- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
2.—(1) Myfyriwr cymwys annibynnol yw myfyriwr cymwys ym mhob achos —
(a)lle mae'n 25 oed neu drosodd ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn berthnasol;
(b)lle mae'n briod neu lle mae mewn partneriaeth sifil cyn dechrau'r flwyddyn berthnasol, p'un a yw'r briodas neu'r bartneriaeth sifil yn dal yn bod neu beidio;
(c)lle nad oes ganddo riant yn fyw;
(ch)lle mae Gweinidogion Cymru wedi'u bodloni na ellir dod o hyd i'r naill neu'r llall o'i rieni neu nad yw'n rhesymol ymarferol cysylltu â'r naill na'r llall ohonynt;
(d)lle nad yw wedi cyfathrebu â'r naill na'r llall o'i rieni am gyfnod o flwyddyn cyn dechrau'r flwyddyn berthnasol neu lle y gall, ym marn Gweinidogion Cymru, ddangos ar seiliau eraill ei fod wedi ymddieithrio oddi wrth ei rieni mewn ffordd lle nad oes modd cymodi;
(dd)pan yw wedi bod dan ofal awdurdod lleol o fewn ystyr adran 22 o Ddeddf Plant 1989(1) a hynny drwy gydol unrhyw gyfnod o dri mis yn gorffen ar neu ar ôl y dyddiad y cyrhaeddodd 16 oed a chyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs (“y cyfnod perthnasol”) ar yr amod nad yw wedi bod mewn gwirionedd ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod perthnasol o dan ofal neu reolaeth ei rieni;
(e)lle mae ei rieni'n preswylio y tu allan i'r Gymuned Ewropeaidd a bod Gweinidogion Cymru wedi'u bodloni naill ai —
(i)y byddai asesu incwm yr aelwyd drwy gyfeirio at eu hincwm gweddilliol yn gosod y rhieni hynny mewn perygl; neu
(ii)na fyddai'n rhesymol ymarferol i'r rhieni hynny anfon unrhyw arian perthnasol i'r Deyrnas Unedig o ganlyniad i gyfrifo unrhyw gyfraniad o dan baragraff 8 neu 9;
(f)lle mae paragraff 5(9) yn gymwys a lle mae'r rhiant y barnodd Gweinidogion Cymru mai'r rhiant hwnnw oedd y mwyaf priodol at ddibenion y paragraff hwnnw wedi marw (ni waeth a oedd gan y rhiant o dan sylw bartner neu beidio);
(ff)lle mae'n aelod o urdd grefyddol sy'n preswylio yn un o dai'r urdd honno;
(g)lle mae yn gofalu am berson o dan 18 oed ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn berthnasol; neu
(ng)lle mae wedi'i gynnal ei hun o'i enillion am unrhyw gyfnod neu gyfnodau sy'n diweddu cyn blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs a bod cyfanswm y cyfnodau hynny gyda'i gilydd heb fod yn llai na thair blynedd, ac at ddibenion yr is-baragraff hwn mae i'w drin fel pe bai'n ei gynnal ei hun o'i enillion yn ystod unrhyw gyfnod —
(i)pan oedd yn cymryd rhan mewn trefniadau ar gyfer hyfforddi'r di-waith o dan unrhyw gynllun a oedd yn cael ei weithredu, ei noddi neu ei ariannu gan unrhyw un o awdurdodau neu asiantaethau'r wladwriaeth, boed cenedlaethol, rhanbarthol neu leol (“awdurdod perthnasol”);
(ii)pan oedd yn cael budd-dal sy'n daladwy gan unrhyw awdurdod perthnasol mewn perthynas â pherson sydd ar gael i'w gyflogi ond sy'n ddi-waith;
(iii)pan oedd ar gael i'w gyflogi a'i fod wedi cydymffurfio ag unrhyw ofyniad ynglŷn â chofrestru a osodwyd gan awdurdod perthnasol fel un o amodau'r hawlogaeth i gymryd rhan mewn trefniadau ar gyfer hyfforddi neu ar gyfer derbyn budd-dal;
(iv)pan oedd ganddo Efrydiaeth y Wladwriaeth(2) neu ddyfarniad tebyg; neu
(v)pan oedd yn cael unrhyw bensiwn, lwfans neu fudd-dal arall a oedd yn cael ei dalu gan unrhyw berson oherwydd anabledd sydd ganddo, neu oherwydd cyfyngder, anaf neu salwch.
(2) Mae myfyriwr cymwys sy'n gymwys i fod yn fyfyriwr cymwys annibynnol o dan baragraff 2(1)(g) mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs dynodedig yn cadw'r statws hwnnw tra pery'r cyfnod cymhwystra.
1989 p.41. Diwygiwyd adran 22 gan Ddeddf Plant (Ymadael â Gofal) 2000 (p.35), adran 2, Deddf Llywodraeth Leol 2000 (p.41), Atodlen 5, paragraff 19, Deddf Mabwysiadu a Phlant 2002 (p.38), adran 116(2) a Deddf Plant 2004 (p.31), adran 52.
Darperir cyllid gan y Cynghorau Cyllido o ran astudio ôl-radd amser-llawn.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: