- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
78.—(1) Caiff Gweinidogion Cymru adennill unrhyw ordaliad grant mewn perthynas â ffioedd oddi ar yr awdurdod academaidd.
(2) Os bydd yn ofynnol gan Weinidogion Cymru, bydd yn rhaid i fyfyriwr dysgu o bell cymwys ad-dalu unrhyw swm a dalwyd iddo o dan y Rhan hon ac sydd am ba reswm bynnag yn fwy na swm y grant y mae ganddo hawl iddo o dan y Rhan hon.
(3) Rhaid i Weinidogion Cymru adennill gordaliad grant ar gyfer llyfrau, teithio a gwariant arall a grant at gostau byw myfyrwyr dysgu o bell anabl oni bai eu bod yn ystyried ei bod yn amhriodol i wneud hynny.
(4) Y dulliau o adennill yw—
(a)tynnu'r gordaliad o unrhyw fath o grant sy'n daladwy i'r myfyriwr o bryd i'w gilydd yn unol â rheoliadau a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan adran 22 o'r Ddeddf ;
(b)cymryd unrhyw gamau eraill sydd ar gael i Weinidogion Cymru er mwyn adennill gordaliad.
(5) Mae taliad o grant at gostau byw myfyrwyr dysgu o bell anabl a wnaed cyn y dyddiad perthnasol yn ordaliad os yw'r myfyriwr yn rhoi'r gorau i'r cwrs cyn y dyddiad perthnasol oni bai bod Gweinidogion Cymru yn penderfynu'n wahanol.
(6) Yn y rheoliad hwn, y “dyddiad perthnasol” (“relevant date”) yw dyddiad dechrau gwirioneddol tymor cyntaf y flwyddyn academaidd dan sylw.
(7) Dan yr amgylchiadau a roddir ym mharagraff (8) neu (9), ceir gordaliad o'r grant at gostau byw myfyrwyr dysgu o bell anabl oni bai bod Gweinidogion Cymru yn penderfynu'n wahanol.
(8) Yr amgylchiadau yw—
(a)bod Gweinidogion Cymru yn cymhwyso'r cyfan neu ran o'r grant at gostau byw myfyrwyr dysgu o bell anabl ar gyfer prynu offer arbenigol ar ran y myfyriwr dysgu o bell cymwys;
(b)bod cyfnod cymhwystra'r myfyriwr yn terfynu ar ôl y dyddiad perthnasol; ac
(c)nad yw'r offer wedi'i ddanfon at y myfyriwr cyn terfyn cyfnod cymhwystra'r myfyriwr.
(9) Yr amgylchiadau yw—
(a)bod cyfnod cymhwystra'r myfyriwr dysgu o bell cymwys yn terfynu ar ôl y dyddiad perthnasol; a
(b)bod taliad grant at gostau byw myfyrwyr rhan-amser anabl yn cael ei wneud ar gyfer offer arbenigol i'r myfyriwr ar derfyn y cyfnod cymhwystra.
(10) Pan fo gordaliad o'r grant at gostau byw myfyrwyr dysgu o bell anabl, caiff Gweinidogion Cymru dderbyn dychweliad offer arbenigol a brynwyd â'r grant fel modd i adennill y cyfan neu ran o'r gordaliad os ydynt yn ystyried ei bod yn briodol i wneud hynny.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: