RHAN 1Rhagarweiniad

Enwi, cymhwyso a chychwyn1

Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Tafod Glas (Cymru) 2008; maent yn gymwys o ran Cymru ac yn dod i rym ar 26 Ebrill 2008.

Dehongli2

1

Yn y Rheoliadau hyn—

  • ystyr “anifail” (“animal”) yw anifail sy'n cnoi cil (ac at ddibenion y Rheoliadau hyn ystyrir bod pob camelid yn anifail sy'n cnoi cil) ac ystyr “carcas” (“carcase”), “embryo” (“embryo”), “ofwm” (“ovum”) a “semen” (“semen”) yw carcas, embryo, ofwm a semen anifail o'r fath;

  • ystyr “arolygydd” (“inspector”) yw arolygydd a benodwyd yn arolygydd o'r fath gan Weinidogion Cymru neu awdurdod lleol at ddibenion y Rheoliadau hyn ac, oni fydd y cyd-destun yn mynnu fel arall, mae'n cynnwys arolygydd milfeddygol;

  • ystyr “arolygydd milfeddygol” (“veterinary inspector”) yw person a benodwyd yn arolygydd o'r fath gan Weinidogion Cymru at ddibenion y Rheoliadau hyn;

  • ystyr “awdurdod lleol” (“local authority”), o ran ardal, yw'r cyngor sir neu'r cyngor bwrdeistref sirol ar gyfer yr ardal honno;

  • ystyr “brechlyn” (“vaccine”) yw brechlyn yn erbyn feirws y tafod glas;

  • ystyr “gwybedyn” (“midge”) yw pryfyn o'r genws Culicoides;

  • mae “mangre” (“premises”) yn cynnwys unrhyw fan neu le;

  • ystyr “mangre heintiedig” (“infected premises”) yw mangre lle mae bodolaeth y tafod glas wedi'i chadarnhau; ac

  • ystyr “parth rheoli” (“control zone”) yw parth y cyfeirir ato yn rheoliad 12.

2

Rhaid i unrhyw awdurdodiad, trwydded, hysbysiad neu ddynodiad o dan y Rheoliadau hyn fod yn ysgrifenedig, caiff fod yn ddarostyngedig i amodau a chaniateir diwygio, atal, neu ddirymu unrhyw un ohonynt drwy hysbysiad ar unrhyw bryd.

Esemptiadau3

Nid yw'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran—

a

unrhyw beth y mae person wedi'i awdurdodi i'w wneud drwy drwydded a roddwyd o dan Orchymyn Pathogenau Anifeiliaid Penodedig 19985;

b

unrhyw ganolfan gwarantîn neu gyfleuster cwarantîn a gymeradwywyd o dan Reoliadau Anifeiliaid a Chynhyrchion Anifeiliaid (Mewnforio ac Allforio) (Cymru) 20066;

c

rhoi brechlyn at ddibenion ymchwil yn unol â thystysgrif prawf anifeiliaid a roddwyd o dan Reoliadau Meddyginiaethau Milfeddygol 20077.

Trwyddedau4

1

Rhaid i berson sy'n symud unrhyw beth o dan awdurdod trwydded benodol a roddir o dan y Rheoliadau hyn—

a

cario'r drwydded neu gopi ohoni gydag ef bob amser yn ystod y symudiad trwyddedig;

b

dangos, os gofynnir iddo wneud hynny gan arolygydd milfeddygol, arolygydd neu swyddog i Weinidogion Cymru, y drwydded neu'r copi a chaniatáu i gopi neu ddyfyniad ohoni neu ohono gael ei gymryd.

2

Rhaid i berson sy'n symud unrhyw beth o dan awdurdod trwydded gyffredinol a roddir o dan y Rheoliadau hyn—

a

cario, ar bob adeg yn ystod y symudiad, nodyn traddodi sy'n cynnwys manylion am y canlynol—

i

yr hyn sy'n cael ei gludo, gan gynnwys faint ohono;

ii

dyddiad y symudiad;

iii

enw'r traddodwr;

iv

cyfeiriad y fangre y dechreuodd y symudiad ohoni;

v

enw'r traddodai;

vi

cyfeiriad mangre pen y daith;

b

os gofynnir iddo wneud hynny gan arolygydd milfeddygol, arolygydd neu swyddog i Weinidogion Cymru, dangos y nodyn traddodi a chaniatáu i gopi neu ddyfyniad ohono gael ei gymryd.

Trwyddedau a roddwyd y tu allan i Gymru5

Ac eithrio pan fo Gweinidogion Cymru wedi cyfarwyddo fel arall a chan eithrio mewn cysylltiad â thrwydded i gael brechlyn neu drwydded i frechu, mae trwyddedau a roddwyd yn yr Alban neu yn Lloegr ar gyfer gweithgareddau y gellid eu trwyddedu yng Nghymru o dan y Rheoliadau hyn yn cael effaith yng Nghymru fel petaent yn drwyddedau a roddwyd o dan y Rheoliadau hyn.

Datgan parthau6

O ran datganiadau parthau—

a

rhaid iddynt fod mewn ysgrifen;

b

caniateir eu diwygio drwy ddatganiad pellach ar unrhyw adeg;

c

rhaid iddynt ddynodi hyd a lled y parth sy'n cael ei ddatgan; ac

ch

ni chaniateir eu dirymu ond drwy ddatganiad pellach.

Mangreoedd sy'n pontio parthau7

1

Ymdrinnir â mangre sy'n rhannol oddi mewn i barth rheoli dros dro ac nad yw oddi mewn i unrhyw barth arall fel mangre sydd oddi mewn i'r parth rheoli dros dro.

2

Ymdrinnir â mangre sy'n rhannol oddi mewn i barth rheoli fel petai oddi mewn i'r parth hwnnw.

3

Ymdrinnir â mangre sy'n rhannol oddi mewn i barth brechu fel petai oddi mewn i'r parth hwnnw.

4

Fel arall—

a

os yw parth dan gyfyngiadau wedi'i rannu'n barth gwarchod a pharth gwyliadwriaeth, ymdrinnir â mangre sy'n rhannol oddi mewn i'r parth gwarchod ac yn rhannol oddi mewn i'r parth gwyliadwriaeth fel petai oddi mewn i'r parth gwarchod;

b

ymdrinnir â mangre sy'n rhannol oddi mewn i barth dan gyfyngiadau ac yn rhannol oddi mewn i ardal lle nad oes rheolaethau ar gyfer y tafod glas fel petai'r fangre honno oddi mewn i'r parth dan gyfyngiadau; ac

c

ymdrinnir â mangre sy'n rhannol oddi mewn i barth dan gyfyngiadau ac yn rhannol oddi mewn i barth rheoli dros dro fel petai oddi mewn i'r parth dan gyfyngiadau.