RHAN 10Amrywiol

Pŵer i wahardd symud anifeiliaid

33.—(1Caiff arolygydd, drwy gyflwyno hysbysiad i geidwad, wahardd symud diadell o ddefaid i'r daliad a bennir yn yr hysbysiad neu ohono, os yw wedi'i fodloni bod y gwaharddiad yn angenrheidiol ar gyfer gorfodi'n briodol y Gorchymyn hwn o ran y ddiadell honno.

(2Caiff arolygydd, drwy gyflwyno hysbysiad i geidwad, wahardd symud geifre i'r daliad a bennir yn yr hysbysiad neu ohono, os yw wedi'i fodloni bod y gwaharddiad yn angenrheidiol ar gyfer gorfodi'n briodol y Gorchymyn hwn o ran yr eifre honno.

(3Caniateir diwygio neu ddirymu hysbysiad a gyflwynir o dan yr erthygl hon drwy hysbysiad ychwanegol ar unrhyw adeg.