2008 Rhif 1090 (Cy.116)

ANIFEILIAID, CYMRUIECHYD ANIFEILIAID

Rheoliadau'r Tafod Glas (Cymru) 2008

Gwnaed

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Yn dod i rym

Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi1 at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 19722 o ran polisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd.

Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth at ddiben a grybwyllir yn adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 ac mae'n ymddangos i Weinidogion Cymru ei bod yn hwylus i'r cyfeiriad at Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1266/2007 (ar weithredu rheolau ar gyfer Cyfarwyddeb y Cyngor 2000/75/EC ynghylch rheoli a monitro rhywogaethau penodol o anifeiliaid a allai gael eu heintio o ran y tafod glas, gwyliadwriaeth o'r rhywogaethau hynny a chyfyngiadau ar eu symud3) gael ei ddehongli fel cyfeiriad at y Rheoliad hwnnw fel y'i diwygiwyd o bryd i'w gilydd.

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 a pharagraff 1A o Atodlen 2 i'r Ddeddf honno4.