio â llosgi grug, glaswellt garw, rhedyn, eithin na vaccinium—

(a)ar dir sydd mewn ardal ucheldirol, yn ystod y cyfnod o 1 Ebrill i 30 Medi mewn unrhyw flwyddyn, a'r ddau ddyddiad yn gynhwysol; neu

(b)ar bob tir arall, yn ystod y cyfnod o 16 Mawrth i 31 Hydref mewn unrhyw flwyddyn, a'r ddau ddyddiad yn gynhwysol,

ac eithrio o dan drwydded (ac yn unol â thrwydded) a ddyroddir gan Weinidogion Cymru o dan reoliad 7 o Reoliadau Llosgi Grug a Glaswellt etc. (Cymru) 2008.

(4) Yn is-baragraff (3), ystyr “ardal ucheldirol” (“upland area”) yw unrhyw ddarn o dir sydd wedi'i liwio'n binc ar y ddwy gyfrol o fapiau sydd wedi'u rhifo'n 1 a 2, y naill gyfrol a'r llall wedi'u marcio “Cyfrol o fapiau o ardaloedd ffermio llai ffafriol yng Nghymru”, wedi'u dyddio 20 Mai 1991, eu llofnodi gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru, a'u hadneuo yn Llyfrgell Llywodraeth Cynulliad Cymru, Parc Cathays, CF10 3NQ.

Dirymu

11.  Mae'r offerynnau canlynol wedi'u dirymu o ran Cymru —

(a)Rheoliadau Grug a Glaswellt etc. (Llosgi) 1986(4);

(b)Rheoliadau Grug a Glaswellt etc. (Llosgi) (Diwygio) 1987(5).

Elin Jones

Y Gweinidog dros Faterion Gwledig, un o Weinidogion Cymru

14 Ebrill 2008

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn dirymu Rheoliadau Grug a Glaswellt etc. (Llosgi) 1986 (“y Rheoliadau blaenorol”) o ran Cymru. Mae'r Rheoliadau hyn yn ailddeddfu rhai o ddarpariaethau'r Rheoliadau blaenorol a hefyd yn rhagnodi darpariaethau newydd a fydd yn rheoli gwaith llosgi grug, glaswellt garw, rhedyn, eithin a vaccinium.

Fel yn achos y Rheoliadau blaenorol, nid yw'r Rheoliadau hyn yn gymwys i erddi preifat na gerddi rhandir (er nad oes eithriad bellach ar gyfer parciau difyrion) (rheoliad 3) ac nid yw rhai o'r darpariaethau sydd ynddynt yn gymwys i dir rheilffordd (rheoliad 4).

Fel yn achos y Rheoliadau blaenorol, mae'r Rheoliadau hyn yn gwahardd dechrau llosgi rhwng machlud a chodiad haul, ac yn ei gwneud yn ofynnol bod digon o bersonau a chyfarpar ar gael i reoli llosgiadau a chymryd pob rhagofal rhesymol i atal llosgiadau rhag peri niwed neu ddifrod (rheoliad 5). Mae'n ofynnol bellach i bersonau sy'n llosgi lunio cynllun llosgi a llosgi'n unol â'r cynllun hwnnw. Mae'n dal yn ofynnol i bersonau sy'n llosgi hysbysu eraill sydd â buddiant yn y tir y mae'r llosgi i'w wneud arno, neu dir sy'n gyfagos ag ef, o'u bwriad i losgi.

Mae rheoliad 6(1)(a) yn gwahardd llosgi heb drwydded y tu allan i'r “tymor llosgi” (a ddiffinnir yn rheoliad 2 ac sy'n gyfnod hwy ar gyfer tir yn yr ucheldiroedd nag ar gyfer tir sydd y tu allan iddo). Mae hyn yn adlewyrchu'r Rheoliadau blaenorol. Mae rheoliad 6(1)(b) i (d) yn gwahardd ymgymryd â rhai arferion llosgi ychwanegol heb drwydded. Mae rheoliad 7 yn sefydlu gweithdrefn newydd ar gyfer gwneud cais am drwyddedau.

Mae rheoliad 8 yn ddarpariaeth newydd sy'n rhoi i Weinidogion Cymru bŵer, pan fônt yn credu bod llosgi wedi'i wneud yn groes i'r Rheoliadau hyn, i'w gwneud yn ofynnol i feddiannydd y tir o dan sylw eu hysbysu o losgiadau'r dyfodol am gyfnod o hyd at ddwy flynedd. Mae rheoliad 9 yn gwneud darpariaeth i bersonau gael cyflwyno sylwadau i berson a benodir gan Weinidogion Cymru yn erbyn penderfyniad i osod gofyniad o'r fath.

Mae rheoliad 10 yn diwygio Rheoliadau Cynllun Taliad Sengl a Chynlluniau Cymorth y Polisi Amaethyddol Cyffredin (Trawsgydymffurfio) (Cymru) 2004 yn y fath fodd ag i wneud gofynion rheoliadau 5 a 6(1)(a) yn ddarostyngedig i drawsgydymffurfio o dan y Cynllun Taliad Sengl. O'r blaen, yr oedd y gofyniad i hysbysu o fwriad i losgi hefyd yn ddarostyngedig i drawsgydymffurfio.

Mae'r pŵer i fynd ar dir a'i arolygu at ddibenion y Rheoliadau hyn yn cael ei reoli gan adran 34 o Ddeddf Ffermio Mynydd 1946, ac mae adran 20(2) o'r Ddeddf honno'n darparu bod unrhyw berson sy'n mynd yn groes i unrhyw un o ddarpariaethau'r Rheoliadau hyn yn agored, o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy nad yw'n uwch na lefel 3 ar y raddfa safonol.

Mae asesiad effaith rheoleiddiol llawn wedi'i gynnal mewn cysylltiad â'r Rheoliadau hyn. Gellir cael copïau oddi wrth Lywodraeth Cynulliad Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.

(2)

O ran Cymru, trosglwyddwyd swyddogaethau'r Gweinidog i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn rhinwedd Erthygl 2 o O.S. 1999/672 ac Atodlen 1 iddi. Yn rhinwedd adrannau 58 a 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 a pharagraffau 26 a 30 iddi, mae'r swyddogaethau hyn bellach wedi'u breinio yng Ngweinidogion Cymru.

(3)

O.S. 2004/3280 (Cy. 284), y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.

(4)

O.S. 1986/428, a ddiwygiwyd gan O.S. 1987/1208, 2003/1615.

(5)

O.S. 1987/1208, a ddiwygiwyd gan O.S. 2003/1615.