Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn dirymu Rheoliadau Grug a Glaswellt etc. (Llosgi) 1986 (“y Rheoliadau blaenorol”) o ran Cymru. Mae'r Rheoliadau hyn yn ailddeddfu rhai o ddarpariaethau'r Rheoliadau blaenorol a hefyd yn rhagnodi darpariaethau newydd a fydd yn rheoli gwaith llosgi grug, glaswellt garw, rhedyn, eithin a vaccinium.

Fel yn achos y Rheoliadau blaenorol, nid yw'r Rheoliadau hyn yn gymwys i erddi preifat na gerddi rhandir (er nad oes eithriad bellach ar gyfer parciau difyrion) (rheoliad 3) ac nid yw rhai o'r darpariaethau sydd ynddynt yn gymwys i dir rheilffordd (rheoliad 4).

Fel yn achos y Rheoliadau blaenorol, mae'r Rheoliadau hyn yn gwahardd dechrau llosgi rhwng machlud a chodiad haul, ac yn ei gwneud yn ofynnol bod digon o bersonau a chyfarpar ar gael i reoli llosgiadau a chymryd pob rhagofal rhesymol i atal llosgiadau rhag peri niwed neu ddifrod (rheoliad 5). Mae'n ofynnol bellach i bersonau sy'n llosgi lunio cynllun llosgi a llosgi'n unol â'r cynllun hwnnw. Mae'n dal yn ofynnol i bersonau sy'n llosgi hysbysu eraill sydd â buddiant yn y tir y mae'r llosgi i'w wneud arno, neu dir sy'n gyfagos ag ef, o'u bwriad i losgi.

Mae rheoliad 6(1)(a) yn gwahardd llosgi heb drwydded y tu allan i'r “tymor llosgi” (a ddiffinnir yn rheoliad 2 ac sy'n gyfnod hwy ar gyfer tir yn yr ucheldiroedd nag ar gyfer tir sydd y tu allan iddo). Mae hyn yn adlewyrchu'r Rheoliadau blaenorol. Mae rheoliad 6(1)(b) i (d) yn gwahardd ymgymryd â rhai arferion llosgi ychwanegol heb drwydded. Mae rheoliad 7 yn sefydlu gweithdrefn newydd ar gyfer gwneud cais am drwyddedau.

Mae rheoliad 8 yn ddarpariaeth newydd sy'n rhoi i Weinidogion Cymru bŵer, pan fônt yn credu bod llosgi wedi'i wneud yn groes i'r Rheoliadau hyn, i'w gwneud yn ofynnol i feddiannydd y tir o dan sylw eu hysbysu o losgiadau'r dyfodol am gyfnod o hyd at ddwy flynedd. Mae rheoliad 9 yn gwneud darpariaeth i bersonau gael cyflwyno sylwadau i berson a benodir gan Weinidogion Cymru yn erbyn penderfyniad i osod gofyniad o'r fath.

Mae rheoliad 10 yn diwygio Rheoliadau Cynllun Taliad Sengl a Chynlluniau Cymorth y Polisi Amaethyddol Cyffredin (Trawsgydymffurfio) (Cymru) 2004 yn y fath fodd ag i wneud gofynion rheoliadau 5 a 6(1)(a) yn ddarostyngedig i drawsgydymffurfio o dan y Cynllun Taliad Sengl. O'r blaen, yr oedd y gofyniad i hysbysu o fwriad i losgi hefyd yn ddarostyngedig i drawsgydymffurfio.

Mae'r pŵer i fynd ar dir a'i arolygu at ddibenion y Rheoliadau hyn yn cael ei reoli gan adran 34 o Ddeddf Ffermio Mynydd 1946, ac mae adran 20(2) o'r Ddeddf honno'n darparu bod unrhyw berson sy'n mynd yn groes i unrhyw un o ddarpariaethau'r Rheoliadau hyn yn agored, o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy nad yw'n uwch na lefel 3 ar y raddfa safonol.

Mae asesiad effaith rheoleiddiol llawn wedi'i gynnal mewn cysylltiad â'r Rheoliadau hyn. Gellir cael copïau oddi wrth Lywodraeth Cynulliad Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.