Enwi, cymhwyso a chychwyn
1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Enseffalopathïau Sbyngffurf Trosglwyddadwy (Cymru) (Diwygio) 2008, maent yn gymwys o ran Cymru a deuant i rym ar 26 Ebrill 2008.
Diwygio Rheoliadau Enseffalopathïau Sbyngffurf Trosglwyddadwy (Cymru) 2006
2.—(1) Diwygir Rheoliadau Enseffalopathïau Sbyngffurf Trosglwyddadwy (Cymru) 2006 (1) yn unol â pharagraffau (2) i (4).
(2) ym mharagraff (1) o reoliad 2 (dehongli)—
(a)dileer y gair “ac” sy'n digwydd yn union ar ôl y diffiniad o “Rheoliad TSE y Gymuned” a mewnosoder cyn y diffiniad o “TSE” y diffiniad a ganlyn—
“ystyr “Rheoliad TSE diwygiedig y Gymuned” yw Rheoliad TSE y Gymuned fel y'i diwygiwyd gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 722/2007 sy'n diwygio Atodiadau II, V, VI, VIII, IX ac XI i Reoliad (EC) Rhif 999/2001 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod rheolau ar gyfer atal, rheoli a chael gwared ar enseffalopathïau sbyngffurf trosglwyddadwy penodol(2) a Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 357/2008 sy'n diwygio Atodiad V i Reoliad (EC) Rhif 999/2001 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod rheolau ar gyfer atal, rheoli a chael gwared ar enseffalopathïau sbyngffurf trosglwyddadwy penodol”;(3) a mewnosoder y gair “ac” yn union ar ei ôl;
(b)yn y diffiniad o “safle torri”, yn lle'r cyfeiriad at baragraff 10(2)(c) o Atodlen 6, rhodder cyfeiriad at baragraff 9 (2)(b) (iii) o'r Atodlen honno; ac
(c)ar unwaith ar ôl y diffiniad o “y Cynulliad Cenedlaethol” mewnosoder y diffiniad a ganlyn —
“mae i “deunydd risg penodedig” (ac eithrio fel a nodir ym mharagraff 20(6) o Atodlen 6) yr ystyr sydd i'r ymadrodd “specified risk material” yn erthygl 3.1(g) o Reoliad TSE diwygiedig y Gymuned;”.
(3) Yn lle Atodlen 6 (deunydd risg penodedig, cig wedi'i wahanu'n fecanyddol a dulliau cigydda) rhodder yr Atodlen a osodir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn.
(4) Yn Atodlen 7 (cyfyngiadau ar anfon i Aelod-wladwriaethau eraill ac i drydydd gwledydd) yn lle paragraff 2 (allforion i drydydd gwledydd) rhodder y paragraff a ganlyn—
“2. Mae unrhyw berson sy'n methu â chydymffurfio â phwynt 10.3 o Atodiad V i Reoliad TSE diwygiedig y Gymuned yn euog o dramgwydd.”.
Dirymu
3. Dirymir Rheoliadau Esgyrn Cig Eidion 1997(4) i'r graddau y maent yn gymwys o ran Cymru.
Gwenda Thomas
O dan awdurdod y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru.
25 Ebrill 2008