- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
3. Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau'r Rheoliadau hyn mae tâl cosb yn daladwy o ran cerbyd y cyflawnwyd yn ei gylch dramgwydd parcio o fewn paragraff 4 o Atodlen 7 i Ddeddf 2004 mewn ardal gorfodi sifil yng Nghymru.
4.—(1) Pan fydd tramgwydd parcio'n digwydd, penderfynir pwy yw'r person sydd i dalu'r tâl cosb am y tramgwydd yn unol â darpariaeth ganlynol y rheoliad hwn.
(2) Mewn achos nad yw'n dod o fewn paragraff (3), bydd y tâl cosb yn daladwy gan y person a oedd yn berchennog y cerbyd a oedd yn destun y tramgwydd ar yr adeg berthnasol.
(3) Os bydd—
(a)y cerbyd yn gerbyd a yrrir yn fecanyddol a oedd, ar yr adeg berthnasol, yn cael ei logi gan ffyrm llogi cerbydau o dan gytundeb llogi;
(b)y person sy'n llogi'r cerbyd wedi llofnodi datganiad yn cydnabod ei atebolrwydd o ran unrhyw hysbysiad o dâl cosb a gyflwynir o ran unrhyw dramgwydd parcio sy'n ymwneud â'r cerbyd yn ystod cyfnod y cytundeb llogi; ac
(c)perchennog y cerbyd, mewn ymateb i hysbysiad i berchennog a gyflwynir iddo, wedi gwneud sylwadau ar y sail a bennir yn rheoliad 4(4)(ch) o'r Rheoliadau Sylwadau ac Apelau a bod yr awdurdod gorfodi wedi derbyn y sylwadau hynny,
bydd y tâl cosb yn daladwy gan y person y llogwyd y cerbyd ganddo ac ymdrinnir â'r person hwnnw fel pe bai'n berchennog y cerbyd ar yr adeg berthnasol at ddibenion y Rheoliadau hyn.
(4) Yn y rheoliad hwn—
(a)mae i “cytundeb llogi” a “ffyrm llogi cerbydau” yr ystyr sydd i “hiring agreement” a “vehicle-hire firm” yn adran 66 o Ddeddf Tramgwyddwyr Traffig Ffyrdd 1988(1); a
(b)ystyr “yr adeg berthnasol” (“the material time”) yw'r adeg y dywedir bod y tramgwydd sy'n peri'r tâl cosb wedi digwydd.
5. Ni osodir tâl cosb ac eithrio—
(a)ar y sail y cynhyrchir cofnod gan ddyfais a gymeradwyir; neu
(b)ar sail yr wybodaeth a roddir gan swyddog gorfodi sifil o ran ymddygiad y bydd y swyddog hwnnw wedi sylwi arno.
6.—(1) Ni cheir cychwyn achos troseddol ac ni cheir cyflwyno hysbysiad o gosb benodedig o ran unrhyw dramgwydd parcio sy'n digwydd mewn ardal gorfodi sifil, ac eithrio tramgwydd croesfan i gerddwyr.
(2) Ni fydd tâl cosb yn daladwy o ran tramgwydd croesfan i gerddwyr—
(a)os yw'r ymddygiad sy'n gwneud y tramgwydd yn destun achos troseddol; neu
(b)os rhoddwyd hysbysiad o gosb benodedig, fel y'i diffinnir gan adran 52 o Ddeddf Tramgwyddwyr Traffig Ffyrdd 1988(2), ynglŷn â'r ymddygiad hwnnw.
(3) Er gwaethaf darpariaethau paragraff (2)—
(a)os talwyd tâl cosb ynglŷn â thramgwydd croesfan i gerddwyr; a
(b)os yw'r amgylchiadau fel a grybwyllir ym mharagraff (2)(a) neu (b),
rhaid i'r awdurdod gorfodi, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl i'r amgylchiadau ddod i'w sylw, ad-dalu swm y tâl cosb.
Diwygiwyd adran 52 gan Ddeddf Mynediad at Gyfiawnder 1999 (p.22), paragraff 147, gan Ddeddf y Llysoedd 2003 (p.39) Atodlen 8, paragraff 314 a chan Ddeddf Cyfraith Statud (Diddymiadau) 2004 (p.14), Atodlen 1, Rhan 14.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: