(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Addysg (Ffioedd a Dyfarniadau) (Cymru) 2007 (“Rheoliadau 2007”).

Mae rheoliadau 4 a 5 yn gwneud diwygiadau i reoliad 2 a'r Atodlen i Reoliadau 2007 i alluogi preswyliad yn y tiriogaethau tramor i gael ei drin fel preswyliad cymwys mewn achosion penodol ac i'w gwneud yn glir y bydd myfyrwyr sy'n symud o'r Ynysoedd i'r Deyrnas Unedig at ddibenion ymgymryd â'u cwrs yn cael eu trin fel rhai sy'n preswylio fel arfer yn yr Ynysoedd.

Ymdrinnir â gwallau teipograffyddol yn rheoliad 2(4)(ch) a 2(6)(ch) o destun Cymraeg Rheoliadau 2007 yn rheoliad 4.